Capten Clwb Cleddyfa yn ennill Gwobr Llew Rees
Chris
Reid, myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Trosedd yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol
Bangor yw enillydd Gwobr Goffa Llew Rees eleni. Mae Chris sy’n 22 ac o
Durham wedi bod yn cleddyfa ers yr oedd yn unarddeg mlwydd oed, ac mae’n
gapten ar Glwb Cleddyfa’r Brifysgol.
Mae Chris yn gyn disgybl Ysgol Gyfun Greencroft a Chanolfan Chweched
Dosbarth Durham. Rhoddodd gynnig ar gleddyfa am y tro cyntaf drwy gynllun
estyn allan ac mae’n aelod o glwb ffensio Lazlo yn Durham, yn ogystal
â thîm yn Brifysgol.
Arbenigedd Chris yw’r epée, un o’r tair disgyblaeth cleddyfu ac mae wedi
bod yn cystadlu ers oedd yn 15. Dros y ddwy flynedd diwethaf, Chris sydd
wedi dod ar y brig o fyfyrwyr Cymru yng nghystadleuaeth cleddyfa BUSA.
Mae hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Prifysgolion Cymru dros y tair blynedd
diwethaf ac wedi capteinio carfan Cymru eleni.
Dywedodd Chris, “Penderfynais roi cynnig ar gleddyfa am fy mod yn hoffi’r
ffaith ei fod yn anghyffredin ac yn hollol wahanol i chwaraeon eraill.
Rwyf wedi bod yn cystadlu ar lefel rhyngwladol ers rhai blynyddoedd bellach
ac rwy’n edrych ymlaen at gystadlu yng Nghopenhagen blwyddyn nesaf.”
Yn ystod cyfnod Chris â chlwb Cleddyfa Prifysgol Bangor, mae aelodaeth
y Clwb wedi cynyddu yn sylweddol gyda 50 o fyfyrwyr yn ymaelodi eleni.
“Rydym wedi datblygu i un o glybiau mwyaf gweithgar yr Undeb Athletau
ac enillon ni Clwb y Flwyddyn yn 2007,” ychwanegodd Chris.
“Dros y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi amnewid holl offer y clwb, ac
mae gennym ni ddau dîm Dynion a thîm Merched nawr. Un o uchafbwyntiau
fy nghyfnod fel capten y clwb oedd ennill y cynnig i gynnal Pencampwriaeth
Prifysgolion Cymru yma ym Mangor y llynedd.
“Rwy’n credu hefyd fod apêl ffilmiau James Bond wedi helpu i godi proffil
cleddyfa, ac mae ychydig o bobl wedi ymuno â’r clwb ar ôl gweld y ffilm,”
meddai Chris.
Mae Chris yn falch iawn o ennill Gwobr Goffa Llew Rees eleni, ac mae’n
gobeithio bydd yr arian o gymorth iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau
clybiau cleddyfa tu allan i Fangor. Ychwanegodd, “Buaswn yn cynghori unrhyw
un sydd eisiau trio rhywbeth ychydig yn wahanol i roi cynnig ar gleddyfa
- dyna wnes i, a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny!”
*Gweler uchod Chris Reid yn derbyn ei wobr gan Mike Goodwin, Cyfarwyddwr
Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Bangor.