Ysgoloriaethau Teilyngdod a Mynediad

Pynciau

Ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn cynnig Ysgoloriaethau Mynediad yn y pynciau sy'n dilyn:

  • Almaeneg
  • Astudiaethau Busnes
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Astudiaethau'r Cyfryngau
  • Astudiaethau Theatr
  • Athroniaeth
  • Bioleg
  • Cerddoriaeth
  • Cyfrifiadureg
  • Cymdeithaseg
  • Cymraeg (fel Iaith Gyntaf neu Ail Iaith)
  • Daearyddiaeth
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Economeg
  • Eidaleg
  • Electroneg
  • Ffrangeg
  • Ffiseg
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
  • Hanes
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mathemateg
  • Seicoleg
  • Iaith Saesneg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Sbaeneg
  • Tsieinëeg
  • Y Gyfraith

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr Ysgoloriaeth Ragoriaeth yn y flwyddyn gyntaf gyda’r wobr yn cael ei thalu ar ddiwedd mis Tachwedd.

Dyma restr o'r Ysgoloriaethau Mynediad sydd ar gael

YSGOLORIAETHAU DR. WILLIAM JONES WILLIAMS (£1500)*

Cafodd y Dr. William Jones Williams (1841-1920) yrfa lwyddiannus fel Meddyg yng Ngogledd Swydd Gaerefrog. Brodor o Dremadog ydoedd, ac fe'i cofir fel un o gymwynaswyr mwyaf hael y Brifysgol. Y mae dwy ysgoloriaeth yn dwyn ei enw, y naill yn gwbl agored a'r llall yn gyfyngedig i ymgeiswyr sy'n frodorion o Gymru ac a addysgwyd mewn ysgol uwchradd yng Nghymru.

YSGOLORIAETH DR. E.T. DAVIES (£1500)*

Sefydlwyd yn 1962 yn unol ag ewyllys y Dr. E.T. Davies, Lerpwl, ac y mae'n agored i ymgeiswyr sy'n frodorion o Gymru ac a addysgwyd mewn ysgol uwchradd yng Nghymru.

YSGOLORIAETH JOHN HUGHES (£1500)*

Sefydlwyd yn 1906 yn unol ag ewyllys yn Henadur John Hughes Y.H., Lerpwl ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Môn, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.

YSGOLORIAETH RICHARD HUGHES (£1500)*

Sefydlwyd yn 1904 yn unol ag ewyllys Richard Hughes, o Lanfwrog, Ynys Môn, ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Môn, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.

YSGOLORIAETH THOMAS HUGHES (£1500)*

Sefydlwyd yn 1973 yn unol ag ewyllys Thomas Hughes o'r Fali, Ynys Môn, ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Môn, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.

YSGOLORIAETH WILLIAM PRITCHARD (£1500)*

Cynigir er cof am y diweddar William Pritchard, ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Môn, Conwy a Gwynedd neu sy'n byw yn y siroedd hynny.

YSGOLORIAETH Y FONESIG GLADSTONE (£1500)*

Cynigir er cof am y Fonesig Gladstone o Benarlaˆg, aelod o Gyngor y Coleg a fu farw yn 1941. Y mae'r ysgoloriaeth yn agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam Maelor neu sy'n byw yn y siroedd hynny.

YSGOLORIAETH PIERCY (£1500)*

Sefydlwyd yn 1908 yn unol ag ewyllys Benjamin Piercy o Wrecsam ac y mae'n agored i ymgeiswyr a anwyd yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam Maelor neu sy'n byw yn y siroedd hynny.

YSGOLORIAETH ANNA BOYD (£300)*

Sefydlwyd yn 1938 yn unol ag ewyllys Miss Anna Frances Elizabeth Boyd o Cheltenham ac y mae'n agored i ymgeiswyr sy'n gyn-ddisgyblion yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o Gricieth.

YSGOLORIAETH GOFFA ROSA HOVEY (£1,500)*

Darperir yr ysgoloriaeth yma o incwm rhodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn Hydref 1934, ac Ionawr 1949, gan y ddiweddar Miss Ethel M Hovey, Bae Colwyn. Mae’r wobr yn agored i ferched sydd wedi derbyn eu haddysg uwchradd yng Ngogledd Cymru. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr o fwrdeistref bresennol Colwyn neu'r ardaloedd cyfagos. Wedi hynny, mae'r wobr yn cael ei hagor i ymgeiswyr o hen siroedd Caernarfon neu Sir Ddinbych ac yna Gogledd Cymru gyfan.

* Nid yw'r ysgoloriaethau a nodir â seren yn cael eu cynnig bob blwyddyn.

Ysgoloriaeth

Swm

Gofynion

Bae Colwyn

£1,500

Ymgeiswyr o Fae Colwyn, Llanelwy ac Hen-Golwyn

 

Ysgoloriaeth

Swm

Gofynion

Ysgoloriaeth Ysgol y Gyfraith £3000 Ymgeiswyr sy'n dymuno astudio unrhyw gwrs gradd israddedig yn Ysgol y Gyfraith.
Ysgoloriaeth Cronfa'r Normal £500 Ymgeiswyr sy'n dymuno astudio cwrs israddeig yn yr Ysgol Addysg.
Ysgoloriaethau'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig £1500 Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cynnig tair ysgoloriaeth i rai sy'n dymuno dilyn unrhyw gwrs gradd israddedig yn yr Ysgol. Mae'r Ysgoloriaethau'n werth £1500 ac fe'i delir yn llawn yn y flwyddyn gyntaf.
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol £3000 dros dair blynedd Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1000 y flwyddyn (£3000 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn dilyn 240 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg. 
I ymgeisio ar gyfer un o'r Ysgoloriaethau hyn ym Mangor, mae gofyn i chi sefyll ein arholiad Ysgoloriaethau Mynediad.
Bwrsariaeth y Teulu Glynne (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) Mynediad 2023  

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor yn falch o allu cynnig y bwrsariaethau canlynol i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel rhan o radd sengl, gradd gyda phwnc arall, neu radd gydanrhydedd.

Cewch ragor o wybodaeth yma.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?