UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Cynhadledd Haf Flynyddol WISERD

Ddydd Llun 28 a dydd Mawrth 29 Mehefin 2010, daeth cydweithwyr o brifysgolion partneriaeth WISERD, ynghyd â siaradwyr gwadd i gyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd haf flynyddol WISERD. 

Thema’r gynhadledd eleni oedd “Adnabod Cymru: Pobl, Lle a Pholisi."

Roedd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau a phosteri oedd yn amlygu gwaith ymchwilwyr sy’n gweithio ar themâu sy’n gysylltiedig â Chymru.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiwn ar waith tîm ardaloedd WISERD, gyda Robin Mann, Alex Plows ac eraill o ledled Cymru’n cyflwyno'r casgliadau cychwynnol o'u hymchwil gyda budd-ddeiliaid.  Cyflwynwyd papurau eraill hefyd gan aelodau o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac ysgolion eraill Prifysgol Bangor yn cynnwys papurau gan Sally Baker ar y Gymru anghydffurfiol, Rhian Hodges ar addysg cyfrwng Cymraeg, Corinna Patterson ar Gymru a globaleiddio, Alex Plows ar gymdeithas sifil leol, Robin Mann ar ymfudwyr Eidalaidd yng Nghymru a Huw Lloyd Williams ar raddfeydd trawsnewid tlodi.

Am ragor o wybodaeth am weithgareddau’r sefydliad a digwyddiadau i ddod, ewch i http://www.wiserd.ac.uk.