Trechu Ofn yw’r allwedd i apêl chwaraeon eithafol
Mae Seicolegwyr Chwaraeon yn yr Ysgol yn awr yn cael eu cydnabod yn arweinwyr byd ym maes yr elfennau seicolegol hynny sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol. Mae Tim Woodman, Yr Athro Lew Hardy a Matt Barlow, sy’n fyfyriwr PhD, wedi bod yn ymchwilio i’r rhesymau pam fod pobl eisiau gwneud chwaraeon eithafol, megis dringo mynyddoedd uchel iawn. Maent wedi darganfod bod y gwahanol bethau sy’n eu hysgogi yn llawer mwy cymhleth na sylw enwog y dringwr George Mallory fod pobl yn dringo Everest ‘oherwydd ei fod yno’. Mae eu hymchwil wedi darganfod mai prif apêl chwaraeon eithafol yw trechu ofn.
Darllenwch yr erthygl lawn ....
Daily Post, 28 December 2011
Gofal ac Ymchwil i Arthritis (Arthritis Care and Research – ACR)
Mae staff SHES wedi darparu tri o’r 18 papur a dderbyniwyd ar gyfer rhifyn arbennig yr ACR ar 'Muslce and bone in the Rheumatic Diseases'. Y tri phapur yw:
- Are the Benefits of a High-Intensity Progressive Resistance Training Program Sustained in Rheumatoid Arthritis Patents? gan Andy Lemmey, Jeremy Jones, Samuele Marcora, Peter Maddison a Sarah Williams.
- Matched-cohort Study of Body Composition, Physical Function and Quality of Life in men with Idiopathic Vertebral Fracture – mae’r awduron yn cynnwys Jamie Macdonald a Sally Wilson, cyn fyfyriwr PhD.
- Adverse Changes in Tendon-Muscle Phsiology and Physical Funtion Cased by an Isolated Acute Reumatoid Knee Effusion, gan gyn fyfyriwr PhD Verena Matschke, Jeanette Thom, Andy Lemmey, Peter Maddison a Jeremy Jones.
Darllenwch fwy ...
‘Carwch eich Corff’ i Golli Pwysau
Mae ymchwil newydd y mae Uwch Ddarlithydd SHES, Dr David Markland, yn rhan ohoni, yn dangos y gall gwella delwedd y corff wella effeithiolrwydd rhaglenni colli pwysau wedi’u seilio ar ddiet ac ymarfer.
Fe wnaeth ymchwilwyr o Brifysgol Dechnegol Lisbon a Phrifysgol Bangor (Dr David Markland) gofrestru merched dros eu pwysau a gordew ar raglen colli pwysau am flwyddyn.
Nododd Dr Teixeira (Prifysgol Dechnegol Lisbon) a arweiniodd yr ymchwil, "Mae problemau delwedd y corff yn gyffredin iawn ymhlith pobl ordrwm a gordew, sy’n aml yn arwain at fwyta er mwyn cael cysur a phatrymau bwyta mwy anhyblyg, ac maent yn rhwystrau i golli pwysau. Dangosodd ein canlyniadau cydberthynas gref rhwng gwelliannau mewn delwedd y corff, yn arbennig wrth leihau pryder ynghylch barn eraill, a newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad bwyta. O hyn, credwn fod dysgu gweld eich corff mewn ffyrdd iachach yn elfen bwysig o barhau i gadw’r pwysau i ffwrdd, ac y dylid ymdrin â hyn mewn bob rhaglen rheoli pwysau."
Darllennwch y stori lawn (fel yr adroddwyd yn ScienceDaily ar 18 Gorffennaf 2011).
Gall gormod o ddiodydd siwgraidd bylu’r gallu i flasu a’n mwynhad ni ohonynt
Mae ymchwil newydd a wnaethpwyd gan Dr Hans-Peter Kubis a’i dîm wedi dangos am y tro cyntaf fod pobl sydd dros eu pwysau neu’n ordew â llai o sensitifrwydd i ddiodydd ysgafn ond bod eu hisymwybod yn ffafrio blas melys. Dywedodd Hans-Peter fod y mater hwn â “goblygiadau difrifol” ar iechyd, ac y gallai peidio â rhoi sylw i’r broblem arwain at fwy o ordewdra a mwy o achosion o glefyd siwgr math 2.
Mae’r hanes llawn i’w weld
yma a chafwyd adroddiad arno ar wefan
Newyddion Gogledd-Orllewin Cymru
Mae ymchwil Hans-Peter wedi’i chyhoeddi yn
Appetite (2011), doi:10.1016/j.appet.2011.05.107 :
Taste perception and implicit attitude
Gallai Arbrawf Ymchwil SHES helpu rhai’n dioddef o grydcymalau i wella
Mae arbrawf clinigol dan arweiniad Dr Andrew Lemmey, ac a gyllidwyd gan Arthritis Research UK, wedi llwyddo i helpu cleifion crydcymalau gwynegol i wella eu cyflwr corfforol a’u lles yn sylweddol. Tynnwyd sylw’n ddiweddar yn y wasg genedlaethol at hanes un o’r cleifion hyn.
Fe wnaeth Christine Jones, sy’n byw ger Bangor, gymryd rhan yn yr arbrawf 24 wythnos a oedd yn edrych ar effeithiau ymarfer gwrthiant ar gyhyrau pobl gyda chrydcymalau gwynegol. Dywedodd ei bod wedi cael budd aruthrol o’r ymarfer a’i bod yn teimlo ei bod yn gwneud rhywbeth ynghylch ei chyflwr.
Dangosodd yr arbrawf bod ymarfer gwrthiant cyson yn cryfhau’r cyhyrau a gwella’r gallu i wneud tasgau bob dydd. Cafodd adroddiad ar yr arbrawf ei gynnwys fel rhan o ymdriniaeth ddwy dudalen ar gyhyrau yn y Daily Express ar 1 Mawrth.
Canfyddiad o ymdrech, nid blinder cyhyrau, sy'n cyfyngu ar berfformiad hirdymor
Mae'r theori ffisiolegol sy'n sail i'r holl hyfforddiant dygnwch ers 100 mlynedd newydd gael ei wrthbrofi.
Mor ddiweddar â 2008, roedd papurau ymchwil gwyddonol yn dyfynnu'r theori mai gallu cyhyrau'r ysgerbwd, y galon a'r ysgyfaint oedd yn cyfyngu ar berfformiad dygnwch, a bod blinder yn digwydd pan fydd y cyhyrau gweithredol yn methu â chynhyrchu'r grym na'r pŵer sydd ei angen i ymarfer dros gyfnod hir.
Mae Dr Sam Marcora, ffisiolegydd ymarfer ym Mhrifysgol Bangor, bellach wedi gwrthbrofi hyn am y tro cyntaf ac wedi cynnig ateb arall - sef mai eich canfyddiad o ymdrech sy'n cyfyngu ar eich perfformiad dygnwch, yn hytrach na gallu gwirioneddol eich cyhyrau. Dangosodd fod y cyhyrau'n dal i allu cyflawni'r allbwn pŵer y mae ymarfer dygnwch yn gofyn amdano hyd yn oed pan fydd yr unigolyn wedi cyrraedd y man lle mae'n teimlo ei fod wedi llwyr ymlâdd. Mwy...
Hyfforddiant caletach i wella gwytnwch meddwl athletwyr ifainc
Mae rhai o gricedwyr ifainc mwyaf addawol Cymru a Lloegr ar fin mynd yn fwy gwydn -- fel y gallant berfformio'n well dan bwysau. Maent yn dilyn cwrs hyfforddi arbennig i ddysgu rhai medrau 'gwytnwch meddwl' dan gyfarwyddyd profiadol Tîm aml-ddisgyblaeth o staff Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn cynnwys seicolegydd chwaraeon, sef yr Athro Lew Hardy o Brifysgol Bangor. Mwy...