Bwrsariaethau MA & PhD
Mae’r Ysgol yn bwriadu cynnig nifer o fwrsariaethau i fyfyrwyr MA a PhD yn y flwyddyn academaidd 2012-13. Mi fydd y rhain yn cael eu cynnig i fyfyrwyr UK/EU yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol. Dyfarnwyd bwrsariaethau ar sail gystadleuol. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch debbie.pritchard@bangor.ac.uk
Sut i wneud cais
Os hoffwch gael eich ystyried am fwrsariaeth, cwblhewch ffurflen cais Bwrsariaethau Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac atodwch gopi o’ch CV. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen cais heb CV.
E-bostiwch eich ffurflen cais a CV i debbie.pritchard@bangor.ac.uk neu bostiwch at:
Debbie Pritchard
Canolfan Gweinyddol CBSSL
Prifysgol Bangor, BANGOR, Gwynedd LL57 2DG
Byddwn yn dyfarnu bwrsariaethau ar sail cryfder y ceisiadau a ddaw i law. Er bod cyrhaeddiad academaidd yn faen prawf allweddol, byddwn yn ystyried rhychwant eang o hanes academaidd yr holl ymgeiswyr, ynghyd â’u profiad gwaith a’r hyn y maent wedi’i gyflawni mewn bywyd.
NODWCH: ni dderbynnir ffurflen gais HEB gopi o CV.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth a 1 Gorffennaf. Fe fydd ymgeiswyr llwyddianus yn cael gwybod erbyn 31 Mawrth a 20 Gorffennaf (nodir, ni fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus).
Taliad Bwrsariaethau
Dyfarnwyd bwrsariaethau fel gostyngiad yn eich ffioedd dysgu.