UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Lansio cwrs newydd MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol

Mae Prifysgol Bangor newydd lansio cwrs ôl-radd newydd mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol, y cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru. Cafodd y cwrs ei lansio gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar 29ain Mai 2009. Meddai Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Mae Cynllunio Ieithyddol yn heriol, cymhleth a chyffrous. Mae'n allweddol ein bod yn datblygu arbenigedd y gweithlu Cymreig yn y maes hwn. Rwy'n croesawu'r cwrs newydd yma yn fawr ac yn dymuno pob llwyddiant iddo".

Mae’r cwrs yn aml-ddisgyblaethol a thraws-adrannol, ac wedi ei leoli yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Cyfarwyddwr y cwrs yw Dr Delyth Morris.

Llun: chwith i’r dde:
Dr Llion Jones, Canolfan Bedwyr; Dr Ioan Matthews, Mantais; Dr Delyth Morris, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas; Dr Lowri Hughes, Canolfan Bedwyr; Dr Dafydd Trystan, Mantais.