UWB Crest

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Newyddion

Newyddion yn ôl...

Newyddion Hŷn

Adroddiad gan staff SENRGy yn tynnu sylw at effaith economaidd y clafr yng Nghymru

Dyddiad Cyhoeddi: 10/05/2012

Mwy......


Enwi Cymdeithas Ddaearyddiaeth yn Gymdeithas y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor

Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2012

Mwy......


Ysgoloriaeth PhD ym maes Geocemeg a Phrosesau Dalgylch Afonol (Cyfwng Cymraeg)

Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor yn cynnig Ysgoloriaeth PhD ym maes geocemeg a phrosesau dalgylch afonol. Fe fydd y prosiect yn gweithio gyda’r sector ddiwydiannol, cyrff rheoli dŵr a’r gymuned leol i adnabod ffynhonnell a natur llygredd cemegol mewn dalgylch afonol ôl-ddiwydiannol yng Ngogledd Cymru ac i ddatblygu technolegau ar gyfer gwella ansawdd dŵr yn y mannau hynny.

Dyddiad Cyhoeddi: 24/04/2012

Mwy......


Dringo i Gopa’r Denali

Bydd Will Hardy, myfyriwr flwyddyn gyntaf sy’n astudio Daearyddiaeth ym Mangor, yn mynd a’i ddiddordeb mewn dringo i’r lefel eithaf dros yr haf wrth iddo dreulio mis ar daith ddringo yng ngogledd America.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2012

Mwy......


Myfyriwr o Ysgol yr Amgylchedd, Gwyddorau Naturiol a Daearyddiaeth wedi’i ddewis yn wirfoddolwr ar gyfer y Gêmau Olympaidd!

Dyddiad Cyhoeddi: 13/04/2012

Mwy......


Myfyrwyr SENRGY yn cymryd rhan mewn Gweithdy BRAND

Dyddiad Cyhoeddi: 12/04/2012

Mwy......


Troi sbwriel yn arian parod: lladd dau aderyn ag un ergyd ym Mangladesh

Gellir defnyddio gwastraff trefol i ddarparu ffynhonnell werthfawr o faetholion ar gyfer priddoedd ffermio'n ddwys ym Mangladesh, gyda'r effaith o wella amaethyddiaeth a chynyddu cnydau, a chael gwared ar ddeunyddiau gwastraff budr o strydoedd y ddinas.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012

Mwy......


Yn ôl adroddiad, gellid creu ffrydiau incwm newydd wrth dyfu'n fasnachol blanhigion gwyllt sydd dan fygythiad o’u gor-gasglu

Efallai bod dail palmwydd egsotig o goedwigoedd yn Belize, Canolbarth America,   sydd yn eich tusw Sul y Mamau eleni. Mae eu hallforio ar gyfer y diwydiant trefnu blodau yn bygwth parhad un planhigyn yn ei gynefin gwyllt ac mae'n enghraifft o un o lawer o fygythiadau o'r fath i glystyrau o blanhigion gwyllt.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2012

Mwy......


Ysgoloriaethau Mynediad at Gyrsiau Meistr ar gael 2012/2013

Mae nifer gyfyngedig o leoedd wedi’u cyllido ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb astudio am raddau MA/MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy (Cyfrwng Cymraeg) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth o fis Medi 2012.  

Dyddiad Cyhoeddi: 14/03/2012

Mwy......


Ysgoloriaethau Mynediad at Gyrsiau Meistr ar gael

Mae nifer gyfyngedig o leoedd wedi’u cyllido ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb astudio am raddau MA/MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy (Cyfrwng Cymraeg) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth o fis Medi 2012. 

Dyddiad Cyhoeddi: 14/03/2012

Mwy......


Ysgoloriaethau ôl-radd cyfrwng Cymraeg ar gael

Dyddiad Cyhoeddi: 02/03/2012

Mwy......


Un o Raddedigion SENRGY yn ennill gwobr ‘Peiriannydd Amgylcheddol Ifanc y Flwyddyn’ 2011

Dyddiad Cyhoeddi: 13/01/2012

Mwy......


Rhaglen newydd i’w lansio mewn Coedwigaeth Drofannol

Bydd cwrs dysgu o bell MSc mewn Coedwigaeth Drofannol yn cael ei lansio ym Medi 2012. Caiff y rhaglen ei datblygu a’i chynnal mewn cydweithrediad â Phrifysgol adnabyddus Copenhagen.   

Efallai y bydd cyllid ysgoloriaeth i'w gael i'r cwrs rhan-amser tair blynedd, ac edrychir yn llawn ar hyn dros y misoedd i ddod. 

Dyddiad Cyhoeddi: 22/12/2011

Mwy......


Diflaniad tabŵs traddodiadol yn bygwth lemyriaid Madagascar

Mae ynys Madagascar yn enwog drwy’r byd am ei hanifeiliaid unigryw, megis y lemyriaid. Gwarchodir llawer o rywogaethau prin gan gyfreithiau’r wlad. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hela anghyfreithlon ar rywogaethau a warchodir yn digwydd ar raddfa fawr mae'n debyg a bod hynny'n fygythiad difrifol i fioamrywiaeth y wlad, sydd o bwysigrwydd byd-eang.   

Mae ymchwil gan dîm o Brifysgol Bangor a’r sefydliad Madagasikara Voakajy yn awgrymu bod hela rhywogaethau gwarchodedig yn nwyrain Madagascar ar gynnydd oherwydd newidiadau cymdeithasol cyflym. Yn draddodiadol roedd llawer o rywogaethau lemyriaid yn cael eu parchu gan fod llawer yn eu hystyried yn ysbrydion hynafiaid a gollwyd yn y goedwig. Er enghraifft, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn byw o gwmpas y coedwigoedd yn breuddwydio am hela’r Indri, y lemwr mwyaf yn y byd. Yn ôl traddodiad roedd Indri wedi achub un o’u hynafiaid pan syrthiodd o goeden wrth gasglu mêl gwyllt yn y goedwig. Fe wnaeth hwnnw ddatgan wedyn y dylai rhywogaeth yr Indri gael ei gwarchod a'i pharchu am byth. Gwaetha’r modd, nid yw mwyngloddwyr aur anghyfreithlon, ac eraill sy’n symud i’r ardal, yn rhannu’r un gwerthoedd.  

Dyddiad Cyhoeddi: 16/12/2011

Mwy......


Cyllid rhyngwladol ar gyfer polisïau amgylcheddol wedi’i seilio ar dystiolaeth wan

Mae datgoedwigo trofannol yn cyfrannu at newid hinsawdd, mae'n dinistrio bioamrywiaeth a gall niweidio buddiannau pobl leol.  Mae'r cynllun Rheoli Coedwigoedd yn Gymunedol / Community Forest Management (CFM) wedi cael ei hyrwyddo fel ateb delfrydol (arbed coedwigoedd a bod o fudd i gymunedau lleol yr un pryd) ac mae cyllidwyr byd-eang wedi buddsoddi biliynau o ddoleri mewn rhaglenni CFM mewn gwledydd sy’n datblygu.  Fodd bynnag, mae astudiaeth a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn tynnu sylw at y diffyg tystiolaeth y mae buddsoddiadau o’r fath wedi’i seilio arni ac mae’n galw am ddulliau gwell o gasglu tystiolaeth yn y dyfodol.

Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2011

Mwy......


Gwobrwyo Project sy’n helpu ffermwyr arbed arian a gwarchod yr amgylchedd

Mae project gan Brifysgol Bangor sy’n helpu ffermwyr yng Nghonwy i fod yn gynnil a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd wedi’i gydnabod fel enghraifft o ymarfer da ar gyfer yr amgylchedd gan gangen Conwy Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW).

Dyddiad Cyhoeddi: 07/06/2011

Mwy......


Mae Bangor yn cynnig deg Ysgoloriaeth ddysgu-o-bell newydd ym maes Coedwigaeth Ryngwladol, diolch i Gomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad

Mae’n bleser gan Staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) Prifysgol Bangor gyhoeddi bod Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad (CSC) wedi cytuno i gyllido 10 lle ar gyfer ysgolorion o wledydd datblygol o fewn y Gymanwlad i astudio ar gwrs dysgu-o-bell yr MSc mewn Coedwigaeth.  Bydd yr ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd dysgu rhyngwladol, ynghyd ag ysgoloriaeth deithio, fel y gall ysgolorion fynd ar gwrs maes yn 2012 neu 2013.

Dyddiad Cyhoeddi: 27/01/2011

Mwy......


Prifysgol Bangor yn helpu i ddatblygu dysgu gwyddor cadwraeth ym Mangladesh a Ghana

Mae academyddion ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda chydweithwyr o Fangladesh a Ghana i gynyddu a gwella dysgu gwyddor cadwraeth yn y ddwy wlad hyn sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth. Mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyllido project sy’n caniatáu cyfnewidiadau rhwng staff, ymchwilwyr a staff o Brifysgolion ym Mangladesh, Ghana a Bangor. Ar hyn o bryd mae tri aelod staff o Brifysgol Khulna a Phrifysgol Rajshahi ym Mangladesh, a Phrifysgol Accra yn Ghana, ym Mangor yn cymryd modiwl MSc mewn bioleg cadwraeth ac yn gweithio gyda staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth i ddatblygu cwricwla bioleg cadwraeth ar gyfer eu prifysgolion eu hunain.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/12/2010

Mwy......


I Affrica ‐ Datblygu Cynaliadwy Cymreig

Mae arbenigwyr Cymreig ar dechnolegau ynni adnewyddadwy wedi bod yn rhannu eu profiadau i bobl fusnes fu ar gwrs ar ynni adnewyddadwy. Y gobaith yw y byddant yn gallu mynd â’u profiadau o Gymru yn ôl i Affrica i ddatrys yr her sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd fyd‐eang. Cafodd y pymtheg oedd yn rhan o’r cwrs eu hannog i ddatblygu syniadau busnes eu hunain fydd yn datrys problemau’n ymwneud â datblygu’n gynaliadwy.

Dyddiad Cyhoeddi: 04/10/2010

Mwy......