Gwnewch Gais Nawr!
Gwnewch gais am un o'n Ysgoloriaethau Ymchwil Dathlu yma
I ddathlu ein 125 Mlwyddiant yn 2009, lansiodd
Prifysgol Bangor raglen pum mlynedd i ehangu ei darpariaeth ôl-radd.
Fel parhad o’r ehangu
strategol hwn, yn 2012/2013 byddwn yn cynnig rhagor o ysgoloriaethau
ymchwil PhD.
Edrychwch isod am fanylion Ysgoloriaethau Ymchwil Dathlu Prifysgol
Bangor.
Yn ogystal, ewch i wefan KESS
am fanylion y cynllun hwn a’r MRes
opportunities sydd ar gael.
Edrychwch ar y tudalennau
hyn hefyd am ysgoloriaethau ôl-radd eraill a gynigir gan ein Colegau.
Ysgoloriaethau Dathlu Prifysgol Bangor
Mae Cynllun Ysgoloriaethau Dathlu Prifysgol Bangor
yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr gorau weithio gyda’n hacademyddion mwyaf
blaenllaw a’n hacademyddion ifanc mwyaf addawol. Mae’r buddsoddiad mewn
ysgoloriaethau ymchwil yn rhan o strategaeth y Brifysgol i gynyddu ein
rhagoriaeth ymchwil, ac i ddatblygu ein hamgylchedd ymchwil bywiog.
Rydym yn brifysgol uchelgeisiol, sydd wedi ymrwymo i ehangu ein gweithgarwch
ymchwil a’n henw da yn rhyngwladol.
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr o’r DU, yr UE
ac o bob cwr o’r byd.
Mae Ysgoloriaeth Ymchwil Dathlu Prifysgol Bangor
yn cynnig ...
. . . cefnogaeth i astudio’n llawn amser ar gyfer
PhD ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod o dair blynedd. Mae’r efrydiaethau’n
talu’r ffioedd am dair blynedd ac yn rhoi grant cynhaliaeth a lwfans
ymchwil blynyddol. Mae’r bwrsariaethau’n cynnig grant cynhaliaeth yn
unig.
Gwneud Cais am Ysgoloriaeth
Os hoffech wneud cais am Ysgoloriaeth Dathlu
Prifysgol Bangor, ewch i'r dudalen Sut i Wneud
Cais.
Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Mae chwe coleg yn y Brifysgol, sy'n cynnig adnoddau
o'r radd flaenaf yn y meysydd a restrir isod: