Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy (MSc/MA)
Disgrifiad
- Diddordeb yn ein dyfodol?
- Wedi graddio'n ddiweddar?
- Profiad eang o waith perthnasol?
- Angen hwb i'ch gyrfa?
- Am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae’r cwrs meistr cyfrwng Cymraeg unigryw hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb gwirioneddol mewn datblygiad cynaliadwy a materion amgylcheddol.
Mae galw cynyddol gan gyflogwyr yng Nghymru am bobl sydd nid yn unig gyda’r cymwysterau amgylcheddol perthnasol, ond sydd hefyd yn gallu trin a thrafod y maes allweddol hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, mae meithrin a datblygu staff dwyieithog proffesiynol yn flaenoriaeth iddynt ac mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes allweddol hwn.
Strwythur y cwrs
Dysgir y cwrs mewn dwy ran:
Rhan Un – Cynhelir Rhan Un o Fedi i Fehefin. Ceir rhaglen ddiddorol o fodiwlau gan gynnwys lleoliadau proffesiynol a gwaith maes ymarferol. Hefyd ceir modiwl unigryw fydd yn datblygu sgiliau Cymraeg, yn arbennig i weithwyr yn y maes amgylcheddol, yn ogystal â methodoleg ymchwil fydd yn eich paratoi ar gyfer traethawd hir. Rhaid cwblhau Rhan Un yn llwyddiannus cyn mynd ymlaen i Ran Dau.
Rhan Dau - Cynhelir y rhan yma o'r cwrs o Fehefin i Fedi a byddwch yn ymgymryd â phroject ymchwil a gyflwynir ar ffurf traethawd hir. Byddwch yn penderfynu ar broject o'ch dewis ac yna cytunir ar y testun gyda'ch goruchwyliwr. Gall yr ymchwil fod yn berthnasol i unrhyw faes o reolaeth amgylcheddol gynaliadwy. Bydd maes ymchwil penodol y traethawd hir yn penderfynu ai gradd MSc neu MA fydd yn cael ei dyfarnu i chi ar ddiwedd y cwrs.
Modiwlau Rhan Un
- Cysyniadau Datblygiad Cynaliadwy
Mae’r modiwl hwn yn rhoi sylfaen gadarn o’r cysyniadau allweddol sy’n gysylltiedig â datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys yr elfennau amgylcheddol, economeg a chymdeithasol. Byddwn yn ystyried cynaladwyedd mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig, yn ogystal â’r elfen ryngwladol, gan gynnwys astudio polisïau a deddfwriaeth lywodraethol. Bydd nifer o arbenigwyr proffesiynol allanol yn cyfrannu’n helaeth tuag at y modiwl.
- Rheolaeth Cefn Gwlad
Yn y modiwl hwn byddwn yn astudio elfennau o ddefnydd tir, cadwraeth, datblygiad cymunedol, amaethyddiaeth, coedwigaeth, cynllunio, ynni amgen, twristiaeth gynaliadwy a hamdden. Bydd cyfleoedd arbennig ar gyfer gwaith maes ymarferol, gan gynnwys ymweliadau i Eryri ac Ynys Môn. Byddwn yn astudio projectau sy’n ymwneud â datblygu cefn gwlad cynaliadwy a cheir cyfraniadau pwysig gan nifer o’r asiantaethau amgylcheddol, cyrff gwirfoddol, awdurdodau lleol, busnesau a grwpiau cymunedol.
- Yr Amgylchedd Adeiledig
Mae’r modiwl hwn yn astudio agweddau ar ddylunio adeiladau, rheoli gwastraff, arbed ynni, trafnidiaeth, llecynnau gwyrdd trefol, datblygiad cymunedol, a chynllunio trefol a dinesig, mewn ffordd sy’n hybu datblygiad cynaliadwy. Bydd cyfleoedd ar gyfer gwaith maes preswyl yn Ne Cymru, gan gynnwys ymweliadau â dinasoedd Caerdydd, Abertawe a’r Cymoedd. Ceir hefyd gyfnod o astudio dwys yn y Ganolfan Technoleg Amgen. Bydd arbenigwyr allanol yn cyfrannu’n helaeth at y modiwl, gan gynnwys asiantaethau amgylcheddol, awdurdodau lleol, busnesau a grwpiau cymunedol.
- Gwaith Maes
Mae gwaith maes yn elfen ganolog yn y modiwlau i gyd. Yn ogystal, ceir wythnos o waith maes preswyl dwys yn Iwerddon lle byddwn yn astudio agweddau ar ddefnydd tir, cynllunio a datblygiad cynaliadwy ar lefel gymunedol. Mae’r gwaith maes integredig hwn yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith unigol ac mewn grwpiau rhyngweithiol. Prif bwrpas yr astudiaeth yw cymharu’r sefyllfa yng Nghymru ac Iwerddon o safbwynt Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy a chael cyfle i astudio materion cysylltiedig mewn gwlad arall yn Ewrop.
- Gloywi Iaith ar gyfer Amgylcheddwyr
Modiwl arbennig ar gyfer gweithwyr ym maes yr amgylchedd fydd yn datblygu sgiliau cyfathrebu yn yr iaith Gymraeg. Mae’r modiwl yma’n cael ei ddarparu gan arbenigwyr o Ganolfan Bedwyr ac mae wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr y cwrs meistr. Pwrpas y modiwl yw meithrin hyder unigolion ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg yn y maes amgylcheddol, nid yn unig o safbwynt academaidd ond yn enwedig ar gyfer sefyllfaoedd proffesiynol ac yn y gweithle.
- Methodoleg Ymchwil
Cyn dechrau ar y project ymchwil unigol yn Rhan Dau, mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno Cynllun Ymchwil manwl sy’n cynnwys adolygiad o lenyddiaeth berthnasol, manylion yn ymwneud â dulliau a thechnegau ymchwilio a manylion ymarferol eraill. Mae’r modiwl hwn yn cynnwys seminarau a darlithoedd sy’n cynorthwyo’r myfyrwyr i baratoi’r Cynllun Ymchwil.
- Lleoliad Gwaith Proffesiynol
Mae hwn yn fodiwl allweddol i’r cwrs ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad proffesiynol gyda chorff neu fudiad amgylcheddol perthnasol i’ch diddordebau. Cynhelir y lleoliad pedair wythnos ar ddiwedd Rhan Un yn ystod Mai a Mehefin. Cyfrifoldeb y myfyrwyr eu hunain, gydag arweiniad adrannol, yw trefnu’r lleoliad ymlaen llaw ac mae cyfleoedd gwych ar gael mewn awdurdodau lleol, cyrff amgylcheddol, busnesau, grwpiau cymunedol a’r sector wirfoddol. Un o fanteision amlwg y lleoliad yw ehangu gorwelion a phrofiadau gyda darpar gyflogwyr a fydd o gymorth mawr wrth ymgeisio am swyddi a datblygu gyrfa yn y maes.
Cyfleoedd Gwaith a Datblygiad Gyrfaol
Un o brif amcanion y cwrs meistr arbennig hwn yw ymateb i’r galw cynyddol sydd ymysg cyflogwyr yng Nghymru am unigolion gyda’r cefndir academaidd perthnasol a hefyd y sgiliau a’r hyder i gyfathrebu’n effeithiol mewn sefyllfaoedd dwyieithog.
Mae gwir angen staff dwyieithog mewn awdurdodau lleol, adrannau cynllunio ac ym myd busnes a’r sector breifat. Rhai o’r prif gyflogwyr yw’r cyrff amgylcheddol statudol a’r sector wirfoddol, e.e. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Y Comisiwn Coedwigaeth, Y Parciau Cenedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Mae cyfleoedd hefyd yn y maes ymgynghorol, byd addysg a diwydiant.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn arbennig o addas ar gyfer unigolion sydd yn ystyried newid cyfeiriad neu sydd eisoes mewn swydd berthnasol ac sy’n awyddus i ehangu eu gorwelion. Mae’n bosib dilyn y cwrs yn llawn amser, neu’n rhan amser fel rhan o ddatblygiad proffesiynol mewn swydd.
Gwneud Cais
Gellir cael manylion ar sut i wneud cais, a hefyd wybodaeth am ffioedd, gan Y Gofrestra Academaidd, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, neu ewch i'r wefan ganlynol: www.bangor.ac.uk
Cymorth Ariannol
Mae cymorth ariannol penodol ar gael ar gyfer astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys:
- AmNawdd - y cynllun noddi amgylcheddol
- Bwrsariaeth Prifysgol Bangor
Cysylltwch â Paula Roberts, cyfarwyddwr y cwrs, am fanylion pellach: e-bost: p.roberts@bangor.ac.uk
Cefnogir y cwrs gan:
Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg
Centre for Welsh Medium Higher Education
Manylion pellach
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r canlynol yn Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2UW.
Paula Roberts, Cymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Ffon: +44 (0) 1248 382976
e-bost: p.roberts@bangor.ac.uk
Meryl Furlong, Gweinyddwr Cyrsiau Meistr
Ffon: +44 (0) 1248 383708
e-bost: m.furlong@bangor.ac.uk
Neu ewch at ein gwefan:
www.bangor.ac.uk neu www.bangor.ac.uk/senr
Cymhwyster
MSc/MA
Hyd
Mae’r cwrs ar gael yn llawn amser dros flwyddyn neu’n rhan amser dros ddwy flynedd.
Mynediad
Dylai bod gan ymgeiswyr radd Dosbarth 2(ii), neu uwch, mewn maes perthnasol. Derbynnir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr gyda chefndir mewn meysydd eraill ond sydd â gwir ymroddiad a diddordeb mewn astudio’r pwnc.
Hefyd byddwn yn derbyn ymgeiswyr sydd heb radd ond sydd â phrofiad eang o waith perthnasol ac sy’n awyddus i ddatblygu neu newid gyrfa.