Diwrnod Agored Gradd Meistr
Bydd yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cynnal Diwrnod Agored i bob darpar fyfyriwr ôl-radd hyfforddedig (a'u teuluoedd) ar y dyddiad canlynol:
- Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2012
Byddwn yn anfon manylion pellach cyn gynted ag y bo modd, ond yn y cyfamser gallwch gysylltu â ni trwy meistrchwaraeon@bangor.ac.uk.
Golwg Gyffredinol ar Raglenni MSc
Mae ein rhaglenni MSc wedi eu dylunio i fod yn hyblyg a pherthnasol i anghenion a diddordebau’r unigolyn, gyda phwyslais cryf ar gymhwysiad damcaniaeth i ymarfer proffesiynol.
Bydd rhaid i fyfyrwyr astudio modiwlau craidd mewn Dulliau Ymchwil a dewis modiwlau opsiynol mewn Seicoleg, Seicoleg Chwaraeon, Seicoleg Ymarfer Corff, Cinseicoleg, Hyfforddi Effeithiol neu adferiad athletwyr wedi eu hanafu, yn ôl y rhaglen. Gellir hefyd wneud profiad dan oruchwyliaeth*, astudiaeth annibynnol, a thraethawd hir sy’n berthnasol i’r rhaglen a dewiswyd.
* Mae’r modiwl hwn yn eich paratoi tuag at y flwyddyn gyntaf o Brofiad dan Oruchwyliaeth Cymdeithas Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain.
Mae yna 5 llwybr:
** Cydnabyddedig gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.
(R
oeddem yn falch o fod yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon cyntaf ym Mhrydain i dderbyn y gydnabyddiaeth hon)