Efrydiaethau Dathlu Prifysgol Bangor
Bydd pob deiliad efrydiaeth PhD yn derbyn grant
cynhaliaeth blynyddol o £13,000 (ar gyfer 2012/13). Am y ddwy flynedd
ddilynol (2013/14; 2014/15), bydd y tâl yn adlewyrchu cyfarwyddyd Cynghorau
Ymchwil y DU. Bydd deiliaid efrydiaethau PhD hefyd yn derbyn lwfans
ymchwil blynyddol o hyd at £1,500 (ar gyfer gwariant cymeradwy). Nid
yw'r sawl sy'n derbyn efrydiaeth yn talu ffioedd. Ni thelir unrhyw lwfansau
ychwanegol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu 100 o oriau
addysgu/ymchwil cynorthwyol dan ofal goruchwyliwr /tîm ymchwil fel rhan
o'u datblygiad fel un o academyddion y dyfodol.
Bwrsariaethau Dathlu Prifysgol Bangor
Mae pob bwrsariaeth PhD yn rhoi lwfans blynyddol
o £7000. Ni thelir unrhyw lwfansau ychwanegol. Rhaid i’r sawl sy’n derbyn
bwrsariaeth dalu ffioedd. Nid oes disgwyl i ddeiliaid bwrsariaethau
ddysgu neu weithio fel Cynorthwywyr Ymchwil, ond gallant wneud cais
i wneud hynny os bydd swyddi’n codi.