UWB Crest

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Os ydych yn meddwl astudio'r amgylchedd, rydych chi wedi dod i'r lle iawn!

Yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yw’r lleoliad anhygoel ym Mhrydain ar gyfer addysg prifysgol mewn cadwraeth a rheoli’r amgylchedd naturiol.

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth ar gael, gan roi cefnogaeth ariannol am flwyddyn i fyfyrwyr llawn-amser, sy’n talu ffioedd llawn, ar ein rhaglenni MA/MSc.

Cyrsiau is-raddedig ac ôl-raddedig

Rydym yn gwneud yn fawr o’r ffaith yma yn yr agweddau ymarferol o’n cyrsiau is-raddedig ac ôl-raddedig trwy ddysgu yn ogystal â’n graddau ymchwil.

Lleoliad perffaith

Rydym wedi ein lleoli yn berffaith ar gyfer astudio gwyddorau’r amgylchedd, daearyddiaeth, cadwraeth a rheoli adnoddau naturiol. Mae Bangor wedi ei lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a’r môr yn un o ardaloedd prydferthaf ym Mhrydain. O fewn 15 milltir o Fangor mae 10 Gwarchodfa Natur yn cynnwys 3 safle mynyddig, 3 coedwig, 3 gwlypdir ac 1 twyn tywod. Yn ogystal mae 1 Parc Cenedlaethol, 2 leoliad o Brydferthwch Naturiol, 4 arfordir treftadaeth, 9 gwarchodfa nature ac 83 safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Labordy byw ar ein stepen drws!

Ysgol gyfeillgar gyda’r safon uchaf o addysgu

Rydym yn Ysgol gyfeillgar gyda’r safon uchaf o addysgu ac enw da am ymchwil yn fyd-eang. Mae Bangor ei hun yn ddinas prifysgol gyfleus sydd a’r holl gyfleusterau y byddech yn disgwyl o fewn cerdded. Mae gan yr ardal hefyd gostau byw isel a lefel isel o drosedd.

Angen mwy o wybodaeth?

I wybod mwy amdanom pam wna wnewch chi lwytho mwy o wybodaeth am yr ysgol i lawr i weld beth sydd ar gael neu dewch draw i un o’n diwrnodau agored.