Mae’n gallu bod yn anodd canfod gwaith mewn ardal sy’n newydd i chi, felly rydym ni’n cymryd y straen allan o chwilio am waith drwy ddarparu ein JobMart ni i chi yn y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd.
Biwro pwrpasol Bangor ar gyfer swyddi i fyfyrwyr yw’r JobZone a bydd yn dod o hyd i waith a fydd yn eich galluogi i ennill cyflog drwy waith achlysurol neu ran-amser yn yr ardal. Hefyd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i swyddi gwyliau, gwaith gwirfoddol a phrofiad gwaith.
Mae'r JobZone yn derbyn manylion am swyddi gwag a swyddi parhaol i raddedigion sy’n amrywio o gyfleoedd yng ngogledd Cymru i rai byd-eang.