Jyglo rhwng bywyd teuluol ac addysg brifysgol yn dod â Teresa i’r brig!

Mae Teresa Crew, myfyrwraig 34 oed ym Mangor a mam i ddau o blant, yn llawn canmoliaeth iddi ei hun ar ôl derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, “Ar wahân i fy mhlant hon yw fy nghamp fwyaf hyd yma,” meddai.
Fe wnaeth Teresa, o Landudno, yn bur dda yn yr ysgol, ond aeth i weithio yn hytrach na mynd ymlaen i addysg uwch, “penderfyniad rydw i bob amser wedi difaru amdano,” meddai. Ar ôl i’r plant gael eu geni arhosodd Teresa gartref i ofalu amdanynt.
“Roeddwn i bob amser wedi bod eisiau mynd i brifysgol, ond roeddwn i’n gohirio o hyd oherwydd diffyg hyder. Roeddwn i eisiau gweithio ym maes trosedd a chyfiawnder ers cryn amser, ond roeddwn i’n gwybod nad oedd gen i ddigon o gymwysterau,” ychwanegodd.
Tra oedd adref yn gofalu am ei phlant, sy’n 13 ac 11 oed erbyn hyn, penderfynodd ddechrau astudio gartref a gwnaeth ddau gwrs lefel A a chwrs sylfaen gyda’r Brifysgol Agored yn y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Yn dilyn ei llwyddiant penderfynodd Teresa gael ei maen i’r wal. Cysylltodd ag adran Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol ac fe’i derbyniwyd ar y cwrs o’i dewis.
Dywedodd Teresa bod cadw’r ddysgl yn wastad rhwng bywyd teuluol ac addysg yn anodd ar brydiau,
“Roeddwn yn cael pyliau o amau fy hun, yn arbennig pan oeddwn i’n ysgrifennu fy nhraethawd hir ac roedd yn anodd gwneud yn siŵr nad oedd fy nheulu’n cael eu hesgeuluso tra oeddwn i’m â fy mhen mewn llyfrau. Fedrwn i ddim astudio llawer pan oedd y plant yn dod adref o’r ysgol ac felly fe fyddwn i wrthi’n astudio a darllen ymhell i’r nos. Yn wir, bu Nick fy mhartner yn amyneddgar iawn.”
Ar ôl blynyddoedd o waith caled mae Teresa’n credu bod y cyfan wedi bod yn werth yr ymdrech yn y diwedd. “Mae gradd yn sicr yn agor drysau ac mae’n dangos bod gan rywun ymroddiad, dyfalbarhad a hunanddisgyblaeth,” meddai, “Rydw i wedi cael cynnig swyddi na fyddai gen i ddim gobaith o’u cael heb fy ngradd.”
Ychwanegodd Teresa,
“Rydwi’n teimlo mor falch nawr mod i wedi gorffen ac wedi cael y radd uchaf bosibl. Rydw i wedi disgwyl yn hir cyn mynd i brifysgol, felly mae cael fy ngradd yn 34 oed yn brofiad melysach fyth.”