Daeth llwyddiant i ran Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghynhadledd “Cymdeithaseg ar Waiith” Cyngres Cymdeithaseg y Byd XV11 yn Gothenburg y mis hwn, gyda chwe aelod o staff yr Ysgol yn cyflwyno papurau. Deilliodd pob papur o brosiectau cydweithredol cenedlaethol a rhyngwladol o bwys y mae aelodau o staff o’r ysgol yn ran allweddol ohonynt.
Teitl Papur yr Athro Ia Rees Jones- a luniwyd ar y cyd gyda’r Athro Paul Higg o Goleg y Brifysgol Llundain oedd “ Wedi’i Addasu Gydag Oed: Bwrw Golwg ar Anghyfartaleddau Iechyd Seiliedig ar Ddosbarth Cymdeithasol wrth fynd yn hŷn”. Cafodd y papur hwn ei sefydlu ar waith ar gyfer y llyfr a gyhoeddwyd ganddynt yn ddiweddar sef 'Medical Sociology and Old Age: Towards a Sociology of Health in Later Life'.
Cyflwynodd Dr Alex Plows a Dr Robin Mann ‘Terfynau a Chroesiadau: Trefniadau’r Gymdeithas Sifig ar Lefel Leol”, papur wedi’i seilio ar eu gwaith ar gyfer y Sefydliad Cymreig ar Gyfer Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd. (WISERD). Roedd y gyngres yn cyd-daro a chyhoeddi cyfrol Alex “Debating Human Genetics”, a gafodd ei hyrwyddo yn y gynhadledd.
Cyflwynodd Yr Athro Howard Davis ‘Caffael Iaith Mewn Naratifau Bywgraffiadol: Camau wrth greu Hunaniaeth Draws-ffiniol” gan ddefnyddio data empeiraidd o’r prosiect ‘Euroidentities’. Cafodd y data hwn ei ddefnyddio hefyd fel rhan o sawl papur arall gan y Rhwydwaith Ymchwil Bywgraffiadol, y mae’r tîm “Euro identities” yn aelodau ohono.
Cyflwynodd Marta Kowalska ‘Rhwng y Lleol a’r Byd-eang - Strategaethau Addasu Bywgraffiadol Unigolion Sy’n Symudol Yn Rhyngwladol”- perspectif ddamcaniaethol newydd y mae Marta yn ei ddatblygu ar hyn o bryd fel rhan o’i PhD.
Cyflwynodd Dr Sally Baker: ‘Cyfalaf Diwylliannol, Dymuniadau Addysgol a Thrawsnewid Cymdeithasol: Y Gymru Wledig yn yr Ugeinfed Ganrif’. Deilliodd y papur hwn- a luniwyd ar y cyd gyda Dr J B Brown o Brifysgol De Montford- o’u gwaith yn ymchwilio i hanes diwylliannol diweddar cymunedau gwledig Cymreig. “Mothers, Wives and Changing Lives”, yw’r gyfrol gyntaf o’r gwaith hwn, gan ddefnyddio cyrchddulliau damcaniaethol sydd heb eu defnyddio yn y maes hwn ynghynt, ac fe gaiff ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Chwefror.
Cynhaliwyd y gynhadledd yn Gothenburg yn dilyn dau ddigwyddiad arall diweddar a fynychwyd gan aelodau Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Yn ystod cynhadledd haf WISERD yng Nghaerdydd, cafwyd papurau gan Dr Alex Plows, Dr Robin Mann, Dr Corinna Patterson, Dr Rhian Hodges a Dr Sally Baker. Cafodd papur Rhian “Tua’r Goleuni”, a seiliwyd ar ei PhD diweddar ar ddewis iaith mewn addysg, sylw gan y Sefydliad Materion Cymreig fel prif stori eu cyfnodolyn ar-lein. Cyflwynodd Robin ac Alex waith o’r ymchwil lleoliadau WISERD yng Ngŵyl Dulliau Ymchwil ESRC yn Rhydychen.