Os ydych yn fyfyriwr addysg uwch rhan amser, mae cymorth ariannol ar gael i chi tuag at eich ffioedd a chostau eraill sy’n berthnasol i’ch cwrs. Mae maint y cymorth a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, y math o gwrs yr ydych yn ei ddilyn ac o ba ran o’r Du yr ydych yn dod. Yr un cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser newydd ac i’r rhai sy’n dychwelyd.
Mae dau fath o grant nad oes angen eu had-dalu ar gael:
- grant ffi (i helpu gyda ffioedd dysgu)
- grant cwrs (i helpu gyda chostau llyfrau, deunyddiau a theithio)
Er mwyn i chi allu gwneud cais am grant ffi neu grant cwrs, mae’n rhaid i’ch cwrs fod yn gwrs lleiafswm o flwyddyn a rhaid iddo beidio cymryd mwy na dwywaith gymaint â chwrs llawn amser cyfatebol i’w orffen.
Byddwch yn gwneud cais bob blwyddyn o’ch cwrs, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae’r hyn a fyddwch yn ei gael bob blwyddyn yn dibynnu ar incwm eich teulu ac os oes priod, partner neu blant gennych.
Nid oes raid i chi ad-dalu’r cymorth yma.
Ni chaiff myfyrwyr sydd â gradd eisoes wneud cais am y grant yma fel rheol. Does dim cyfyngiad oed.
Mae’r uchafswm o grant ffi sydd ar gael yn dibynnu hefyd ar ba mor ddwys yw eich cwrs. Mae ‘Dwyster’ yn cyfeirio at yr hyn o amser a gymer eich cwrs i’w orffen o’i gymharu â chwrs llawn amser cyfatebol.
Er enghraifft, os bydd cwrs tair blynedd llawn amser yn cymryd chwe blynedd i’w orffen fel cwrs rhan amser, yna 50% yw dwyster y cwrs rhan amser.
Bydd eich adran yn gallu rhoi cyngor i chi ar ddwyster eich cwrs.
Gallwch wneud cais am yr un uchafswm o grant cwrs waeth beth yw dwyster eich cwrs.
Os mai yng Nghymru yr oeddech yn byw cyn i chi gychwyn eich cwrs, mae’r cymorth sydd ar gael yn cael ei nodi yn y tabl isod:
| Pa mor ddwys yw eich cwrs |
Uchafswm grant ffi |
Uchafswm grant cwrs |
Cyfanswm y cymorth |
| Yn gyfatebol i rhwng 50% a 59% o’r cwrs llawn amser |
£605 |
£1,025 |
£1,630 |
Yn gyfatebol i rhwng 60% a 74% o’r cwrs llawn amser
|
£725 |
£1,025 |
£1,710 |
| Yn gyfatebol i 75% neu fwy o’r cwrs llawn amser |
£905 |
£1,025 |
£1,885 |
Os mai yn Lloegr yr oeddech yn byw cyn i chi gychwyn y cwrs, mae’r cymorth sydd ar gael yn cael ei nodi yn y tabl isod:
| Pa mor ddwys yw eich cwrs |
Uchafswm grant ffi |
Uchafswm grant cwrs |
Cyfanswm y cymorth |
| Yn gyfatebol i rhwng 50% a 59% o’r cwrs llawn amser |
£765 |
£250 |
£1,015 |
Yn gyfatebol i rhwng 60% a 74% o’r cwrs llawn amser
|
£920 |
£250 |
£1,170 |
| Yn gyfatebol i 75% neu fwy o’r cwrs llawn amser |
£1,150 |
£250 |
1,3400 |
Cymhorthion Eraill sydd ar gael
Mae’n bosib y gallai myfyrwyr rhan amser sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu penodol, gan gynnwys myfyrwyr dysgu o bell sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs llawn amser, gael Lwfansau Myfyrwyr Anabl(LMA). Gall y lwfansau yma helpu i dalu am y costau ychwanegol sydd gennych (mewn perthynas ag astudio am gwrs addysg uwch) o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd neu eich anhawster dysgu penodol. Er enghraifft, gallai’r lwfansau helpu i dalu am gost prif eitemau o offer arbenigol, cynorthwywr anfeddygol, costau teithio a chostau eraill sy’n berthnasol i’r cwrs. Nid yw’r lwfansau yn dibynnu ar eich incwm ac nid oes raid i chi eu had-dalu. Nid oes cyfyngder oed wrth wneud cais am LMA. Fodd bynnag, i wneud cais bydd angen i chi lenwi ffurflen wahanol i’r ffurflen gais am y grant ffi a’r grant cwrs. Cewch fwy o wybodaeth yn ein llyfryn ‘Bridging the Gap': a guide to the Disabled Students’
Astudio llai na 50% o gwrs llawn amser
Os yw eich cwrs yn llai na 50% o gwrs llawn amser cyfatebol (e.e. os ydych yn astudio llai na 60 credyd y flwyddyn) mae’n bosib y byddwch yn gymwys i beidio gorfod talu ffi i’r Brifysgol. Efallai na fydd raid i chi dalu’r ffi os ydych yn astudio ar lefel israddedig ac yn cael rhai budd-daliadau, a dim gradd gennych eisoes.
Os ydych yn astudio yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol neu cliciwch yma
Os ydych yn astudio yn unrhyw ysgol arall yn y brifysgol cysylltwch â’r Cynghorwr Ariannol.