UWB Crest

Cyllid Myfyrwyr

Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Image of students at the library

Dewiswch un o blith yr isod;

Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau Ysgolion Academaidd

Ysgoloriaethau Dathlu

Os ydych yn ystyried astudiaethau ôl-radd, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer gwneud cais am un o Ysgoloiaethau Dathlu Prifysgol Bangor. Mwy o wybodaeth...

Ysgoloriaethau Santander

Bydd y Santander Group yn rhoi ysgoloriaethau ôl-radd i fyfyrwyr meistr fydd yn dechrau astudio ym Mhrifysgol Bangor yn 2010. Mwy o wybodaeth....

Ysgoloriaethau i’w Rhannu y Gymanwlad

Ysgoloriaethau i fyfyrwyr o wledydd datblygol y Gymanwlad  na fyddent fel arall yn gallu astudio yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gyfyngedig i gyrsiau ôl-radd trwy ddysgu. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r Wefan ymchwil.

Cyllid gan Gynghorau Ymchwil

Er eich gwybodaeth, dewiswch eich dull o astudio:-

Ysgoloriaeth Mynediad Ôl-raddedig

Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i gael ysgoloriaeth Mynediad Ôl-raddedig, os oeddent yn cael un o’r rhain pan oeddent yn fyfyrwyr israddedig:

  • Grant Dysgu’r Cynulliad
  • Bwrsari Cyfle (Opportunity Bursary),
  • Bwrsari “Foyer”
  • Grant Gadael Gofal.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod â thystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau neu’r bwrsarïau hyn. £500 yw’r uchafswm fydd ar gael i bob myfyriwr.

Cysylltwch â’r Uned Cymorth Ariannol i gael mwy o wybodaeth.

Addysgedau AALl

Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.

Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.

Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs:

*Sylwch: mae’r Brifysgol wedi ymdrechu i’r eithaf i sicrhau bod y wybodaeth uchod yn gywir. Fodd bynnag, gall fod yn agored i’w newid.