Mae'r Brifysgol yn buddsoddi'n helaeth mewn cyfleusterau newydd i gyfaethogi profiad myfyrwyr ym Mangor.
Cyfleusterau Chwaraeon Newydd
Mae Canolfan Brailsford sydd newydd ei ailddatblygu, yn cynnig y cyfleusterau chwaraeon diweddaraf mewn campfa deulawr newydd sbon. Yn ogystal mae yno stiwdio aerobeg newydd, ystafelloedd newid cyhoeddus a chawodydd newydd a gwell, a llawr newydd i'r brif neuadd chwaraeon.
Mae hyn oll yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn cyfleusterau chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor sy'n cynnwys y cyfleusterau tenis a pêl-rwyd dan do newydd a agorwyd gan yr Arglwydd Coe.
Canolfan Pontio
Mae Canolfan Pontio yn gartref i gyfleusterau dysgu ac addysgu arloesol, theatr, sinema, bar a chaffi, undeb y myfyrwyr a chanolfan arloesi o'r radd flaenaf.
Llety newydd
Mae Pentref Myfyrwyr Santes Fair yn ddatblygiad werth £30miliwn o 600 o ystafelloedd gyda'r holl gyfleusterau y byddai myfyrwyr heddiw yn disgwyl eu gweld ar gampws preswyl modern. Bydd yn cynnig y gorau i fyfyrwyr mewn cyfforddusrwydd a chynllun gyda chaffi bar, siop, lle golchi dillad a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd i gyd ar y safle. Wrth wraidd y cynllun mae ymrwymiad i ddarparu gwir ymdeimlad o gymuned gyda gwell amgylchedd i gymdeithasu a byw ynddo.
Cymorth i Fyfyrwyr
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl mewn prifysgol sy'n rhoi cryn bwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig cymorth ychwanegol i gefnogi fyfyrwyr. Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau gwerth dros £3.4M ar gael i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd.
Mae'r rhain yn cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Theilyngdod hyd at £3,000 ar gyfer y rhai sy'n rhagori yn yr Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol.
Clybiau a chymdeithasau am ddim
Mae tua 150 o glybiau a chymdeithasau sy'n rhan o Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys tua 50 o glybiau chwaraeon a gynigir trwy'r Undeb Athletau. Mae Bangor yn cynnig aelodaeth am ddim i bob myfyriwr, felly cewch ymuno fel cyn gymaint ag y dymunwch!