UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Pam dewis astudio yma?

  • Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol a chyffrous, wedi'i hychwanegu gan gyfranwyr o gydymarferwr o'r setorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol
  • Mae ein cyrsiau i gyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, felly byddwch yn astudio mewn amgylchedd lle byddwch yn cyfarfod llawer o siaradwyr Cymraeg eraill
  • Mae cyfle i chi dreilio cyfnod dramor fel rhan o'ch gradd
  • Mae tros hanner o unedau’r Brifysgol wedi derbyn gradd ‘Rhagorol’ am ansawdd eu dysgu, ac mae perfformiad y Brifysgol yn yr Asesiad Ymchwil mwyaf diweddar yn cadarnhau bod ein sefydliad ymchwil gyda’r gorau trwy’r byd
  • Er mwyn eich helpu i ymgartrefu yn ystod yr wythnosau cyntaf, mae gan y Brifysgol un o’r systemau Arweinwyr Cyfoed mwyaf drwy Brydain
  • Mae Prifysgol Bangor ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w myfyrwyr yn ôl y Times Higher Educational Supplement, Mehefin 17, 2005
  • Mae ein Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar yn y DU
  • Mae Bangor yn cael ei hystyried fel un o’r dinasoedd mwyaf diogel i fod yn fyfyriwr ynddi gan fod cyfradd droseddu gogledd Cymru yn un o’r rhai isaf ym Mhrydain
  • Mae llety a chostau byw yma yn rhatach o gymharu â chostau mewn nifer o ddinasoedd a threfi prifysgol eraill. Yn ôl yr ‘A-Z of Universities and Higher Education Colleges’ papur newydd yr ‘Independent’, Bangor yw un o’r “llefydd rhataf ym Mhrydain” ar gyfer myfyrwyr.
  • Rydyn ni’n ffodus ein bod ni’n gallu sicrhau ystafell mewn Neuaddau Preswyl i holl israddedigion y flwyddyn gyntaf.