Benthyciad Cynhaliaeth
I helpu gyda chostau byw, er enghraifft llety, bwyd, dillad, teithio ac ati gall fyfyrwyr wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth. Mae’r Benthyciad Cynhaliaeth ar gael bob blwyddyn academaidd i fyfyrwyr “cartref” ar gyrsiau cymwys dan i myfyrwyr o dan 60 oed ar ddechrau eu cwrs.
Uchafswm y benthyciad myfyriwr ar gyfer 2012/13 fydd £4,745 os oeddech yn byw oddi cartref a £3,673 os oeddech yn byw gyda'ch rhieni.
Mae swm y benthyciad yn dibynnu ar lle yr ydych yn byw, incwm y cartref a faint o grant cynhaliaeth yr ydych yn gymwys i'w dderbyn.
Caiff y benthyciad ei dalu yn syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu mewn 3 taliad - un ar ddechrau pob tymor.
Bydd rhaid talu'r benthyciad yn ôl unwaith y byddwch yn ennill dros £21,000
Grant Dysgu’r Cynulliad
Yn achos myfyrwyr o Gymru mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael, a roddir wedi asesiad eich incwm cartref. Nid oes raid eu talu’n ôl.
Gallwch wneud cais am y grant hon yn ychwanegol at y benthyciad cynnal myfyrwyr a mathau eraill o gefnogaeth – a'r tro hwn nid oes raid i chi dalu’r arian yn ôl.
Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu a incwm eich cartref, a lle rydych yn byw fel rheol.
Yn 2012/13 bydd myfyrwyr o Gymru yn derbyn y grant lawn o £5,000 lle mae incwm y cartref o dan £18,370, a grant rannol lle mae mae incwm y cartref rhwng £18,370 a £50,020.
Caiff grantiau eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu mewn tri rhandaliad – un ar ddechrau pob tymor.
Gwneud cais am grantiau a benthyciadau
Gallwch wneud cais am eich grant gynnal, benthyciad ffi ddysgu a benthyciad cynnal yr un pryd - mae’r ffurflen PN1 Cais am Gyllid i Fyfyrwyr ar gael gan eich Awdurdod Addysg leol.
Fe’ch cynghorir i wneud cais cyn gynted ag y bod modd. Mi fydd hi’n bosib lawrlwytho’r ffurflen oddi ar y safle we yma: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu mae’n bosib i chi wneud cais ar y we gan ddefnyddio’r un safle we.