UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Newyddion

Cwrs Newydd: MA Gwaith Cymdeithasol

O Medi 2012, bydd Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor yn cynnig MA mewn Gwaith Cymdeithasol, yn amodol ar ddilysu gan Brifysgol Bangor a chydnabyddiaeth gan y Cyngor Gofal Cymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2012

Mwy......


Ymweliad gan fyfyrwyr MA â Gwlad y Basg i weld cynllunio ieithyddol ar waith

Mae myfyrwyr ar gwrs gradd unigryw’r MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol wedi cael golwg unigryw ar bwnc eu hastudiaethau yn sgil taith addysgol i Wlad y Basg yng Ngogledd Sbaen.

Dyddiad Cyhoeddi: 07/02/2012

Mwy......


Ysgoloriaeth Ôl-radd Cyfrwng Cymraeg: Polisi Cymdeithasol

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ôl-radd cyfrwng Cymraeg ym maes Polisi Cymdeithasol i ddechrau 1 Hydref 2011. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae cyllid ar gael am hyd at bum mlynedd, yn cynnwys tair/pedair blynedd fel myfyriwr ymchwil am ddoethuriaeth a blwyddyn ychwanegol fel cymrawd dysgu.  Bydd yr ysgoloriaeth ôl-radd yn cynnwys costau hyfforddi’r brifysgol (y gyfradd gyfredol i fyfyrwyr cartref/UE  yw £3,466) a hefyd grant gynnal (y gyfradd gyfredol yw £13,590 y flwyddyn). Gwahoddir ceisiadau gan ddarpar ymchwilwyr gyda chefndir ym maes gwyddorau cymdeithas ac sydd â diddordeb mewn polisi iechyd yng Nghymru ers datganoli.  Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas fel un o amodau'r ysgoloriaeth.  Ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth yn flwyddyn gymrodoriaeth pryd y bydd yr ymrwymiadau dysgu’n cynyddu.

Dyddiad Cyhoeddi: 31/08/2011

Mwy......


Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor

Cliciwch yma i ddarllen y newyddion a digwyddiadau diweddaraf yng nghylchlythyr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/08/2011

Mwy......


Myfyriwr Aeddfed yn goresgyn salwch i ennill gradd dosbarth 1af

Mae cyn saer coed o Rhyl wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn dilyn newid sydyn yn ei yrfa yn dilyn afiechyd galwedigaethol.

Dyddiad Cyhoeddi: 18/07/2011

Mwy......


‘Y Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru’ Digwyddiad Rhwydweithio WISERD

Daeth criw da ynghyd i’r digwyddiad hwn ar 15 Mehefin 2011, yn cynnwys gweithredwyr lleol, sefydliadau anllywodraethol, gwneuthurwyr polisi ac academyddion o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt,  a chanddynt ddiddordeb yng nghynaliadwyedd cymunedau lleol ac ymgyrchoedd a chynlluniau amgylcheddol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth a hefyd ‘lansiwyd’ rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden.

Dyddiad Cyhoeddi: 07/07/2011

Mwy......


Y Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru - Digwyddiad Rhwydweithio WISERD

Bydd y digwyddiad hwn yn dod â gweithredwyr cefn gwlad, gwneuthurwyr polisi ac academyddion ynghyd o bob cwr o Gymru. Bydd gan y rhain ddiddordebau mewn cynaliadwyedd cymunedau lleol a/neu ymgyrchoedd a mentrau amgylcheddol. Bydd yn gyfle i rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth, a chaiff rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden ei ‘lansio’ hefyd. Bydd Dr John Barry o Brifysgol Queens Belfast yn rhoi’r brif sgwrs ar 'Vulnerability and Resilience in Contemporary Green Thought'.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/06/2011

Mwy......


Bangor yn ymuno â sesiwn holi ac ateb The Guardian heddiw

Mae Dr Roger Slack, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Dulliau Ymchwilio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn  sesiwn holi ac ateb The Guardian ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Cymdeithaseg heddiw (Mercher 18 Mai) rhwng 1.00- 4.00.

Dyddiad Cyhoeddi: 18/05/2011

Mwy......


Darlithydd o Fangor yn Cymryd ei Arbenigrwydd i’r Ffindir

Bu Dr Stefan Machura, Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor, yn treulio wythnos yn y Ffindir fel Darlithydd ar Ymweliad.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/05/2011

Mwy......


Dosbarth cymdeithasol yn rhwystr i heneiddio llwyddiannus

Mae ymchwil gan Ian Rees Jones, Athro Cymdeithaseg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, wedi dangos bod gwell cyfleusterau addysg a thai, a gwella amodau materol pobl drwy lefelau incwm a phensiwn uwch, yn gallu cael mwy o effaith er gwell ar iechyd y boblogaeth nag ymyriadau wedi’u hanelu at newid ymddygiadau iechyd unigolion.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad

Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad.  Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. 

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Grant Bach wedi’i ddyfarnu gan ESRC

Mae Dr. Simon Cottee wedi ennill grant bach gan ESRC i gynnal project ymchwil ar brofiadau cyn-Fwslemiaid sy’n byw yng ngwledydd Prydain, a’r sialensiau sy’n eu hwynebu.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Bwrsariaeth Ymchwil Ddathlu

Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig 5 Bwrsariaeth Ymchwil Ddathlu gwerth £7,000 yr un.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Cymdeithasegydd o Brifysgol Bangor yn Niwrnod Ewrop yn Kazan, Ffederasiwn Rwsia

Roedd yr Athro Howard Davis yn un o’r siaradwyr gwadd mewn trafodaeth gyhoeddus ar y pwnc ‘Crefydd ac Amrywiaeth’ a gynhaliwyd yn Kazan, prifddinas Gweriniaeth Tatarstan, Ffederasiwn Rwsia, ar 26 Mawrth 2011.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011

Mwy......


Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad

Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o  £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 05/11/2010

Mwy......


Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon – Gyda Derbyniad Cosher

Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru.  Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch.
Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.

Dyddiad Cyhoeddi: 06/10/2010

Mwy......