Sut mae personoliaeth yn effeithio ar gyrhaeddiad athletaidd?
Wrth berfformio ar y lefel uchaf mewn chwaraeon, mae’n bosib fod a wnelo’r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli’n fwy â phersonoliaeth na gallu athletaidd.
Er mwyn ennill 'Aur', mae’n rhaid i athletwyr fedru perfformio ar lefel uchel o dan bwysau aruthrol. Mae llwyddiant felly’n ddibynnol ar gyfuniad o'r lefel uchaf o berfformiad athletaidd a'r gallu i berfformio tra bod rhywun hefyd o dan straen personol mawr. Er bod rhai unigolion yn ffynnu o dan bwysau, mae eraill yn 'tagu' ac yn methu â pherfformio cystal ag wrth hyfforddi - pan fo’r straen yn llai.
Gan gydnabod y cyfuniad hwn o athletiaeth a phersonoliaeth, mae ymchwilwyr yn y Sefydliad ar gyfer Seicoleg Perfformiad Elitaidd (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor wedi datgelu mwy am y math o bersonoliaeth sy'n perfformio orau o dan straen. Maent hefyd yn ymchwilio i sut y gall strategaethau hyfforddi gwahanol gefnogi a chymell personoliaethau gwahanol.
Mae'r Sefydliad, rhan o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi ehangu’r ddealltwriaeth gyfredol o’r maes hwn, ac wedi canfod bod personoliaethau narsisaidd (pobl sydd â meddwl uchel ohonynt ei hunain a'u galluoedd), sef y mathau o bersonoliaeth sy'n perfformio'n dda o dan bwysau, yn ymdrechu’n galetach hyd yn oed, pan fyddant o dan straen. Yr ochr arall i’r geiniog yw nad ydynt yn perfformio cystal mewn sefyllfaoedd lle nad oes tebygrwydd o ennill clod ac amlygrwydd.
Mae Dr Ross Roberts, darlithydd ac aelod o’r Sefydliad yn egluro: "Rydym yn credu mai’r rheswm pam fod narsisiaid yn ffynnu yn y sefyllfaoedd hyn yw oherwydd eu bod wrth ragori o dan amgylchiadau felly, yn derbyn yr edmygedd a’r ganmoliaeth maent yn awchu amdanynt: gallech ddweud eu bod yn bersonoliaethau sy'n cael eu ‘gyrru gan glod ac amlygrwydd’. Mae pobl â’r math yma o bersonoliaeth yn perfformio’n waeth mewn sefyllfaoedd lle nad yw eu dyheadau yn cael eu diwallu - lle nad oes pwysau. Yn achos pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, gall hyn fod wrth hyfforddi neu pan nad yw hyfforddwyr yn rhoi sylw unigol i'r athletwr yn ystod gweithgareddau 'tîm'. "
Mae eu gwaith ymchwil wedi dangos y gall cyflwyno neu gynyddu elfen o gystadleuaeth ryngbersonol a chystadlu gadw diddordeb a safon perfformio’r personoliaethau narsisaidd yn ystod sesiynau hyfforddi neu sefyllfaoedd eraill heb y pwysau neu heriau sydd eu hangen i'w hysbrydoli. Ond mae'r ymchwilwyr hefyd wedi canfod fod cyflwyno'r elfen gystadleuol yn cael effaith negyddol ar yr unigolion hynny nad ydynt yn bersonoliaethau 'narsisaidd'.
Mae Calum Arthur, Cyd Gyfarwyddwr y Sefydliad yn egluro ymhellach: "O gofio bod rhaid i athletwyr yn y Gemau Olympaidd neu gystadlaethau rhyngwladol eraill, berfformio dan bwysau aruthrol, mae deall sut a pham mae personoliaethau gwahanol yn perfformio’n wahanol o dan bwysau yn hollbwysig. Fel seicolegwyr chwaraeon, rydym yn gallu gweithio gyda hyfforddwyr i deilwra dulliau hyfforddi i ddiwallu anghenion penodol athletwyr unigol. Dylai hyn arwain at hyfforddiant mwy effeithiol a mwy o berfformiadau athletaidd llwyddiannus.
Mae Aelodau o IPEP wedi gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, lluoedd arfog Prydain ac maent yn cydweithio'n agos â Chwaraeon Cymru.
Gwyliwch y fideo (fideo saesneg)
Adroddiad newydd yn tynnu sylw at ddylanwad ymchwil Prifysgol Bangor ar Gemau Olympaidd Llundain 2012
Mae'r adroddiad Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) yn dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd ac ar y diwydiant chwaraeon yn y DU.
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor wedi’i chynnwys mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolymaidd, ac ar chwaraeon ym Mhrydain yn gyffredinol. Cyhoeddwyd yr adroddiad fel rhan o Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o swyddogaeth eang ac amrywiol prifysgolion Prydain.
Mae’r adroddiad, Supporting a UK success story: The impact of university research and sport development, yn tynnu sylw at rai yn unig o’r ffyrdd y mae ymchwil wedi helpu tîm Prydain i baratoi at Llundain 2012. Tynnir sylw yn yr adroddiad at ddau ddarn o ymchwil o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol.
Mae’r projectau ymchwil ymysg rhai yn yr Ysgol sy’n edrych ar y pwysau y mae’r prif athletwyr yn eu hwynebu a sut y gall unigolion a hyfforddwyr baratoi fel y gall yr athletwyr berfformio ar eu lefel uchaf. Wrth gwrs gellir defnyddio rhai o’r strategaethau mewn meysydd eraill a gallant fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd.
Mae’r enghreifftiau'n dangos sut y gall ymchwil sy'n digwydd mewn prifysgolion ar draws Prydain, yn cynnwys Prifysgol Bangor, helpu athletwyr i gael y mymryn bach hwnnw o fantais dros eu cystadleuwyr a all olygu'r gwahaniaeth rhwng medal aur neu un arian.
Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl sut mae archwilio a datblygu ym meysydd technoleg, iechyd a lles, cynllunio, datblygu chwaraeon a chymryd rhan yn y Gemau, yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, wedi cyfrannu at Llundain 2012 a’r diwydiant chwaraeon yn y DU.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae Wythnos Prifysgolion 2012 yn gyfle rhagorol i dynnu sylw at beth o’r gwaith rhyfeddol y mae prifysgolion yn ei wneud ym maes chwaraeon, ac mae hynny’n briodol iawn gyda’r Gemau yn Llundain eleni. Mae’n gyfle gwych hefyd i wahodd pobl i brofi bywyd prifysgol yn uniongyrchol, p’un a ydynt wedi bod i brifysgol eu hunain ai peidio.”
Taith yw’r adroddiad mewn gwirionedd drwy’r ymchwil a’r datblygu chwaraeon sy’n sail i effaith barhaol Llundain 2012 ar wledydd Prydain. Ynddo ymdrinnir â phynciau mor amrywiol â hydradiad athletwyr i adfywio Dwyrain Llundain, cartref y Parc Olympaidd. Drwy'r adroddiad cyfan ceir enghreifftiau o adfywio trefol a hanes meddygaeth chwaraeon i ddangos yr amrywiol ffyrdd y bydd holl gymdeithas Prydain yn elwa o waith prifysgolion sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd.
Meddai Nicola Dandridge, Prif Weithredwr, Universities UK: “Pan ydych yn gwylio athletwr neu dîm yn cystadlu, mae’n hawdd anghofio gymaint o waith paratoi sydd y tu ôl i’w perfformiad. Mae hynny’n fwy na dim ond hyfforddi ac ymarfer. Y dyddiau hyn defnyddir yr ymchwil ddiweddaraf o’r prifysgolion i gefnogi pob agwedd ar chwaraeon Olympaidd – o faeth ac iechyd i offer, ffisiotherapi, adfer ac, wrth gwrs, perfformio ei hun. Er enghraifft, gall y cyfuniad o ddylunio a thechnoleg fod yn hynod effeithiol i brif athletwyr, fel y gall cynllun a dyluniad caiac neu bob-sleigh fod yr un mor bwysig â sgiliau a hyfforddiant yr athletwyr eu hunain.”
Meddai Karen Rothery, Prif Swyddog Gweithredol, British Universities & Colleges Sport: “Mae datblygiad chwaraeon yn ein prifysgolion yn annog mwy o gymryd rhan mewn chwaraeon ymysg myfyrwyr yn gyffredinol. Mae amrywiaeth o raglenni a chefnogaeth a datblygiad gweithlu cynorthwyol o wirfoddolwyr a swyddogion yn golygu bod mwy o bobl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau’r manteision niferus sy’n dod yn sgil hynny.”
Mae copïau o’r adroddiad llawn i’w gael o wneud cais i universitiesweek@fourcommunications.com ac yn ddiweddarach gellir ei lawrlwytho o www.universitiesweek.org.uk
Gwyliwch nhw ar y teledu - Doniau cudd staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Llynedd, bu Tim Woodman a Jamie Macdonald, ac aelodau o’r Grŵp Ymchwil Extremes, yn ffilmio ar gyfer cyfres newydd ar Sianel 4 o'r enw 'Hidden Talent'. Gofynnwyd i Tim a Jamie gymryd rhan a dyfeisio profion a gweithredu fel mentoriaid ar gyfer elfen ddringo’r rhaglenni. Gellir gweld eu cyfraniad yn y bennod gyntaf 'Climbing and Lie Detection'. Dechreuodd y gyfres ddydd Mawrth, 24 Ebrill 2012 ar Sianel 4 am 9.00pm a dyma gynnwys y penodau eraill:
Pennod 2 - Freediving and Art – dydd Mawrth, 1 Mai am 9.00 pm
Pennod 3 - Language – dydd Mawrth, 8 Mai am 9.00 pm
Pennod 4 - Opera and Sat Nav – dydd Mawrth, 15 Mai am 9.00 pm
Pennod 5 - Super Tasker and Super Recogniser – dydd Mawrth, 22 Mai am 9.00 pm
Pennod 6 - Catch up show – dydd Mawrth, 29 Mai am 9.00pm
Gallwch weld datganiad i’r wasg trwy glicio ar y cyswllt canlynol:
http://www.channel4.com/info/press/programme-information/hidden-talent
Cyn fyfyriwr a rheolwr cynorthwyol Dinas Bangor yn ymuno â Red Bulls Thierry Henry yn Efrog Newydd
Mae Ioan Llewelyn, rheolwr cynorthwyol Dinas Bangor a phennaeth datblygu ieuenctid y clwb, wedi ymuno â strwythur Academi y Bulls ar gontract cychwynnol o wyth mis. Astudiodd Ioan ar gyfer ei raddau BSc a MSc gyda’r ysgol ac meddai James Hardy, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, Dysgu ac Addysgu:
"Mae bob amser yn wych gweld ein myfyrwyr yn rhagori ond rydym yn arbennig o falch i weld bachgen lleol fel Ioan yn cael y cyfle gwych hwn.
Gwnaeth ei raddau israddedig ac ôl-radd gyda ni ac yn ystod y cyfnod hwn roedd ei angerdd am hyfforddi a datblygu talent yn amlwg i bawb. Mae’n siŵr ei fod yn gweithredu’r egwyddorion a ddysgodd tra yr oedd yn astudio yma ond mae wedi cyflawni hyn trwy ei waith caled ei hun. Rwyf mor falch ohono!”
BBC Newyddion
Ysgoloriaeth Vodafone yn galluogi i fyfyriwr SHES gryfhau’r bartneriaeth bresennol â Mencap Cymru
Mae Jade Mottley, myfyriwr Gwyddor Chwaraeon Blwyddyn 3 yn yr Ysgol, wedi llwyddo i gael ysgoloriaeth myfyrwyr gan Vodafone sy’n rhoi cyfle iddi weithio gyda’r elusen Mencap Cymru.
Amcan rhaglen World of Difference Vodafone yw rhoi cyfle i bobl wneud gwahaniaeth yn helpu elusen o’u dewis a chael tâl am wneud hynny. Mae'r rhaglen yn cynnig 500 o ysgoloriaethau ac mae cyn enillwyr wedi defnyddio eu harbenigedd sylweddol i helpu achosion amrywiol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, yr amgylchedd, lles anifeiliaid, lleddfu tlodi, iechyd a’r celfyddydau.
Ar ôl i’w chynnig gael ei adolygu ac iddi fynd i nifer o gyfweliadau, bu Jade yn llwyddiannus i gael un o’r 500 o ysgoloriaethau a bydd yn gweithio i’r elusen Mencap Cymru am y pedwar mis nesaf am 15 awr yr wythnos. Mencap yw’r prif lais ym maes anableddau dysgu ac mae’n gweithio â phobl gydag anableddau dysgu er mwyn newid cyfreithiau, herio rhagfarnau a’u cefnogi i fyw eu bywydau fel maent hwy’n dymuno.
Enw’r project y bydd Jade yn gweithio iddo yw 'Play our Way'. Un o brojectau Plant mewn Angen y BBC yw hwn a’i nod yw cefnogi pobl ifanc gydag anabledd dysgu i gymdeithasu’n annibynnol, meithrin sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Yr hyn y bydd hi’n ei wneud yn y project yw cefnogi Llysgenhadon y project i fynd at ystod o weithgareddau arbenigol / prif ffrwd. Bydd yn cefnogi pobl ifanc gyda gweithgareddau hamdden, yn cynnwys dawns, pêl-droed, saethyddiaeth, ac ymweliadau â’r sinema ddwy noson yr wythnos. Bydd hefyd yn arwain gweithgareddau datblygu timau ddau Sadwrn y mis.
Mae’r cyswllt newydd hwn â Mencap Cymru yn ychwanegu at y cyllid ESF a gafwyd eisoes ar gyfer yr ysgoloriaeth Ph.D. KESS a’r cynllun Mynediad at Gyrsiau Meistr (ATM), cynlluniau a oruchwylir gan Dr Gavin Lawrence.
Trechu Ofn yw’r allwedd i apêl chwaraeon eithafol
Mae Seicolegwyr Chwaraeon yn yr Ysgol yn awr yn cael eu cydnabod yn arweinwyr byd ym maes yr elfennau seicolegol hynny sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol. Mae Tim Woodman, Yr Athro Lew Hardy a Matt Barlow, sy’n fyfyriwr PhD, wedi bod yn ymchwilio i’r rhesymau pam fod pobl eisiau gwneud chwaraeon eithafol, megis dringo mynyddoedd uchel iawn. Maent wedi darganfod bod y gwahanol bethau sy’n eu hysgogi yn llawer mwy cymhleth na sylw enwog y dringwr George Mallory fod pobl yn dringo Everest ‘oherwydd ei fod yno’. Mae eu hymchwil wedi darganfod mai prif apêl chwaraeon eithafol yw trechu ofn.
Darllenwch yr erthygl lawn ....
Daily Post, 28 December 2011
Gofal ac Ymchwil i Arthritis (Arthritis Care and Research – ACR)
Mae staff SHES wedi darparu tri o’r 18 papur a dderbyniwyd ar gyfer rhifyn arbennig yr ACR ar 'Muslce and bone in the Rheumatic Diseases'. Y tri phapur yw:
- Are the Benefits of a High-Intensity Progressive Resistance Training Program Sustained in Rheumatoid Arthritis Patents? gan Andy Lemmey, Jeremy Jones, Samuele Marcora, Peter Maddison a Sarah Williams.
- Matched-cohort Study of Body Composition, Physical Function and Quality of Life in men with Idiopathic Vertebral Fracture – mae’r awduron yn cynnwys Jamie Macdonald a Sally Wilson, cyn fyfyriwr PhD.
- Adverse Changes in Tendon-Muscle Phsiology and Physical Funtion Cased by an Isolated Acute Reumatoid Knee Effusion, gan gyn fyfyriwr PhD Verena Matschke, Jeanette Thom, Andy Lemmey, Peter Maddison a Jeremy Jones.
Darllenwch fwy ...
Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn Derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth
Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) rhwng Prifysgol Bangor a Chyngor Sir Ynys Môn, a gynhaliwyd o 2007 tan Fedi 2010, wedi derbyn y raddfa uchaf, sef ‘Rhagorol’, gan Banel Graddio’r KTP am ei llwyddiant yn cyflawni amcanion KTP. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon ar raglenni gweithgaredd corfforol i bobl hŷn ar Ynys Môn gan fyfyriwr MPhil, Gareth Parry. Goruchwyliwyd Gareth gan staff SHES, Dr David Markland a Dr Jeanette Thom, a Mr Brian Jones, Cydlynydd Strategaeth y Cyngor ar gyfer Pobl Hŷn.
Rhai ffeithiau:
- Cafodd modiwl trydedd flwyddyn, “Heneiddio’n Iach” ei ailysgrifennu o fodiwl theori er mwyn cynnwys cymwysiadau ymarferol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i wneud profion iechyd a chorfforol ar bobl hŷn.
- Cafodd y Cyngor wobr Rhagoriaeth Cymru gan y WLGA.
- Cafwyd cyfleoedd rhagorol i gydweithio, gan lwyddo i gyrraedd poblogaeth yr oedd yn anodd mynd ati cyn hynny er mwyn gwneud gwaith ymchwil ym maes iechyd a lles yn gysylltiedig ag oedran
- Rhoddodd y KTP dystiolaeth i’r Cyngor sy’n cefnogi gwerth buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol i bobl hŷn.
I gael adroddiad ar gynhadledd ‘Heneiddio’n Dda ym Môn’, a gynhaliwyd ar y cyd gan SHES a Chyngor Sir Ynys Môn i ddathlu diwedd y KTP, cliciwch yma.
Myfyriwr PhD o SHES yn cefnogi tîm criced dan 19 Lloegr ar daith i Fangladesh
Bydd un o’n myfyrwyr PhD, James Bell, sy’n cael ei noddi gan yr ECB, yn teithio gyda thîm criced dan 19 oed Lloegr ar eu taith i Fangladesh. Mae’r daith hon yn rhan hanfodol bwysig o baratoadau’r tîm at Gwpan y Byd yn Brisbane, Awstralia'r flwyddyn nesaf. Bydd y tîm yn chwarae saith gêm ryngwladol undydd mewn tri lle gwahanol.
Yn ystod y daith bydd James yn gweithio gyda’r chwaraewyr i feithrin eu strategaethau paratoi meddyliol sydd ei angen i fedru ymdopi â phwysau mawr cystadlu rhyngwladol. Dewiswyd Bangladesh yn benodol oherwydd y sialensiau mawr fydd yna i’r chwaraewyr yno ar y caeau chwarae ac oddi arnynt. O ganlyniad, bydd James yn gweithio’n agos â’r hyfforddwyr er mwyn sicrhau y manteisir ar gyfleoedd i wella gwytnwch meddyliol y chwaraewyr.
Myfyrwyr SHES yn Derbyn Gwobrau Ysgoloriaethau
Mae tri o fyfyrwyr blwyddyn un sydd newydd ddechrau eu hastudiaethau yn yr Ysgol wedi cael dechrau da iawn i’w cyfnod ym Mangor drwy ennill gwahanol ysgoloriaethau a gynigir gan y Brifysgol. Dyma’r enillwyr ......
Mark Lewis (BSc Gwyddor Chwaraeon) – Ysgoloriaeth Chwaraeon PB
Daniel C Smith (BSc Gwyddor Chwaraeon) - Ysgoloriaeth Chwaraeon PB
Benjamin Jones (BSc Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer) – Ysgoloriaeth TOP
Yn ogystal, cafodd myfyriwr blwyddyn tri, Joel Chidley (BSc Gwyddor Chwaraeon) hefyd Ysgoloriaeth Chwaraeon PB.
Cyflwynwyd yr ysgoloriaethau i’r myfyrwyr gan y Dirprwy Is-Ganghellor mewn derbyniad gyda’r nos a gynhaliwyd 17 Tachwedd 2011.
Marciau Uchaf i SHES yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr
Cadwodd SHES ei record gadarn am lefelau uchel boddhad myfyrwyr eleni gyda chyhoeddi canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2011. Cawsom ein rhoi yn y deg uchaf o Ysgolion Gwyddor Chwaraeon. Cafwyd sgôr drwodd a thro o 91% o ran boddhad gydag ansawdd y cwrs, a chafwyd sgôr rhyfeddol o 98% o fodlonrwydd gyda’r staff dysgu. Gwelir fod SHES felly yn parhau i anelu at ragoriaeth ym mhob agwedd ar waith yr Ysgol, boed yn addysgu, dysgu neu ymchwil.
Newyddion o'r archif...