UWB Crest

Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor

Rhamantau Lloegr yn y canol oesoedd a’r cyfnod modern cynnar: Dosbarth, gender a chymdeithas a’r newid o lawysgrifau i argraffiadau

Gwobr

Bwrsari Ymchwil PhD

Prif oruchwyliwr:

Dr Raluca Radulescu (Ysgol Saesneg)

Tîm goruchwylio:

Dr Raluca Radulescu (Ysgol Saesneg)
Dr Sue Johns (Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg)
Yr Athro Helen Wilcox (Ysgol Saesneg)

Disgrifiad o’r project:

Prif amcan y project yw nodi’r newidiadau a ddaeth yn sgil addasu rhamantau ynysol Eingl-normanaidd ar gyfer cynulleidfa Saesneg Canol, ar ffurf llawysgrifau ac yna’n hwyrach ar ffurf argraffiadau. Mae deall y cyd-destun yr ysgrifennwyd y rhamantau Eingl-normanaidd ynddo, yn enwedig cefndir sosio-wleidyddol Lloegr yn y ddeuddegfed ganrif a dechrau’r drydedd ganrif a’r ddeg a statws gwragedd bonheddig y cyfnod, yn hanfodol ar gyfer dadansoddi dyfodiad yr hyn a elwir yn ‘ramant ynysol’ - sy’n wahanol i’r rhamantau cyfatebol ar y cyfandir. Yn yr un modd, dylanwadodd amgylchedd amlieithog darllenwyr y rhamantau yn Lloegr y canol oesoedd, a’r newid i lenyddiaeth Saesneg oedd yn bennaf (ond nid yn gyfan gwbl) frodorol, ar y ffordd roedd y rhamantau Eingl-normanaidd gwreiddiol yn cael eu cyfieithu a’u haddasu ar gyfer cynulleidfaoedd newydd yn Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif. Yn ogystal â hyn, mae’r penderfyniadau a wnaed gan William Caxton a’i brentis, Wynkyn de Worde, ynghyd â nifer o argraffwyr Tuduraidd cynnar fel Copland, o ran cyfieithu ac argraffu’r rhamantau hefyd yn rhan o’r project. Gellir cysylltu’r datblygiadau hyn gyda’r addasiadau a wnaed i’r genre ym marddoniaeth Spenseraidd a drama fodern gynnar, yn cynnwys trasigomedi.

Rhagwelir y caiff y project ymchwil arfaethedig ei rannu’n dair, gyda’r ymgeisydd a’r prif oruchwyliwr, gyda chyngor gan y tîm goruchwylio, yn diffinio pob rhan yn fwy penodol. Llenyddiaeth Saesneg y canol oesoedd hwyr fydd prif faes yr ymchwil.

Arbenigeddau’r goruchwylwyr

Mae arbenigedd ymchwil Dr Raluca Radulescu yn cynnwys maes rhamant Arthuraidd a rhamant nad yw’n Arthuraidd trwy’r canrifoedd, diwylliant bonedd y canol oesoedd, croniclau brodorol ac achyddiaeth. Mae wrthi’n ysgrifennu monograff o ramantau Saesneg y canol oesoedd ar hyn o bryd.

Mae arbenigedd Dr Sue Johns yn cynnwys gender a grym yn y cyfnod Eingl-Normanaidd, a’r modd y mae gender yn gysylltiedig â hanesyddiaeth arglwyddiaethau, grym ac awdurdod a choncwest ac imperialaeth.

Mae arbenigedd ymchwil yr Athro Helen Wilcox yn cynnwys llenyddiaeth Saesneg modern cynnar, yn arbennig gweithiau gan ferched, barddoniaeth ddefosiynol, trasigomedi Shakespearaidd, ysgrifennu bywgraffiadol a chysylltiadau rhyng-gelfyddyd. Yr Athro Wilcox yw cyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau'r Oesoedd Canol a Modern Cynnar (IMEMS).

Hyfforddiant arbenigol a’r gymuned ôl-radd

Trefnir hyfforddiant arbenigol ym maes llawysgrifeg a phalaeograffeg llawysgrifau ac argraffiadau o’r canol oesoedd a’r cyfnod modern cynnar gan Dr Raluca Radulescu ym Mangor ac mae’r Ysgol Raddedigion yn rhoi hyfforddiant mewn sgiliau perthnasol eraill (yn cynnwys Lladin canoloesol). Ceir cyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ôl-radd yn cynnwys y gynhadledd flynyddol ôl-radd ar astudiaethau canoloesol ‘Medievalism Transformed’, seminarau ymchwil i staff a myfyrwyr wedi eu trefnu gan y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol (lle mae myfyrwyr yn cyflwyno eu hymchwil eu hunain), cyfnodolyn ôl-radd electronig newydd ac IMEMS (Sefydliad Astudiaethau'r Oesoedd Canol a Modern Cynnar Bangor-Aberystwyth).

Gweler yma am fanylion llawn a thelerau ac amodau’r fwrsariaeth hon.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y project ymchwil hwn cyn gwneud cais ffurfiol at:
Dr Raluca Radulescu (r.radulescu@bangor.ac.uk)

Ceisiadau:

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw hanner dydd, ddydd Gwener 30 Ebrill 2010. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais, ewch yma

Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr yn ystod mis Mehefin 2010 gyda gwybodaeth am eu ceisiadau.