UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Gwybodaeth cyffredinol am yr Ysgol

Delwedd o Brifysgol Bangor

Cafodd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ei sefydlu'n 1966. Mae'n ganolfan sy'n ffynnu mewn dysgu ac ymchwil yn y meysydd canlynol:

  • Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
  • Gofal Iechyd a Diogelwch
  • Polisi Cymdeithasol
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Cymdeithaseg

Rydym yn adnabyddus am drylwyredd ein dysgu a'r help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’n myfyrwyr. Mae gennym hefyd enw da am ein gwaith ymchwil sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol ac mae cynnyrch yr ymchwil yn cael ei fwydo i mewn i'n cyrsiau yn ddi-baid. Mae cyhoeddiadau ac erthyglau gan staff yr ysgol wedi derbyn enw da cydnabyddedig yn eu meysydd pwnc ar lefel rhyngwladol.

Mae'r staff hefyd yn arolygu ymgeiswyr MA, MPhil a PhD yn eu meysydd pwnc arbenigol. Mae hyn yn golygu y cewch eich dysgu gan diwtoriaid sy'n cynnal a chyhoeddi ymchwil weithredol yn y pynciau y byddwch yn eu hastudio.

Mae'r holl raglenni sydd ar gael yn yr Ysgol yn cynnig hyfforddiant trwyadl yn egwyddorion sylfaenol Gwyddorau Cymdeithas, ystod eang o bynciau arbenigol, hyfforddiant mewn dadansoddi ymchwil cymdeithasol a pharatoad ar gyfer ystod o gyfleodd gyrfaol.