Pob Cais,
Gallwch wneud cais am gyrsiau Ôl-raddedig wrth lenwi ffurflen gais Ôl-raddedig.
- Llwythwch y ffurflen a'r canllawiau i lawr (mewn fformat PDF)
(Er mwyn llwytho'r deunydd i lawr mae arnoch angen Adobe Acrobat Reader. Cliciwch ar yr eicon isod i lwytho i lawr gopi o Acrobat am ddim)
Sicrhewch eich bod chi'n amgáu'r dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- Ardystiad o'ch gradd a/neu cymwysterau academaidd eraill oddi wrth y sefydliad dyfarnu, (i'r rheiny sydd eisoes wedi graddio) naill ai mewn
a) copi ardystiedig o'r dystysgrif/adysgrif, neu
b) llythyr gwreiddiol sy'n cadarnhau y dyfarniad wedi'i arwyddo gan swyddog y sefydliad gan gynnwys stamp dilysedig swyddogol.
**(Peidiwch ag anfon eich tystysgrif gradd wreiddiol drwy'r post)
- Cynnig ymchwil (os ydych yn gwneud cais am gwrs MPhil neu PhD)
Dylai'r ffurflen gais a'r dogfennau priodol gael eu dychwelyd drwy'r post i'r:
Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig
Y Gofrestrfa Academaidd
Prifysgol Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Pryd ddylwn i wneud cais?
Mae'r graddau Ôl-raddedig trwy ddysgu yn cychwyn yng nghanol mis Medi. Mae'r Brifysgol yn derbyn ceisiadau Ôl-raddedig trwy gydol y flwyddyn ond rydym yn argymell eich bod yn anfon eich cais i mewn erbyn diwedd Mehefin.
Mae'r Brifysgol yn derbyn ceisiadau MPhil a PhD trwy gydol y flwyddyn. Dylai ymgeiswyr MPhil a PhD cynnwys crynodeb gyda'ch cais (tua 1,500-2,000 o eiriau) yn amlinellu eich pwnc ymchwil.
Mae angen i chi gynnwys yr isod gyda'ch cais...
- Tystysgrif o'ch gradd neu /a cymwysterau academic (i'r rheini sydd eisoes wedi graddio)
- gall fod yn gopi ardystiedig o'r tystysgrif, neu'n
- lythyr gwreiddiol sy'n cadarnhau'r gradd wedi'i arwyddo gan swyddog y sefydliad ac wedi'i ardystio gan stamp swyddogol y sefydliad.
- Peidiwch â danfon eich tystysgrif gwreiddiol drwy'r post.
- Eich cynnig ymchwil (os ydych chi'n gwneud cais am MPhil neu PhD)
Dylai'r ffurflen gais a'r dogfennau priodol gael eu hanfon i:
Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig.
Cofrestrfa Academaidd
Prifysgol Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Angen help ?
Os oes gennych chi unrhyw broblem gyda'ch cais, neu
os hoffech chi gael gwybod sut mae'r broses yn datblygu, cysylltwch
â Brenda Clare yn yr Ysgol
Gwyddorau Cymdeithas.