UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Cefnogaeth i fyfyrwyr Ôl-raddedig

Delwedd yn dangos myfyrwyr gydag aelod staff o Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr

Cefnogaeth i Fyfyrwyr

Mae Prifysgol Bangor ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w myfyrwyr yn ôl y Times Higher Educational Supplement, Mehefin 17, 2005.

O’r munud y cyrhaeddwch ym Mangor, rhoddir cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sy’n bosibl i chi o ran materion iechyd a lles, yn ogystal â’ch gwaith academaidd. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel, gan gynnwys cwnsela, cyngor ar letya ac ymgynghorydd ariannol i fyfyrwyr.

Mae’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr wedi’i lleoli ar drydydd a phedwerydd llawr Undeb y Myfyrwyr ac mae’r dderbynfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn rhwng 08:45 i 17:00.

Cefnogaeth Anabledd

Mae'r Brifysgol yn croesawi ceisiadau gan fyfyrwyr ag anabledd ac yn anelu at ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob myfyriwr. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o dechnolegau sydd wedi eu lleoli'n bennaf yn y ddwy Ystafell Cefnogi Astudio sydd yn Adeilad Deiniol yn Mangor isaf ac ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau ym Mangor uchaf. Mae'r technolegau hyn yn cynnwys deledu cylch caeëdig lliw, sganwyr a meddalwedd cyfieithu Braille gydag allbwn i foglynnwr Braille ag offer penodol ar gyfer dyslecsia. Mae hefyd dolennau anwytho mewn darlithfeydd mawr a derbynfeydd prysur ag offer trawsyrru is-goch cludadwy i fyfyrwyr ag anhawster clywed.

Am fanylion ewch i dudalennau Lles Canolfan Cefnogaeth i Fyfyrwyr.

Uned Dyslecsia Bangor

Mae Uned Dyslecsia Bangor yn cynnig y gwasanaethau isod

Gall ein gwasanaeth gynnig:

  • Prawf sgrinio rhagarweiniol: prawf sgrinio rhagarweiniol anffurfiol a thrafodaeth ar gyfer myfyrwyr sydd yn amau eu bod yn ddyslecsig, gyda chyngor ar beth i'w wneud nesaf i ddilyn.
  • Asesiad Seicometrig.
  • Asesiadau anghenion adolygu ar gyfer lwfans myfyrwyr anabl (ar gyfer myfyrwyr allanol yn ogystal â myfyrwyr Bangor)
  • Cefnogaeth ac arweiniad personol ac academaidd.
  • Mae hyfforddiant unigol mewn sgiliau astudio (e.e., strwythur traethawd a sgiliau adolygu) ar gael; gallwn drefnu hyn yn Gymraeg neu Saesneg; mae tiwtoriaid arbennig ar gael ar gyfer ystadegau/mathemateg, Cemeg.
  • Grwpiau cymorth astudio myfyrwyr dyslecsig.

Am fanylion pellach ewch i dudalennau Uned Dyslecsia Bangor.

Llety i fyfyrwyr Ôl-raddedig

Er na fedr y Brifysgol sicrhau lle i ôl-raddedigion yn y neuaddau preswyl, mae croeso i chi wneud cais ac mi wnawn ni ein gorau i ddod o hyd i ystafell ar eich cyfer.

Fodd Bynnag, mae nifer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn dewis byw yn y sector preifat. Efallai y bydd rhaid i chi chwilio am lety preifat os yw eich cais chi am lety’r Brifysgol yn aflwyddiannus. Ewch i dudalennau'r Swyddfa Tai Myfyrwyr neu i'n tudalen Llety ar gyfer Ôl-raddedigion am fanylion.