UWB Crest

Cyllid Myfyrwyr

Ôl-raddedigion

Delwedd yn dangos myfyrwyr

Bob blwyddyn, mae mwyafrif o ysgolion academaidd y Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau ac Efrydiaethau i’ch helpu gyda’ch ymchwil ôl-raddedig neu’r rhaglen ôl-raddedig hyfforddedig yr ydych yn bwriadu ei dilyn mewn meysydd penodol o astudiaeth. Am wybodaeth ar ffioedd a'r gwahanol ffyrdd o ariannu eich cwrs, defnyddiwch y dewislen ar y dde os gwelch yn dda.

Am fanylion pellach ewch i'n tudalennau ôl-raddedig neu ebostiwch postgraduatestudy@bangor.ac.uk.

Myfyrwyr presennol

Mae ffynonellau cyllid ar gael o Brydain a thu hwnt. Am wybodaeth, ewch i dudalennau'r Swyddfa Ymchwil.

Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau Ysgolion Academaidd

Ysgoloriaethau Santander

Bydd y Santander Group yn rhoi ysgoloriaethau ôl-radd i fyfyrwyr meistr fydd yn dechrau astudio ym Mhrifysgol Bangor yn 2011. Mwy o wybodaeth....

Efrydiaeth PhD gydweithredol a gyllidir gan yr AHRC

Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Dr John Olsson o’r Sefydliad Ieithyddiaeth Fforensig, eisiau penodi ymgeisydd cymwys i efrydiaeth ddoethurol am dair blynedd yn dechrau ar 1 Hydref 2011. Mwy...

Cynllun Meistr Blwyddyn AHRC Paratoi ar gyfer Ymchwil (Ysgrifennu Creadigol , Hanes, Saesneg a Chymraeg / Astudiaethau Celtic)

Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am bump Gynllun Meistr Blwyddyn AHRC Paratoi ar gyfer Ymchwil (RPM) mewn Ysgrifennu Creadigol, Saesneg, Hanes a Chymraeg / Astudiaethau Celtic (MA) a Chymraeg / Astudiaethau Celtic (Phd)