Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor
Bwrsariaeth Ymchwil PhD
Dr Panos Athanasopoulos (Ysgol Ieithyddiaeth)
Yr Athro Guillaume Thierry (Ysgol Seicoleg)
Yr Athro Vyvyan Evans (Ysgol Ieithyddiaeth)
Dr Dirk Bury (Ysgol Ieithyddiaeth)
Mae’r project yn anelu at ddatgelu dirnadaethau pobl ddwyieithog o’r byd pan fo’r ddwy iaith yn edrych ar realiti mewn dwy ffordd wahanol. Er enghraifft, mae’r Gymraeg yn dynodi cenedl ar enwau, a hynny’n wahanol i’r Saesneg. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg hefyd yn wahanol o ran y modd y maent yn gweithredu marciau rhifol gramadegol ar enwau. Yn y maes geiriol, mae’r term Cymraeg glas yn cyfateb i’r Saesneg blue, ond defnyddir ef hefyd i ddisgrifio rhan helaeth o’r ardal werdd ar y sbectrwm lliw. Bydd yr ymgeisydd PhD yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau arbrofol ieithyddol, ymddygiadol a niwro-seicolegol er mwyn ymchwilio i’r graddau y mae pobl ddwyieithog Cymraeg-Saesneg yn dirnad gwrthrychau yn y byd real yn wahanol i’r modd y mae siaradwyr uniaith Saesneg yn eu dirnad, a hynny’n deillio o wahaniaethau traws-ieithyddol o ran gramadeg a geirfa rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y project hefyd yn ymchwilio ynglŷn â ph’un a yw pobl ddwyieithog yn meddwl yn wahanol pan fyddant yn defnyddio eu ieithoedd gwahanol. Bydd y math hwn o ddull traws-ddisgyblaethol yn egluro union nodweddion trefniadaeth gysyniadol yn y meddwl amlieithog.
Dr Panos Athanasopoulos. Ym maes gwybyddiaeth ddwyieithog y mae arbenigedd Dr Athanasopoulos. Mae wedi edrych ar farciadau a chategoreiddiad rhifol gramadegol yn achos pobl ddwyieithog Japanëeg-Saesneg, ac ar gategoreiddiad lliw yn achos pobl ddwyieithog Groeg-Saesneg a Chymraeg-Saesneg. Mae wrthi ar hyn o bryd yn arolygu PhD ar genedl ramadegol a dirnadaeth o wrthrychau ymysg pobl ddwyieithog Ffrangeg-Saesneg.
Yr Athro Guillaume Thierry Mae’r project hwn yn rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys methodoleg o faes niwrowyddoniaeth wybyddol. Mae’r Athro Thierry yn arbenigwr blaenllaw yng ngwyddor wybyddol dwyieithrwydd, a hynny wedi’i adlewyrchu yn ei gyhoeddiadau trawiadol ar y pwnc ac yn ei rôl fel Pennaeth y Grŵp Niwrowyddoniaeth yng Nghanolfan yr ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd.
Yr Athro Vyvyan Evans Mae’r Athro Evans yn arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes Ieithyddiaeth Wybyddol.
Dr Dirk Bury Bydd Dr Bury yn rhoi o’i arbenigedd ar ramadeg y Gymraeg, yn benodol yng nghyswllt categorïau megis cenedl a rhif yn y Gymraeg, a fydd yn rhan o ganolbwynt y project hwn. Mae hefyd wedi gweithio ar agweddau ar drefn geiriau yn y Gymraeg, ac wrthi ar hyn o bryd yn arolygu traethawd hir PhD ar effeithiau cyffyrddiad ieithoedd ar gystrawen y Gymraeg lafar.
Am fanylion llawn ynglŷn â thelerau ac amodau’r fwrsariaeth hon, gweler yma
Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau a fo gennych ynglŷn â’r project ymchwil hwn, cyn gwneud cais ffurfiol, at:
Dr Panos Athanasopoulos (Ysgol Ieithyddiaeth) panos@bangor.ac.uk
Hanner dydd, dydd Gwener 30 Ebrill 2010, yw’r terfyn amser ar gyfer ceisiadau. Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch yma
Cysylltir ag ymgeiswyr yn ystod Mehefin 2010, gan roi gwybodaeth iddynt am eu ceisiadau.