Mae’r Ysgol yn unigryw drwy gynnig graddau gwyddorau cymdeithas anrhydedd sengl a chydanrhydedd yn llwyr drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Mae cyfran helaeth o’n staff dysgu, staff gweinyddol a’n myfyrwyr yn siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu natur ddwyieithog a ddeuddiwylliannol gogledd Cymru, anghenion cyflogwyr, ac ymrwymiad y Brifysgol i egwyddorion y Ddeddf yr Iaith Gymraeg.
Mae’r ysgol yn cynnig cyfleodd dysgu eraill gan gynnwys modiwlau unigol, lleoliadau gwaith, tiwtora ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym adnoddau ardderchog ar gyfer dysgu Cymraeg fel ail iaith.