Darlithydd o Fangor yn Cymryd ei Arbenigrwydd i’r Ffindir
Bu Dr Stefan Machura, Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor, yn treulio wythnos fel Darlithydd ar Ymweliad mewn prifysgol Ffinnaidd yn ddiweddar.
Mae Prifysgol y Ffindir Ddwyreiniol yn Kuopio yn bartner Erasmus i Brifysgol Bangor. Trwy gynllun Darlithydd ar Ymweliad Erasmus, gall ysgolheigion treulio cyfnod yn dysgu mewn sefydliadau cyfranogol trwy’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod ei gyfnod yn y Ffindir, dysgodd Dr Machura cwrs ar ‘Trosedd a’r Cyfryngau’, lle bu myfyrwyr yn trafod cefndir cymdeithasol a gwleidyddol ffilmiau trosedd megis Young Mr. Lincoln, The Man who Shot Liberty Valance, Open Doors a The Lives of Others. Darfwyd y cwrs gyda darlith ar sut mae’r cyfryngau yn dylanwadu ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyfreithiol, yn seiliedig ar bennod y mae Dr Machura wedi cyfrannu i deitl newydd, Understanding Law in Society: Developments in Socio-legal Studies.
Cynigodd Kuopio amgylchoedd gwahanol iawn i’r rhain yr oedd Dr Machura wedi’u harfer gydag ym Mangor: “Pan gyrhaeddais, roedd yr eira wedi ei bentyrru’n dau fetr yn uchel - gwelais bysgotwyr yn gweithio ar foroedd rhewedig”. Ychwanegodd: “mae Kuopio yn lle diddorol i’w ymweld. Er bod gan y brifysgol pensaernïaeth eithafol fodern, yn y ddinas ei hun mae nifer o hen dai pren a hefyd ambell i adeilad o’r Ymerodraeth Rwsieg.”
Yn ôl ym mis Mawrth, bu’r un cynllun yn weld Dr Tatiana Golova o Athrofa Cymdeithaseg Magdeburg yn yr Almaen yn ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yma ym Mangor. Tra yma, cyflwynodd Dr Golova, sy’n ddarlithydd ym Macro-cymdeithaseg, darlithoedd a seminarau ar lefel isradd ac ôl-radd - a bu hithau hyd yn oed yn cyfrannu at un o fodylau Dr Machura. Ymhlith y pynciau darlith oedd 'Transnational cooperation between the Western European and Russian right-wing music scenes' a 'Spatial structuration of social movements'. Bu Dr Golova hefyd yn cynnal gweithdy ar ddulliau ymchwil ethnograffig i fyfyrwyr MA.
Mae arbenigaeth Dr Golova wedi seilio yng nghymdeithaseg wleidyddol a symudiadau cymdeithasol, cymdeithaseg drefol, a radicaliaeth adain dde. Yn ddiweddar, fe gyhoeddwyd darnau o'i gwaith ar 'Spaces of collective identity', 'Hate crime in Russia', a 'The right-wing youth music scene in Russia'.
Cymdeithasegydd o Brifysgol Bangor yn Niwrnod Ewrop yn Kazan, Ffederasiwn Rwsia
Roedd yr Athro Howard Davis yn un o’r siaradwyr gwadd mewn trafodaeth gyhoeddus ar y pwnc ‘Crefydd ac Amrywiaeth’ a gynhaliwyd yn Kazan, prifddinas Gweriniaeth Tatarstan, Ffederasiwn Rwsia, ar 26 Mawrth 2011. Roedd yr achlysur yn rhan o ŵyl a noddwyd gan y Ddirprwyaeth o’r Undeb Ewropeaidd i Rwsia. Mae Tatarstan yn rhan ddatblygedig yn economaidd o Rwsia Ewropeaidd gyda phoblogaeth gymysg o Dartariaid a Rwsiaid a chymysgedd o Gristnogion Uniongred a Mwslemiaid. Mae Howard Davis wedi ymweld yn rheolaidd â Kazan mewn perthynas â datblygiad addysg uwch a phrojectau ymchwil ym Mhrifysgol Ffederal Kazan a phrifysgolion eraill yn rhanbarth canolog y Volga.
http://eng.tatar-inform.ru/news/2011/03/18/35123/
Grant Bach wedi’i ddyfarnu gan ESRC
Mae Dr. Simon Cottee wedi ennill grant bach gan ESRC i gynnal project ymchwil ar brofiadau cyn-Fwslemiaid sy’n byw yng ngwledydd Prydain, a’r sialensiau sy’n eu hwynebu. The Apostates: A Qualitative Study of Ex-Muslims in Britain yw teitl y project,, a bydd yn cychwyn ym Medi 2011. Bydd y project yn canolbwyntio ar brofiadau grŵp o gyn-Fwslimiaid ym Mhrydain, ac yn archwilio prosesau gadael Islam yng nghyswllt y gwrthgilwyr hyn, a’r canlyniadau a fu arnynt. Mae’r project yn derbyn grant bach gwerth £70k gan ESRC i’w gynnal.
Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad
Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.


Yn ddiweddar fe wnaeth Gwilym Siôn ap Gruffudd, darlithydd yng Ngholeg Menai sydd ar hyn o bryd yn gorffen ei PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, wahodd Nathan a Sally i drafod eu gwaith gyda chynulleidfa o staff a myfyrwyr yng Ngholeg Menai. Mae Nathan a Sally, ynghyd â myfyriwr ôl-radd, Cai Parri-Jones, hefyd wedi cael eu gwahodd i roi sgwrs am fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru i ddisgyblion yn Ysgol David Hughes, Ysgol Tryfan ac i gynulleidfa yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Mae’r arddangosfa wedi cael sylw eang gan y wasg a’r cyfryngau, yn cynnwys erthyglau yn y wasg Iddewig, BBC Cymru a Radio Manchester, yn ogystal ag ar y cyfryngau yn yr Unol Daleithiau.

Mae Nathan a Sally wrth eu bodd gyda’r diddordeb yn y gwaith yn lleol a rhyngwladol, a meddent: “Mae’r cynllun yma wedi ysgogi llawer o ddiddordeb ymysg pobl leol, gyda llawer ohonyn nhw’n sôn wrthym am eu hatgofion o ddau deulu Iddewig amlwg, sef y Wartskis a’r Pollacoffs, ac mae’r atgofion yma wedi ychwanegu at ein gwybodaeth am fywyd Iddewig yn y rhanbarth. Mae pobl ifanc wedi rhyfeddu o wybod pa mor hir y mae Iddewon wedi bod yn byw yng Ngogledd Cymru. Bonws annisgwyl oedd y diddordeb rhyngwladol rydym wedi’i weld ymysg achyddion, haneswyr ac arbenigwyr diwylliannol.”

Mae Nathan a Sally yn parhau â’u hymchwil i hanes llafar/hanesion bywyd am bobl Iddewig a rhai heb fod yn Iddewon yng Ngogledd Cymru, ac maent yn awyddus iawn i glywed oddi wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod i wybod mwy am y gwaith hwn neu gymryd rhan ynddo.

Dosbarth cymdeithasol yn rhwystr i heneiddio llwyddiannus
Mae ymchwil gan Ian Rees Jones, Athro Cymdeithaseg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, a chydweithwyr yng Ngholeg y Brifysgol Llundain, wedi dangos bod gwell cyfleusterau addysg a thai, a gwella amodau materol pobl drwy lefelau incwm a phensiwn uwch, yn gallu cael mwy o effaith er gwell ar iechyd y boblogaeth nag ymyriadau wedi’u hanelu at newid ymddygiadau iechyd unigolion. Fel rhan o broject a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol roedd ei ddadansoddiad wedi’i seilio ar set gymhleth o ddata a gafwyd drwy arolwg o ddynion canol oed o 24 tref ym Mhrydain (The British Regional Heart Survey – a gasglwyd rhwng 1978 – 2003).
Darganfu’r ymchwil ei bod yn ymddangos bod ysmygu, ymarfer ac yfed alcohol ymysg dynion 60 i 70 oed yn gysylltiedig â'u hymddygiad pan oeddent rhwng 40 a 59 oed, a bod hyn yn gysylltiedig â dosbarth hefyd. Er enghraifft, mae glynu am gyfnod maith wrth ffyrdd o fyw iach yn fwy cyffredin ymysg dynion dosbarth canol mewn trefi yn ne Prydain. Fe wnaeth tîm ymchwil yr Athro Jones hefyd ddarganfod cysylltiad rhwng lefelau iechyd, lles a chysylltiadau cymdeithasol pobl hŷn a’u hamgylchiadau ymddeol – p’un a oeddent wedi ymddeol yn wirfoddol neu o ganlyniad i salwch neu ddiweithdra, yn ogystal â lefel eu pensiwn.
Darlith drwy gyfrwng y Gymraeg (Lecture through the medium of Welsh)
Fe fydd Hywel Williams AS yn ymweld ar Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ddydd Gwener 19eg o fis Tachwedd I roi darlith ar y modiwl Problemau Cymdeithasol Cymru. Bydd yn rhoi darlith ar yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr (CSR) (a'i effeithiau ar Gymru) yn Ystafell Darlithio 1, Prif Adeilad y Celfyddydau. Yn Gymraeg fydd y ddarlith ac mae croeso i chi ddod a myfyrwyr oddi ar gyrsiau eraill yno atom ni.
Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau: Derbyn Arian i ddatblygu gwaith ar y cyd
Mae’r Athro Howard Davis a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ynghyd â Dr Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi derbyn arian o Gronfa Datblygu Ymchwil Academaidd Prifysgol Bangor i ddatblygu projectau ymchwil ar y cyd.
Mae’r gwaith ar y cyd hwn yn dilyn y gwaith y mae Nathan a Sally yn ymwneud ag o ar hyn o bryd, sef cyfres o ddigwyddiadau cymunedol( wedi’u trefnu gydag Amgueddfa Ac Oriel Gelf Gwynedd) ar arddangosfa deithiol o Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru.
Bydd y gwaith newydd yn adeiladu ar arbenigedd Howard a Sally ym maes Hunaniaeth Ewropeaidd ac arbenigedd Nathan ym maes Astudiaethau Iddewig i ymchwilio i'r dimensiynau rhyngwladol ac Ewropeaidd sydd ynghlwm wrth hunaniaeth Iddewig.
Cynhadledd Haf Flynyddol WISERD
Ddydd Llun 28 a dydd Mawrth 29 Mehefin 2010, daeth cydweithwyr o brifysgolion partneriaeth WISERD, ynghyd â siaradwyr gwadd i gyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd haf flynyddol WISERD.
Thema’r gynhadledd eleni oedd “Adnabod Cymru: Pobl, Lle a Pholisi." Darllen ymlaen...
Llwyddiant i’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn Sweden
Daeth llwyddiant i ran Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghynhadledd “Cymdeithaseg ar Waiith” Cyngres Cymdeithaseg y Byd XV11 yn Gothenburg y mis hwn, gyda chwe aelod o staff yr Ysgol yn cyflwyno papurau. Deilliodd pob papur o brosiectau cydweithredol cenedlaethol a rhyngwladol o bwys y mae aelodau o staff o’r ysgol yn ran allweddol ohonynt. Darllen ymlaen...
Myfyfrwraig ôl-raddedig i gerdded yn India i godi arian ar gyfer elusenau plant
Mae Torie Rooney, 23, o Abergele, yn brysur yn trefnu trip i’r Himalayas yn India i godi bron i £3,000 ar gyfer tair elusen wahanol. Bydd Torie, sydd yn astudio gradd feistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, yn dechrau ei hantur ym mhentref Dharamsala - cartref y Dalai Lama a chalon y gymdeithas Tibetaidd. Yna, bydd hi yn cerdded dros 40 milltir drwy bentrefi sydd ar waelod Himalayas.
Darllenwch ymlaen
Graddio 2009
Llongyfarchiadau i'r holl myfyrwyr!
Cliciwch yma i weld ein oriel lluniau
graddio
Lansio cwrs newydd MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol
Mae Prifysgol Bangor newydd lansio cwrs ôl-radd newydd mewn Polisi
a Chynllunio Ieithyddol, y cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn aml-ddisgyblaethol a thraws-adrannol, ac wedi ei leoli
yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Cyfarwyddwr y cwrs yw Dr Delyth Morris.
Darllenwch ymlaen...
Capten Clwb Cleddyfa yn ennill Gwobr Llew Rees

Chris Reid, myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Trosedd yn ei ail flwyddyn
ym Mhrifysgol Bangor yw enillydd Gwobr Goffa Llew Rees eleni. Mae Chris
sy’n 22 ac o Durham wedi bod yn cleddyfa ers yr oedd yn unarddeg mlwydd
oed, ac mae’n gapten ar Glwb Cleddyfa’r Brifysgol.
Darllenwch ymlaen...
Ysgoloriaethau Heddlu Gogledd Cymru
Am
y tro cyntaf erioed mae Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol Bangor yn
cynnig Ysgoloriaeth arbennig i fyfyrwyr.
Menter gyffrous a sefydlwyd mewn partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd
Cymru a’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yw hon, a fydd yn cynnig
swm o £1,000 y flwyddyn am dair blynedd.
Darllenwch ymlaen...
Jyglo rhwng bywyd teuluol ac addysg brifysgol yn dod â Teresa
i’r brig!
Mae
Teresa Crew, myfyrwraig 34 oed ym Mangor a mam i ddau o blant, yn llawn
canmoliaeth iddi ei hun ar ôl derbyn gradd anrhydedd dosbarth
cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, “Ar wahân
i fy mhlant hon yw fy nghamp fwyaf hyd yma,” meddai.
Darllenwch ymlaen...