Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor
Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau’n cynnig 5 o efrydiaethau ac 11 o fwrsariaethau. Croesewir ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr Cartref/UE a Rhyngwladol.
Mae'r Coleg yn croesawu ceisiadau yn ei holl ddisgyblaethau, ond defnyddir
yr efrydiaethau hyn er mwyn ehangu’r meysydd lle’r ydym yn rhagori mewn
ymchwil. Caiff myfyrwyr llwyddiannus eu goruchwylio gan arweinwyr yn
eu maes - ac er y byddant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn dilyn
eu hastudiaethau, byddant hefyd yn gweithio gyda'r arweinwyr hyn er
mwyn cynorthwyo ar brojectau drwy weithio fel cynorthwywyr ymchwil,
dysgu neu reoli project.
Mae’r meysydd project fel a ganlyn:
Hanner dydd 30 Ebrill 2010 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac rydym yn disgwyl y gallwn roi gwybod i ymgeiswyr a fu eu ceisiadau’n llwyddiannus ym mis Mehefin.
I wneud cais, llenwch Ffurflen Gais Ôl-Radd y Brifysgol sydd ar gael yma.
Wrth wneud cais, rhaid i chi gynnwys gyda’r Ffurflen Gais Ôl-raddedig ddatganiad hyd at 500 gair yn dweud sut y gallech ddatblygu a chyfrannu at y project ymchwil dan sylw. Dylech gyfeirio at brofiad blaenorol perthnasol, gan gynnwys astudiaethau academaidd a phrofiad arall.
* MAE’N RHAID I CHI EI GWNEUD YN GLIR eich bod yn gwneud cais am un o Ysgoloriaethau Dathlu Prifysgol Bangor trwy ysgrifennu ‘YSGOLORIAETH DDATHLU’ ac yna TEITL Y PROJECT wrth ateb Cwestiwn 3, o dan Eitem 5 ar y Rhestr Wirio ‘A ydych yn gwneud cais am broject ymchwil/efrydiaeth a hysbysebwyd gan Brifysgol Bangor?Os felly, ysgrifennwch deitl llawn y project yma. Nodwch hefyd god y project yma (a welir mewn cromfachau ar ôl pob maes project isod).
Os ydych am holi’n gyffredinol am geisiadau cysylltwch â:
Dr Suan Lee
Gweinyddwr Ôl-radd
Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Prifysgol Bangor
Ffôn: 01248 382287
Ebost: s.lee@bangor.ac.uk