Ysgoloriaethau Heddlu Gogledd Cymru
Am y tro cyntaf erioed mae Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol Bangor yn cynnig Ysgoloriaeth arbennig i fyfyrwyr.
Menter gyffrous a sefydlwyd mewn partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yw hon, a fydd yn cynnig swm o £1,000 y flwyddyn am dair blynedd.
Mae’r Ysgoloriaethau yn gyfle i ddenu pobl ifanc i ddilyn cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eu hannog i wneud cais am yrfa gyda’r heddlu ar ôl iddynt raddio.
Caiff yr Ysgoloriaethau eu dyfarnu i’r pedwar myfyriwr gorau sydd wedi ymgeisio drwy arholiad, ac wedi gwneud cais i astudio cwrs gradd Cymdeithaseg a Pholisi cymdeithasol (L3LK), neu radd cydanrhydedd mewn Cymdeithaseg / neu Bolisi cyfrwng Cymraeg a phwnc arall.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus iawn i gynyddu’r nifer o staff a chanddynt sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig o safon dda.
Dywedodd Swyddog Hyrwyddo Materion Dwyieithrwydd Heddlu Gogledd Cymru, Prif Arolygydd Ray Hughes: “Yn ôl y Ddeddf Iaith Gymraeg 1993, mae dyletswydd arnom ni fel corff cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, ac mae’r ysgoloriaeth yn rhan o’r ymgyrch yma”.
Ychwanegodd: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni hysbysebu i’r bobl ifanc ein bod yn sefydliad dwyieithog.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Richard Brunstrom: “Fel cyflogwr sylweddol yng Ngogledd Cymru, mae’r sefydliad yn cydnabod ei gyfrifoldeb i hyrwyddo dwyieithrwydd yn yr ardal ac i gefnogi egwyddorion menter y Cynulliad, sef Iaith Pawb. Rydym yn hynod o falch o fod yn cynnig yr ysgoloriaethau hyn mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor”.
Dywedodd Gwenda Rhian Jones, Tiwtor Derbyn, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor: “Mae’r cynllun gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn unigryw a delfrydol i baratoi pobl ifanc broffesiynol sy’n medru gweithio’n ddwyieithog i ddewis yr amryw swyddi gyrfaol gyda’r Heddlu. Rydym yn uned fywiog, gyfeillgar, uchel ei safonau, yn academaidd ac ymarferol.”
Mae’r cynllun ysgoloriaethau yn ychwanegu at y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud i ddenu siaradwyr Cymraeg fel ymgeiswyr i’r Heddlu. Yn ddiweddar, cyflwynodd Heddlu Gogledd Cymru eu DVD recriwtio newydd, sydd yn arf gwerthfawr pan fydd staff yr adran recriwtio’n cynnal eu sesiynau ymwybyddiaeth i ddarpar ymgeiswyr, sef sydd wedi eu hanelu at roi gwybodaeth am waith swyddogion heddlu o ddydd i ddydd ac i helpu’r unigolion i gynllunio a pharatoi ar gyfer y broses recriwtio.