Mae Bangor wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd Eryri ac afon Menai; mae’n debyg mai dyma’r lleoliad prifysgol prydferthaf ym Mhrydain.
Efallai nad yw’r ddinas mor fawr â dinasoedd eraill yr ydych wedi ymweld â nhw - ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes dim i’w wneud yma. Mae 'na ddigonedd o lefydd i fynd, clybiau i ymuno â nhw, gweithgareddau i’w gwneud ac mae 'na fywyd cymdeithasol gwych!

Gan ei bod yn ddinas hanesyddol, mae Bangor yn llawn diwylliant felly os ydych yn hoff o ddramâu, dawns, celf neu gerddoriaeth - chewch chi mo’ch siomi yma.
Ond os ydych chi’n mwynhau’r awyr agored ac yn gwerthfawrogi natur - mae ardal Bangor yn berffaith i chi! Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn baradwys i’r rhai hynny ohonoch sy’n gwerthfawrogi natur ar ei harddaf. Mae’r parc yn 25 milltir o dirwedd syfrdanol.
Mae digon hawdd cyrraedd Bangor o unrhyw le - gan fod y ddinas wedi’i lleoli ddim ond 90 munud o Faes Awyr Manceinion ac ychydig oriau o Ddulyn gyda’r llong o Gaergybi. Mae yna drenau a bysys yn rhedeg yn rheolaidd hefyd i gysylltu’r de a’r gogledd yn ogystal â dinasoedd fel Manceinion, Llundain, Lerpwl a Birmingham. Mae modd dal y bws neu’r trên hefyd i fynd o amgylch yr ardal leol.
Os ydych chi eisoes â diddordeb brwd mewn gweithgareddau awyr agored fe fyddwch chi’n hapus eich byd gyda’r dewis eang o gyfleoedd ar stepen drws y Brifysgol. Mae gweithgareddau fel paragleidio, syrffio, caiacio, hwylio, dringo a llawer mwy i gyd ar gael yn yr ardal yn ogystal â chwaraeon tîm fel pêl-droed, hoci a rygbi.
Mae wedi'i lleoli mewn ardal Gymreig lle mae'r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd. Mae hefyd yn braf gwybod fod cyfradd droseddu gogledd Cymru yn un o’r rhai isaf ym Mhrydain.
I weld dros eich hun sut le yw Bangor, pam na wnewch chi ymweld â'n tudalennau Fideos a Theithiau?