Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr - Awgrymiadau

Awgrymiadau i'ch helpu

  • Safle we: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
     
  • Bydd angen prawf adnabod i bob myfyriwr. Ar gyfer hyn, bydd angen i Gyllid Myfyrwyr Cymru weld eich pasbort gwreiddiol. Os nad oes gennych basbort, mae'n bosib i chi anfon eich tystysgrif geni gyda Ffurflen Tystysgrif Geni/Mabwysiadu.  Ni wnaiff copi y tro, mae'n rhaid iddynt weld dogfennau gwreiddiol.
     
  • Mae angen cyfrif banc a Rhif Yswiriant Cenedlaethol arnoch i dderbyn benthyciad myfyriwr neu unrhyw grant. Y cyfrif a nodwch ar eich cais yw'r cyfrif a ddefnyddir i dalu'ch benthyciad/grant.
  • Gwnewch gais am gefnogaeth hyd yn oed os nad ydych yn sicr i ba Brifysgol yr ydych yn mynd iddi. Rhowch eich dewis cyntaf i lawr ar eich ffurflen UCAS. Sicrhewch eich bod yn rhoi'r codau UCAS cywir ar gyfer y Brifysgol a'r cwrs. Os ydych chi'n dewis mynd i Brifysgol arall, rhowch wybod yn syth.
     
  • Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn asesu incwm eich cartref am y flwyddyn dreth ddiwethaf ac fe fydd arnynt angen cadarnhad o hyn. Os yw hyn yn peri problem, e.e. bod eich rhieni yn hunangyflogedig neu fod yr incwm yn llawer llai ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, cysylltwch â hwyl ac fe wnânt eich cynghori ynghylch beth i'w wneud.
     
  • Sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflen gais cyn y dyddiad cau. Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr newydd yw'r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin. Os nad ydych chi'n llenwi a chyflwyno'r ffurflen erbyn y dyddiad cau, ni fydd eich benthyciad na'ch grantiau yn eich cyfrif banc ar ddechrau eich cwrs.
     
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru neu'ch Awdurdod Lleol, neu cysylltwch â'n Ymgynghorydd Ariannol Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ar 01248 383637 neu ebostiwch cymorthariannol@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?