Y Ffi Ddysgu i Fyfyrwyr o Gymru = £3,456
Gall myfyrwyr o Gymru sy'n astudio am eu gradd gyntaf wneud cais am grant ffioedd newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y gallai myfyrwyr o Gymru fod yn gymwys am y canlynol:
- grant ffioedd dysgu gwerth £5,535 gan Lywodraeth Cymru na fydd rhaid ei ad-dalu, a
- benthyciad ffioedd dysgu gwerth £3,465, y byddwch yn dechrau ei ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £21,000 y flwyddyn.
Ni fydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod talu'r cynnydd mewn ffioedd ddysgu - mae cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru sy'n golygu bydd y ffi dysgu yn aros yr un fath ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy'n bwriadu mynd i'r brifysgol ym Medi 2012.
Oherwydd y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (gweler y bocs ar y dde), lefel y ffi ddysgu ar gyfer myfyrwyr o Gymru yn 2012/13 fydd £3,465 y flwyddyn.
Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). Caiff y taliad ei ohirio nes ar ol i chi raddio trwy fenthyciad ffi ddysgu. Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill dros £21,000
Talu eich Ffioedd Dysgu
Mae’r drefn talu ffioedd yn golygu mai’r neges i ddarpar fyfyrwyr yw ‘astudiwch yn gyntaf a thalu’n ôl pan fyddwch yn ennill’.
Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). Caiff y taliad ei ohirio nes ar ol i chi raddio trwy fenthyciad ffi ddysgu. Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill dros £21,000
I ohirio talu tan ar ol i chi raddio mae'n rhaid i chi wneud cais am fenthyciad ffi ddysgu.
Benthyciad Ffi Ddysgu
I ohirio talu tan ar ôl i chi raddio mae’n rhaid i chi wneud cais am fenthyciad ffi ddysgu.
Gallwch wneud cais am eich benthyciad ffi ddysgu, benthyciad at gostau byw a grant nad oes angen ei ad-dalu i'w lawr lwytho neu ei llenwi ar-lein ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (gweler isod).
Bydd y benthyciad ffi ddysgu yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r Brifysgol i dalu’r ffioedd dysgu ar eich rhan.
Gall holl fyfyrwyr llawn-amser cymwys wneud cais am fenthyciad ar gyfer swm lawn eu ffioedd dysgu. Caiff y benthyciad ffi ddysgu ei dalu'n uniongyrchol i'r brifysgol i dalu'r ffioedd dysgu ar eich rhan.
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted a phosib os bydd eich cwrs yn cychwyn mis Medi 2012.
Mwy o wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr o Gymru ar y gwefan canlynol: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Am ragor o wybodaeth am sut i dalu ffioedd dysgu, os ydych yn dymuno gwneud hyn, a ffioedd eraill y brifysgol fel ffioedd llety ewch i dudalennau'r Swyddfa Gyllid
Am gyngor a chefnogaeth ar gyllid myfyrwyr cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol ar cymorthariannol@bangor.ac.uk neu 01248 383566/3637.
Cefnogi ein myfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor yn benderfynol o gynnal a gwella’r hyn a gynigir i fyfyrwyr. Ymhlith yr hyn a gynigir o fis Medi 2012 ymlaen y mae:
- Mwy o gymorth trwy fwrsariaethau a bwrsariaethau ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel.
- Aelodaeth rad ac am ddim o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr.
- Mwy o gefnogaeth ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a gwella’r cynllun Gwobr Cyflogadwyedd er mwyn hybu cyflogadwyedd a sgiliau myfyrwyr.
- Buddsoddi mewn adnoddau dysgu ac addysgu, cyfleusterau newydd i Undeb y Myfyrwyr a chlwb nos a bar newydd i fyfyrwyr.