UWB Crest

Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor

Hanes a Hunaniaeth Modern/Cyfoes

Gwobr:

Bwrsariaeth Ymchwil PhD

Goruchwylwyr/Ysgolion:  

Dr Andrew Edwards (Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg)
Dr Dinah Evans (Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg)
Yr Athro Duncan Tanner, (Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg)

Disgrifiad o feysydd y project:

Bangor yw un o’r prifysgolion cryfaf yng ngwledydd Prydain am ymchwil i hanes cyfoes (h.y. y cyfnod er tua  1970), gyda chefndir o brojectau sylweddol a gweithgaredd ôl-radd.  Mewn cydweithrediad â’r tîm goruchwyliol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llunio project ar agwedd ar hanes/hunaniaeth Cymreig yn y cyfnod modern neu gyfoes.  Gall y pynciau hefyd ymwneud â Chymru fel rhan o Brydain, neu ddylanwadau Ewropeaidd ehangach ar Gymru, neu Gymru o’i chymharu â gwledydd Celtaidd eraill.  Gall projectau sy’n cyd-fynd â diddordebau’r tîm goruchwyliol fod â mantais.  Mae enghreifftiau’n cynnwys yr Ail Ryfel Byd a’i effeithiau; hunaniaethau gwleidyddol; newid gwleidyddol; hanes gender; mudiadau ieuenctid, chwaraeon a diwylliant poblogaidd; tueddiadau ieithyddol a rhanbarthol yng Nghymru a gwledydd eraill.

Tîm Goruchwyliol

Mae’r tîm goruchwyliol yn gyfrifol am glwstwr o fyfyrwyr ôl-radd.  Mae hefyd wedi llunio, arwain a chyflwyno hyfforddiant ôl-radd mewn hanes cyfoes i fyfyrwyr o bob rhan o wledydd Prydain.  Mae projectau PhD presennol yn cynnwys project hanes llafar ar fewnfudwyr Seisnig i Gymru er 1970; Newidiadau mewn hunaniaeth fesul cenhedlaeth:  Eidalwyr ym Mhrydain a Chymru er 1945; y cyfryngau a datganoli; dirywiad cymunedau llechi ers y 1960au; newid gwleidyddol yng Nghymru wledig 1945-75; y chwith ym Mhrydain a gwrth-Americaniaeth c.  1939-1964; ffeministiaeth a gwleidyddiaeth Lafur 1964-1979. 

Dr Andrew Edwards – mae ei ddiddordeb pennaf yn hanes modern Cymru a Phrydain.  Mae wedi ysgrifennu ar wahanol agweddau ar newid gwleidyddol er 1945, yn cynnwys datganoli a chenedlaetholdeb Gymreig.  Hefyd mae’n arbenigo mewn hanes llafar ac mae’n rhwydweithiwr rhanbarthol (Cymru) i’r Oral History Society.  Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr yn ymdrin â hanes datganoli Cymreig ar ôl 1945.

Dr Dinah Evans – yn hanes modern Prydain a Chymru y mae’n ymddiddori’n bennaf, yn arbennig effaith yr Ail Ryfel Byd ar hanes gwleidyddol, trefol ac addysgol.  Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr ar Abertawe wedi’r Ail Ryfel Byd. 

Yr Athro Duncan Tanner – mae ei ddiddordeb pennaf yn hanes modern Cymru a Phrydain, yn arbennig hanes y Blaid Lafur, er ei fod wedi ysgrifennu hefyd ar Thatcheriaeth, datganoli a pholisïau ar yr Iaith Gymraeg.  Ef yw prif olygydd cyfnodolyn yr OUP Twentieth Century British History ac mae’n Gyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol ar hyn o bryd.               

Am fanylion llawn am delerau ac amodau’r fwrsariaeth hon edrychwch yma

Dylid cyfeirio ymholiadau cyn gwneud cais ffurfiol at:
Dr Andrew Edwards (a.c.edwards@bangor.ac.uk)

Ymgeisio:

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw ganol dydd ddydd Gwener 30 Ebrill 2010. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch yma

Cysylltir ag ymgeiswyr yn ystod Mehefin 2010 gyda gwybodaeth yn ymwneud â'u ceisiadau.