Bangor a'r Ardal...
Mwy o wybodaeth...
1. Mae Bangor yn ddinas hanesyddol llawn cymeriad, ac wedi ei lleoli ar dirwedd anhygoel ar lannau’r Fenai.
2. Mae’r ddinas yn gartref i dros 13,500 o bobl ac mae 8,000 o fyfyrwyr yn astudio ym Mangor ar hyn o bryd.
3. Yn Ngwynedd mae dros 60% o bobl yn siarad Cymraeg.

4. Yng nghanol y ddinas, gwelir un o’r Eglwysi Cadeiriol hynaf ym Mhrydain. Cafodd y gadeirlan ei sefydlu yn 525 O.C, tua 70 mlynedd cyn Caergaint.
5. Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hanes y ddinas a’i hunaniaeth. Cafodd ei hadeiladu yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, wedi i weithwyr chwarel y Penrhyn wirfoddoli i gyfrannu rhywfaint o’u cyflog er mwyn darparu addysg uwch o safon i bobl leol.

6. Mae golygfeydd gwych i’w cael ym Mangor gan fod y ddinas wedi ei lleoli rhwng afon Menai a mynyddoedd Eryri. Gellir croesi hefyd i Ynys Môn gan ddefnyddio un o’r ddwy bont– Pont Menai neu Bont Britannia.
7. Ceir canolfannau siopa a’r stryd fawr hiraf yng Nghymru ym Mangor.
8. Mae gan y ddinas hefyd bier Fictoraidd sy’n ymestyn hanner ffordd ar draws y Fenai.
9. Mae nifer o atyniadau i’w cael yn yr ardal, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri.
10. Mae Bangor hefyd yn cael ei hadnabod fel y pedwerydd prifysgol o ran lle rhesymol ei bris i astudio.