Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor
Bwrsari Ymchwil PhD
Yr Athro Tony Brown (Ysgol y Saesneg)
Dr Jason Walford Davies (Ysgol y Gymraeg)
Sefydlwyd Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas yn 2000 fel cydweithrediad rhwng Ysgol y Gymraeg ac Ysgol y Saesneg, ac mae wedi’i lleoli yn y Brif Lyfrgell. Cydnabyddir hi ar lefel ryngwladol am ei swyddogaeth flaenllaw yn yr astudiaeth ar weithiau R.S. Thomas. Mae ei daliadau yn cynnwys y casgliad mwyaf sylweddol o lawysgrifau a gohebiaeth Thomas, yn cynnwys llawer o gerddi heb eu cyhoeddi, a geir mewn unrhyw gasgliad cyhoeddus, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o’r cyfan o waith cyhoeddedig Thomas, yn cynnwys argraffiadau prin, deunydd beirniadol a darllediadau, deunyddiau fideo etc. Trwy ei gwefan, mae’r Ganolfan yn derbyn ymholiadau’n gyson gan ysgolheigion yn rhyngwladol, yn cynnwys o Ewrop, UDA, Japán a Tsieina, a byddwn yn aml yn cael ysgolheigion gwadd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn project PhD yn edrych ar agweddau ar waith ysgrifenedig R.S. Thomas, gan dynnu ar y deunydd helaeth a geir yn archif Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas. Gwahoddir ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sy’n gweithio yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Penderfynir ynglŷn â’r union bwnc i’w astudio mewn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a’r arolygwyr, ond mae meysydd posibl o astudiaeth yn cynnwys:
a) Yr R.S. Thomas ôl-drefedigaethol.
b) Effaith gyfunol gwaith ysgrifenedig R.S. Thomas a gwaith celf M.E. Eldridge (roedd Elsi Eldridge, gwraig y bardd, yn arlunydd o fri a gafodd ddylanwad amlwg – er nas cydnabuwyd hyd yma – ar waith Thomas, a bu’n cydweithio ag ef ar rai projectau cynnar. Mae’r Ganolfan yn meddu ar nifer o’i llyfrau brasluniau a’i chylchgronau).
c) Astudiaeth destunol ar R.S. Thomas (e.e. astudiaeth ar esblygiad gwaith cynnar Thomas – mae’r Ganolfan yn meddu ar deipysgrif o’i gasgliad cyntaf, sydd heb ei gyhoeddi – neu astudiaeth ar y llawysgrifau a’r teipysgrifau diweddarach sydd heb eu cyhoeddi).
d) R.S. Thomas ac ysgrifennu Cymreig yn y Saesneg.
e) R.S. Thomas a’r diwylliant Cymraeg.
Cydnabyddir bod y ddau Gyd-gyfarwyddwr, Dr Jason Walford Davies (Cymraeg) a’r Athro Tony Brown (Saesneg) yn ysgolheigion blaenllaw ym maes Thomas. Mae cyfrol Dr Davies R.S. Thomas: Letters to Raymond Garlick, 1951–1999 newydd gael ei chyhoeddi; bernir mai ei lyfr cynharach, Gororau’r Iaith: R.S. Thomas a’r Traddodiad Llenyddol Cymraeg (GPC 2003), yw’r astudiaeth fwyaf awdurdodol. Cyhoeddwyd astudiaeth yr Athro Brown ar y bardd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2006 yn ei chyfres ‘Writers of Wales’. Ar hyn o bryd, maent wrthi’n cyd-olygu detholiad o’r nifer sylweddol iawn o gerddi heb eu casglu gan R.S. Thomas ar gyfer Bloodaxe Books.
Am fanylion llawn ynglŷn â thelerau ac amodau’r fwrsariaeth hon, gweler yma
Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau a fo gennych ynglŷn â’r project ymchwil hwn, cyn gwneud cais ffurfiol, at:
Yr Athro Tony Brown, Ysgol y Saesneg, Prifysgol Bangor; els015@bangor.ac.uk
Dr Jason Walford Davies, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor; wes009@bangor.ac.uk
Hanner dydd, dydd Gwener 30 Ebrill 2010, yw’r terfyn amser ar gyfer ceisiadau. Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch yma
Cysylltir ag ymgeiswyr yn ystod Mehefin 2010, gan roi gwybodaeth iddynt am eu ceisiadau.