UWB Crest

Bywyd myfyrwyr ym Mangor

Newyddion myfyrwyr

Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael gwobr yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd

Ar ôl cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, mae Gwladys Lambert wedi dod yn gydradd am ei chyflwyniad llafar yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ar 7-11 Mai.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2012

Mwy......


Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012

Mae Rebecca Earnshaw wedi’i henwi’n enillydd gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych mae wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2012

Mwy......


Gall grwpiau lleol elwa ar broject Traws(ffurfiannau) y Brifysgol

Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio rhyddhau grym creadigol ei myfyrwyr er budd elusennau  a grwpiau datblygu cymunedol yn y rhanbarth.

Mewn project newydd a chyffrous, bydd myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn benodol myfyrwyr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, yn cael eu hannog i weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector ar brojectau creadigol, bywiog a heriol a fydd yn hyrwyddo materion penodol neu’n denu cynulleidfaoedd newydd i grwpiau cymunedol.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012

Mwy......


Entrepreneuriaid Santander Bangor

Mae Tom Purnell, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, a Will Osborn, myfyriwr ôl-radd Seicoleg Defnyddwyr, wedi ennill cystadleuaeth Prifysgol Bangor o’r Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander a byddant yn cynrychioli'r Brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.

Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2012

Mwy......


Myfyrwyr yn cael eu dewis ar gyfer Ras Gyfnewid y Ffagl Olympaidd

Mae Allys Allsop, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn un o ddeg o fyfyrwyr o bob cwr o'r DU a ddewiswyd gan Coca-Cola, Partner Cyflwyno’r Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012, i gydnabod a gwobrwyo cyfraniadau cadarnhaol a wnaed gan lawer o fyfyrwyr bob dydd.

Hefyd yn cario’r fflam fydd Caitlen Moon. Bydd Caitlen, sy’n 21 ac sy’n enedigol o Stafford, yn cario’r  Fflam drwy Great Wyrley ar 30 Mehefin 2012.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012

Mwy......


Jamie’n rhedeg efo’r Fflam Olympaidd a hefyd angen eich cymorth

Mae Jamie Turley, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor efo wythnosau prysur o’i flaen. Nid yn unig mae wedi’i dewis i redeg efo’r Fflam Olympaidd heibio’i dref enedigol, Ffynnongroyw ar Fail 29, hefyd mae wedi’i ddewis  yn Gydlynydd gwirfoddolwyr ar gyfer  dathliadau pan ddaw’r Ffagl a’r Fflam Olympaidd i Fangor  ar 28 Fai 2012.

Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2012

Mwy......


Gwyl Ffilm Myfyrwyr Prydain

Mae project ar y cyd rhwng israddedigion ac ol-raddedigion yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei ddewis ar gyfer yr Ŵyl Ffilm Myfyrwyr Prydain ac yn cael ei darlledu yn Llundain, Bryste, Newcastle a Lerpwl yn ystod mis Ebrill. Llongyfarchiadau i'r tîm cynhyrchu ar y ffilm "31st May"

Dyddiad Cyhoeddi: 27/04/2012

Mwy......


Hollaback! Gwynedd yn ymuno â’r mudiad rhyngwladol yn erbyn aflonyddu ar y stryd! Yn lledu i gymru, yr iseldiroedd ac ar draws Ewrop

23 April, 2012 (Bangor, Gwynedd) – Students in Bangor, north Wales have joined the international fight against street harassment! The Bangor Women's Society have recruited a bilingual team of students from the University to coodinate and launch a brand new anti-street harassment project for the region. Hollaback! Gwynedd is the first of its kind in Wales and one of a new group launching this week across the United Kingdom.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2012

Mwy......


Myfyrwyr yn esbonio’u hymchwil i’r cyhoedd ar Uned Symudol Cymorth Canser Tenovus

Bydd myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Bangor, sy’n cael eu noddi gan yr elusen ymchwil canser Tenovus, ar uned arddangos symudol yn archfarchnad Morrison, Bangor ddydd Llun 23 Ebrill, yn trafod eu gwaith ymchwil gydag aelodau o'r cyhoedd.

Bydd Tenovus, elusen canser blaenllaw yng Nghymru, yn arddangos eu gwasanaethau cymorth yn y gogledd, ynghyd â'r ymchwil arloesol y maent yn eu hariannu ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 20/04/2012

Mwy......


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Amgylcheddol Genedlaethol

Gwobrwywyd Undeb Myfyrwyr Bangor yn ddiweddar yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yng Ngwobrau Effeithiau Gwyrdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) ym Manceinion.


Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith amgylcheddol undebau myfyrwyr ar hyd a lled y wlad ac eleni cafwyd y nifer fwyaf erioed, sef 105 o undebau, yn cystadlu. Mae’r gwobrau yn rhan o fenter Effaith Gwyrdd UCM sy’n cynnig achrediad amgylcheddol i undebau myfyrwyr, ac yn helpu undebau i ddwyn sylw at eu harferion amgylcheddol rhagorol.

Dyddiad Cyhoeddi: 20/04/2012

Mwy......


Dringo i Gopa’r Denali

Bydd Will Hardy, myfyriwr flwyddyn gyntaf sy’n astudio Daearyddiaeth ym Mangor, yn mynd a’i ddiddordeb mewn dringo i’r lefel eithaf dros yr haf wrth iddo dreulio mis ar daith ddringo yng ngogledd America.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2012

Mwy......


Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Bangor wedi bod yn destun sylw eto

Mae dau o’n huwch Arweinwyr Cyfoed, Ben Pattle o ADNODD a Rhiannon Edwards o’r Ysgol Seicoleg, wedi cynrychioli Bangor  yn ddiweddar mewn seminar ym Mhrifysgol Aston o’r enw Peer Mentoring Works!

Fe gawsant fodd i fyw ar y diwrnod a buont yn cymryd rhan mewn gwahanol grwpiau trafod ac yn rhwydweithio â staff a myfyrwyr o sefydliadau eraill.  Ar ddiwedd y diwrnod buont yn rhan o banel o arbenigwyr yn ateb ychydig o gwestiynau.  Meddai Ben ‘Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y Cynllun Arweinwyr Cyfoed a llawer o adborth cadarnhaol.  Buon ni’n brysur iawn yn ateb cwestiynau.’ Ychwanegodd Rhiannon ‘ Beth wnaeth argraff arbennig ar bobl oedd ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed oedd mor barod i roi o'u hamser.  Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y cynllun optio allan sydd gennym sy’n sicrhau bod ein Harweinwyr Cyfoed ar gael i bawb.’

Dyddiad Cyhoeddi: 18/04/2012

Mwy......


UM Bangor yn Ennill Gwobr Cysylltiadau Cymunedol

Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill ‘Gwobr Cysylltiadau Cymunedol UCM Cymru’ yng Nghynhadledd UCM Cymru yng Ngregynog, gan guro pob cymdeithas arall yng Nghymru sy’n cynrychioli myfyrwyr wrth ennill y wobr, a hynny oherwydd y myrdd o weithgareddau a gynhelir gan UM Bangor ynghyd â’r gymuned leol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UM Bangor wedi cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd yng Nghadeirlan Bangor, gorymdaith Adennill y Nos o gwmpas y ddinas ac wedi cefnogi Gŵyl Bwyd Conwy drwy annog ein cymdeithasau myfyrwyr i gymryd rhan mewn diwrnod thema canoloesol. Roedd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd yn hynod o boblogaidd yno ac maent wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd yno flwyddyn nesaf. 

Dyddiad Cyhoeddi: 17/04/2012

Mwy......


Prosbectws newydd 2013 ar gael

Mae “wynebau newydd” Prifysgol Bangor bellach i’w gweld yn y Prosbectws diweddaraf ar gyfer 2013.

Mae’r cyhoeddiad eisoes wedi cael ei rannu mewn Ffeiriau Addysg Uwch ar hyd y DU ac yn cynnwys manylion am gyrsiau i is-raddedigion .  Yn ogystal â manylion cyrsiau mae gwybodaeth ar gael am lety, bywyd myfyriwr, adnoddau chwaraeon a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2012

Mwy......


Myfyriwr israddedig yn ennill ysgoloriaeth o £15,000 i gael hyfforddiant bargyfreithiwr

Mae'r myfyriwr y gyfraith, trydedd flwyddyn o Brifysgol Bangor,  Kate Longson wedi ennill ysgoloriaeth o fri gwerth £15,000 i ddilyn ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr. Yn gyn-ddisgybl o St Joseph's College, Trentvale, Stoke-on-Trent, bydd Kate, o Rough Close, Swydd Stafford, yn dechrau ar y cwrs Bar Professional Training Course (BPTC) ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ym mis Medi. Enillodd Ysgoloriaeth Lord Denning o £15,000 gan Ysbyty Lincoln ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus yn gynharach y mis hwn. Cyn hynny enillodd yr Hardwicke Entrance Award i dalu am y gost o ymuno ag Ysbyty Lincoln (un o bedair neuadd brawdlys yn y DU, sydd rhaid i fyfyrwyr ymuno er mwyn bod yn fargyfreithiwr) a’r ffioedd Galw ar ôl cwblhau’r BPTC.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2012

Mwy......


Santander yn cefnogi ymchwil iaith

Diolch i un o Ysgoloriaethau Santander bu Robat Trefor, un o fyfyrwyr ymchwil PhD Ysgol y Gymraeg, ar ymweliad â Gwlad y Basg yn ddiweddar, ac roedd yr Athro Peredur Lynch, ei gyfarwyddwr ymchwil a Phennaeth yr Ysgol, yntau’n rhan o’r ddirprwyaeth.

Dyddiad Cyhoeddi: 27/03/2012

Mwy......


Chwarae’r Cornet dros Gymru

Mae myfyrwraig o Ysgol y Gymraeg Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop. Cafodd Ffion Haf Williams, sy’n y flwyddyn gyntaf yn astudio gradd yn y Gymraeg, ei dewis wedi iddi chwarae’r cornet mewn clyweliad i Fand Pres Ieuenctid Cymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 24/03/2012

Mwy......


Marchnad Wanwyn llwyddiannus

Following on from the success of previous Christmas Markets, the B-Enterprising team at Bangor introduced a brand new event - a student ‘Spring Market’ which took place in PJ Hall on Friday 16th March.  Many new students as well, as returning stallholders from previous markets, demonstrated their enterprising skills and came forward with unique gift ideas - buyers were able to browse for original Mothers Day and Easter gifts.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012

Mwy......


Grant Ymchwil i Ddeiliad Ysgoloriaeth y Coleg

Mae fyfyriwr ymchwil ym Mhrifsygol Bangor, sydd yn un o ddeiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi sicrhau grant ymchwil uchel ei fri gwerth €5,000 gan Sefydliad Hydradeg Ewrop (European Hydration Institute neu’r EHI). O dan nawdd y Coleg mae Julian Owen yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer lle mae’n ymchwilio ym maes Ffisioleg Ddynol ar hyn o bryd.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012

Mwy......


Myfyrwyr yn rhoi disgyblion ar ben ffordd

Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Friars, Bangor, brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora.

Nod y cynllun, sydd yn cael ei redeg gan Brifysgol Bangor, yw annog disgyblion i ddod i wybod mwy am brifysgolion a'u hystyried fel posibilrwydd i’r dyfodol. Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012

Mwy......


Myfyrwyr ‘Menter trwy Ddylunio' Bangor yn mynd â’u sgiliau entrepreneuriaeth a’u cynnyrch i’r 'Dragons' Den '

Cynhelir cystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon a all arwain at greu cynnyrch newydd i'r farchnad.

Mae un cynnyrch o gystadleuaeth flaenorol eisoes yn mynd i gael ei werthu’n fasnachol. Yn y  project peilot arloesi, Menter trwy Ddylunio 2012, bydd myfyrwyr yn ceisio gwerthu eu cynnyrch yn rownd derfynol y Gystadleuaeth a gynhelir ddydd Iau, 22 Mawrth am 6.30pm yn Adeilad Wheldon, Prifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2012

Mwy......


Danielle yn cynrychioli Chwaraeon Prifysgol Prydain yn Tsiena

Mae Danielle Giles wedi cael ei dewis yn un o bedwar cynrychiolydd o’r DU i'r 11eg Fforwm FISU, a gynhelir yn Taipei City, Tsiena rhwng 26-31 Mawrth. Dilynnwch ei blog http://daniellegiles.tumblr.com/ i ddarllen am ei phrofiadau. 

Dyddiad Cyhoeddi: 21/03/2012

Mwy......


Her Ddiwylliannol

Dathlodd myfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor amrywiaeth a chydweithio diwylliannol  yn ddiweddar (Sadwrn 3.03.12) gyda Her Ddiwylliannol llawn hwyl a chyffro. Trefnwyd y gystadleuaeth gan gymdeithas myfyrwyr Tsieineaidd Bangor (CSSA) a’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Roedd chwe thîm o ddau fyfyriwr o Tsieina a dau fyfyriwr rhyngwladol arall yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rownd o gyflwyniadau a chwis gwybodaeth gyffredinol.

Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2012

Mwy......


Trydydd safle yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru i Nia

Daeth Nia Davies Williams, myfyrwraig MA mewn cerddoriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn drydydd yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru neithiwr (3.3.12)

Dyddiad Cyhoeddi: 06/03/2012

Mwy......


Athro yn Arwain y Ffordd

Mae myfyriwr addysg o Brifysgol Bangor wedi helpu disgyblion Ysgol Friars i gyrraedd rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth Fformiwla 1.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/03/2012

Mwy......


Cain i Gymru

Bydd cân a gyfansoddwyd gan fyfyrwraig yr Ysgol Gerdd i’w chlywed yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni. Mae Nia Davies Williams o Aberdaron, sydd yn astudio MA ym Mhrifysgol Bangor  wedi cyrraedd yr wyth olaf gyda’r gân Cain.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/03/2012

Mwy......


Myfyrwyr Bangor yn ‘Brolio’’u ffordd i lwyddiant yn her y Senedd

Mae tri myfyriwr o'r Ysgol Seicoleg wedi gwnaed argraff dda ar banel o brif farchnatwyr Cymru ac ennill cynnig busnes cystadleuaeth Brolio (The Pitch) yn ddiweddar (23 Chwefror), her a osodwyd gan Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) a Syniadau Mawr Cymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/03/2012

Mwy......


Bangor yn fuddugol yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol

Bu myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru’n mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol a gynhaliwyd ym Mangor dros y penwythnos ( 17-19 Chwefror).

Dyddiad Cyhoeddi: 21/02/2012

Mwy......


Profiad gwaith yn magu gwreiddiau gyda Go Wales

Cafodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor gyfle i fod yn rhan o’r cynllun gwerthfawr GO Wales yn ddiweddar gan fynd ar brofiad gwaith i Erddi Botaneg Treborth.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2012

Mwy......


Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos

Mae'n Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos ac mae'r gwirfoddolwyr yn rhannu te a chwtsh!

Bwriad yr Wythnos ydy hyrwyddo’r gwasanaeth gwrando gwerthfawr sydd ar gael am ddim ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr.  Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos i atgoffa myfyrwyr sut gall Nawdd Nos helpu.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2012

Mwy......


Graddedigion Bangor yn lansio gwasanaeth DNA unigryw

Mae dau o raddedigion Bioleg Forol Prifysgol Bangor wedi lansio gwasanaeth storio DNA unigryw i berchnogion anifeiliaid anwes sy'n gallu ategu neu amnewid microsglodion.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2012

Mwy......


Gwobrwyo Myfyrwyr am Wirfoddoli

Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r  Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.

Dyddiad Cyhoeddi: 25/01/2012

Mwy......


Undeb Myfyrwyr Bangor â chyfle i ennill mwy o wobrau

Yn dilyn ennill tair gwobr amgylcheddol o bwys y llynedd, mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn falch o fod wedi cyrraedd rowndiau terfynol Her Gyfathrebu’r Ecologist unwaith eto.  

Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2012

Mwy......


Ysgoloriaethau Chwaraeon yn cael eu gwbreuo i fyfyrwyr

Bob blwyddyn, mae'r Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr â gallu mewn chwaraeon trwy ddyfarnu nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer unrhyw radd.

Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i ennill Bwrsari Maes Glas, sy'n caniatáu mynediad am ddim i'r ystafelloedd hyfforddiant ym Maes Glas.

Mae'r Wobr Goffa Llew Rees hefyd yn cael ei gynnig yn flynyddol i'r chwaraewr mwyaf llwyddiannus yn y Brifysgol.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/01/2012

Mwy......


Gwobrwyo gorau Bangor gydag Ysgoloriaethau Rhagoriaeth

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/12/2011

Mwy......


Myfyrwyr yn Sefydlu Ymgyrch Ailgylchu Arloesol

Yr wythnos hon sefydlodd Undeb Myfyrwyr Bangor ymgyrch ailgylchu newydd, arloesol, yn targedu bras neu fronglymau!

Dyddiad Cyhoeddi: 07/12/2011

Mwy......


Caru Cerddoriaeth Casáu Homoffobia yn Cyrraedd Cymru

Mae myfyrwyr Bangor wedi cydweithio gydag Undeb y Myfyrwyr, Undod Bangor ac Amnest Bangor i drefnu un o gigs gorau’r tymor (6.12.11).

Dyddiad Cyhoeddi: 06/12/2011

Mwy......


Cyfle i ennill penwythnos yng Nghaerdydd drwy gymryd rhan yn yr Her Ddiwylliant

Yn ystod yr Her Ddiwylliant, a gynhelir ym mis Mawrth 2012 ac sydd yn agored i holl fyfyriwr y Brifysgol, mi fydd timau yn brwydro i ennill penwythnos yng Nghaerdydd a thocynnau siopa.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 9fed Rhagfyr ac mae timau eisoes wedi dechrau gweithio ar y cyflwyniadau ar gyfer y prif ddigwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.

Dyddiad Cyhoeddi: 06/12/2011

Mwy......


Myfyrwyr Bangor yn cynnal gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd

Wynebu realiti HIV ac AIDS

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn ymgasglu yng Nghadeirlan Bangor ddydd Mercher nesaf (1 Rhagfyr) ar gyfer gwasanaeth blynyddol Bangor ar Ddiwrnod AIDS y Byd. Bydd Undeb Myfyrwyr Bangor a’r Gaplaniaeth Anglicanaidd yn cynnal gwasanaeth i gofio am y bobl hynny sydd wedi colli’u bywydau i’r clefyd dychrynllyd hwn, cynnig gobaith i’r rheiny sy’n dioddef ohono a chodi ymwybyddiaeth am yr elusennau HIV/AIDS yn ein cymdogaeth.

Dyddiad Cyhoeddi: 25/11/2011

Mwy......


Byddwch Fentrus yn lansio Cronfa Ddechrau Newydd

Weithiau cyllid yw’r unig beth sy’n rhwystro datblygiad syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd.  Gyda hyn mewn cof, mae’r Project Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi datblygu cynllun sy'n gwbl newydd i Brifysgol Bangor.  Hwn yw'r Gronfa Ddechrau, lle gall myfyrwyr unigol, grwpiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gyflwyno syniad busnes. Yna, caiff y rhai a roddir ar y rhestr fer gyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid.   Trwy’r cynllun hwn, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, gall myfyrwyr ennill hyd at £150 o arian i gymryd y camau cyntaf i fyd busnes.

Dyddiad Cyhoeddi: 22/11/2011

Mwy......


Nid yw’r cyfan yn sbwriel!

Bangor University Students Union have produced a 16 page bilingual Rubbish Survival Guide booklet aimed at encouraging students to recycle more and keep the streets clear of waste.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2011

Mwy......


Helpu cwmni lleol sydd wedi datblygu ac ennill y farchnad ar gyfer cynnyrch awyr agored

Roedd  Rheolwr Cyfarwyddwr y cwmni ac entrepreneur a ddyfeisydd, Derek Ryden, o Gwmni Blizzard Protection Systems Cyf. yn ymwybodol fod ganddo gynnyrch da. Fodd bynnag, mae cydweithio efo arbenigwyr yn Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alluogi i werthfawrogi’n union pa mor effeithlon ydy’r cynnyrch mewn gwirionedd. Mae’r wybodaeth wedi bod o fudd i’r cwmni marchnata’u cynnyrch yn fwy effeithiol.

Dyddiad Cyhoeddi: 10/11/2011

Mwy......


Myfyrwyr Bangor yn ymuno â Phill Jupitus ar y llwyfan

Cafodd myfyrwyr o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor gyfle gwych yn ddiweddar, pan aethon nhw ar y llwyfan gyda Phil Jupitus yn Venue Cymru fel rhan o ŵyl gomedi Giddy Goat.

Dyddiad Cyhoeddi: 04/11/2011

Mwy......


Croesawu’r Ffagl Olympaidd i Brifysgol Bangor

Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau Bangor i groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas gwanwyn nesaf.

Dyddiad Cyhoeddi: 06/10/2011

Mwy......


Un o raddedigion Bangor yn cipio gwobr Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydeinig

Mae cyn fyfyriwr Bioleg Forol Gymhwysol Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr fawreddog ffotograffiaeth bywyd gwyllt. Cipiodd Richard Shucksmith o Ynys Shetland wobr gyntaf y British Wildlife Photography Awards 2011 am ei lun gwefreiddiol o slefren fôr.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/10/2011

Mwy......


Myfyrwraig yn cael cyfle i roi iaith ar waith gyda Canolfan Bedwyr

Mae Katharine Young o Flaenau Ffestiniog wedi cael cyfle i wneud deg wythnos o brofiad gwaith gyda uned gyfieithu’r Brifysgol, Canolfan Bedwyr, cyn iddi symud i Ffrainc i astudio yn ei thrydedd blwyddyn.

Dyddiad Cyhoeddi: 24/08/2011

Mwy......


Graddedigion Bangor - yn fwy bodlon na'r myfyriwr cyfartalog

Wrth i'r ymgiprys blynyddol am leoedd prifysgol ddechrau, bydd y myfyrwyr hynny sy'n troi eu golygon at Brifysgol Bangor yn falch o wybod y byddant yn ymuno â rhai o fyfyrwyr mwyaf bodlon Cymru.

Mae canlyniadau’r arolwg cenedlaethol diweddaraf ar foddhad myfyrwyr yn rhoi darlun cadarnhaol iawn o’r addysg a'r gofal a roddir i fyfyrwyr prifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 17/08/2011

Mwy......


Myfyriwr yn rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru

Mae myfyriwr yn byw mewn ambiwlans wedi ei addasu mewn coetir yn Sir Fynwy wrth iddo rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/08/2011

Mwy......


Myfyriwr o Fangor yn ennill Gwobr Myfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn

Dyfarnwyd Steve Barnard yn Fyfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn gan fudiad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau (BUCS) yn eu cinio blynyddol yn Leeds eleni

Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2011

Mwy......


Cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ers mwy na 45 mlynedd

Pan oedd Tîm rygbi Cymru yn ei anterth, fe gychwynnwyd ‘myth’ am y ffatri yn y cymoedd oedd yn cynhyrchu’r chwaraewyr  (yr ‘Outside Half Factory’ bondigrybwyll), wedi’i chuddio yn nyfnderoedd y cymoedd. Y pen arall i’r wlad, mae llwyddiant sy’n parhau hyd heddiw, sefydliad sy’n cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ar gyfer byd real iawn ers 45 mlynedd.

Dyddiad Cyhoeddi: 27/07/2011

Mwy......


Myfyrwyr Astudiaethau Creadigol yn mynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA

Roedd Frances Malpass, 21, o’r Wirral, sydd wedi graddio o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wythnos yma, yn ddigon lwcus i gael y cyfle i fynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA gyda’i chyd-fyfyriwr Paco McGrory, i ddangos eu ffilm fer yn yr ŵyl LifeFest.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/07/2011

Mwy......


Paul yn drist i adael Bangor

Mae  Paul James Davison, 21, o  Bury St Edmunds, Suffolk, a oedd yn graddio gyda gradd Feistr yn Sŵoleg wythnos yma, wedi ennill Gwobr Goffa Ian Herbert sydd yn cael ei rhoi i’r myfyriwr gradd feistr orau sy’n astudio Bioleg Gymhwysol.

Dyddiad Cyhoeddi: 14/07/2011

Mwy......


Llwyddiannau Graddio 2011

Llongyfarchiadau i'n holl raddedigion!

Darllenwch ein straeon graddio yma.

Dyddiad Cyhoeddi: 14/07/2011

Mwy......


Dathlu Graddio ac ennill gwobr

Mae myfyrwraig BA Hanes o Brifysgol Bangor wedi derbyn Gwobr Dr John Robert Jones a ddyfernir i’r pedwar myfyriwr orau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol. Derbyniodd Cerys Hudson, 21, o Lanfrothen, Gwynedd siec o £1,000 yn ei seremoni graddio.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011

Mwy......


Myfyriwr yn lansio syniad busnes

Mae myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi graddio gyda Gradd Dosbarth Gyntaf yn gobeithio lansio’r cynllun a ddyfeisiodd ar gyfer ei broject blwyddyn olaf yn rhyngwladol yn ystod y misoedd nesaf.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011

Mwy......


Myfyriwr ‘canolig’ yn derbyn Gradd Dosbarth Gyntaf!

Mae un o raddedigion Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor wedi cyflawni’r gamp o ennill gradd dosbarth gyntaf, er iddo feddwl ar un adeg na fysa’n derbyn graddau digon da i astudio yn y Brifysgol.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011

Mwy......


Myfyriwr graddedig lleol yn ennill gwobr fawr

Derbyniodd Danial Richard Hemmings,25, o Gaerwen, Ynys Môn, sydd yn graddio gyda BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid eleni, siec gwerth £1,250 yn ystod ei seremoni graddio wythnos yma.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/07/2011

Mwy......


Myfyriwr Aeddfed yn goresgyn salwch i ennill gradd dosbarth 1af

Mae cyn saer coed o Rhyl wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn dilyn newid sydyn yn ei yrfa yn dilyn afiechyd galwedigaethol.

Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011

Mwy......


Guto’n ennill Gradd dosbarth 1af a Gwobr uchaf y Brifysgol

Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011

Mwy......


Dawn yn hedfan wedi graddio!

Gadawodd Dawn Thompson o Gaergybi yr ysgol yn Singapore yn 17 oed gyda llond llaw o TGAU. Gan fod ei thad yn yr Awyrlu, nid oedd fawr o gyfle i fynd mlaen i addysg bellach ar y pryd, felly pan ddychwelodd y teulu i’r DU, dechreuodd waith fel derbynnydd mewn cwmni garddwriaethol.

Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011

Mwy......


Myfyriwr yn ennill lleoliad i raddedigion gyda chwmni Landrover

Yr haf yma bydd un o raddedigion Bangor, sydd wrth ei fodd gyda Landrovers, yn dechrau mewn swydd gyda’r cwmni. Dywed Robin Boyd, a gafodd radd Meistr mewn Peirianneg Electronig, bod ei gyfnod ym Mangor wedi ei helpu i ‘feddwl fel peiriannydd’. Yn fuan caiff gyfle i roi’r cyfan y mae wedi ei ddysgu ar waith fel Peiriannydd Datblygu Cynnyrch.  

Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011

Mwy......


Gwyddonydd Morol o’r radd gyntaf!

Mae gan un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Philip Hollyman, ddau reswm i ddathlu’r haf yma. Nid yn unig ydyw wedi graddio gyda gradd Dosbarth Gyntaf ond mae hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr IMarEST Wales Prize: Marine Scientist of the Year mewn cydnabyddiaeth o’i waith caled a’i lwyddiant academaidd.

Dyddiad Cyhoeddi: 08/07/2011

Mwy......


Myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn gwerthu hawliau ffilm ei lyfr llwyddiannus

Mae myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor newydd werthu’r hawliau ffilm i’w ail nofel. Bydd  llyfr Ashwin Sanghi Chanakya’s Chant yn cael ei addasu’n ffilm gan UTV Motion Pictures.

Dyddiad Cyhoeddi: 05/07/2011

Mwy......


Cyfleu’r neges efo ‘Hei Pync sortia dy Jync’

Cynhaliwyd ymgyrch i fynd i’r afael â phroblem gwastraff diwedd y tymor ym Mangor gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2011

Mwy......


Gwaith myfyriwr Bangor i ymddangos yng Ngwyl BEAM

Mae gŵyl sy’n hyrwyddo technoleg greadigol o fewn Cerddoriaeth yn cynnwys arddangosfa o waith cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2011

Mwy......


Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael ei dewis fel rhan o’r Ddirprwyaeth yn y Gemau Olympaidd Arbennig 2011.

Mae Niamh-Elizabeth Reilly, 27, myfyrwraig  PhD o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei dewis fel rhan o’r Ddirprwyaeth ar gyfer y Gemau Olympaidd Arbennig yn Athens ym mis Mehefin.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2011

Mwy......


Myfyrwyr Bangor yn cyflwyno Syniadau Busnes Disglair

Mae myfyrwyr mentrus ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos eu sgiliau busnes yn rownd gyntaf cystadleuaeth genedlaethol sy’n cael ei chynnal gan Santander.

Dyddiad Cyhoeddi: 01/06/2011

Mwy......


Myfyrwyr Bangor yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd

Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobrau o bwys yn Eisteddfod yr Urdd hyd yn hyn.

Dyddiad Cyhoeddi: 01/06/2011

Mwy......


Graddedigion Gardd Fotaneg Frenhinol Kew yn heplu allan yn Botanical Beats

Gŵyl gerdd haf fwyaf Bangor, lle mae bandiau lleol, celfyddwyr ac arddangoswyr o fudiadau bywyd gwyllt lleol yn ymgasglu yng Ngardd Fotaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth i fwynhau cerddoriaeth, celf a bywyd gwyllt! Mae'n debyg taw dyma'r unig gyfuniad yn y byd o'i fath, yn cymysgu gŵyl gerdd a bio-amrywiaeth! Mae hyd yn oed gennym ni ein band ein hunain yn yr ardd! Y flwyddyn hon fe fyddwn yn cael ein helpu gan wirfoddolwyr arbennig o'r Ardd Fotaneg Brenhinol yn Kew!

Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011

Mwy......


Sut i ddechrau busnes am lai na £5,000

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr, graddedigion a staff y Brifysgol ddysgu sut i ddechrau busnes am lai na £5,000 mewn cyflwyniad ‘Start-Up Smart’ a drefnwyd gan broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Daeth dros drigain o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd ac adrannau academaidd i'r digwyddiad.

Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011

Mwy......


Undeb Myfyrwyr Bangor yn mynd y filltir ychwanegol i dorri record byd am gadwyn o faneri

 

Mae cefnogwyr Masnach Deg yn Undeb Myfyrwyr Bangor yn dathlu yn dilyn cyfrannu at gadwyn o faneri Masnach Deg i dorri record byd.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/05/2011

Mwy......


Myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yn ymweld â China

Yn Ebrill 2011, aeth 16 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor ar ymweliad cyntaf myfyrwyr o’r Ysgol â China. Fe’u harweiniwyd gan yr Athro John Goddard, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol; Sarah Wale, Rheolwr yr Ysgol; Yizheng Wang, Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Ryngwladol; a Peter Westmoreland, Cyswllt Myfyrwyr a Chynorthwywr Ymchwil.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/05/2011

Mwy......


Bangor yn ymuno â sesiwn holi ac ateb The Guardian heddiw

Mae Dr Roger Slack, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Dulliau Ymchwilio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn  sesiwn holi ac ateb The Guardian ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Cymdeithaseg heddiw (Mercher 18 Mai) rhwng 1.00- 4.00.

Dyddiad Cyhoeddi: 18/05/2011

Mwy......


Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor

Mae Ross Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru, wedi’i ethol yn Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd Ross yn un o 486 o fyfyrwyr a gafodd eu hyfforddi eleni fel Arweinwyr Cyfoed - y nifer fwyaf erioed -  ac a fu’n gwirfoddoli i gefnogi ac arwain myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2011

Mwy......


Arweinwyr Cyfoed yn derbyn diolchiadau’r Brifysgol

Bu bron i bum cant o fyfyrwyr (486) yn gwirfoddoli i gefnogi myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor eleni-  sef y nifer fwyaf erioed.

Diolchwyd i’r ‘Arweinwyr Cyfoed’, fel y’u gelwir, a chyflwynwyd tystysgrifau iddynt mewn seremoni yn y Brifysgol yn ddiweddar, pryd y cydnabuwyd eu sgiliau a’u cyfraniad i’r Brifysgol.

Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2011

Mwy......


Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn mynd i redeg hyd Iwerddon i godi arian at achos da.

Mae myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon, Philip Clarke, 21, a Michael O’Reilly, 21, yn ymarfer ar gyfer rhedeg 385 milltir ar draws Iwerddon mewn 13 diwrnod ym mis Gorffennaf.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2011

Mwy......


Cyn fyfyriwr yn cwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn ol

Mae myfyriwr a raddiodd o Brifysgol Bangor newydd gwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn ôl mewn ymgais i godi £10,000 ar gyfer dwy elusen, Link Ethiopia ac Alzheimer’s Research Trust.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2011

Mwy......


Rhodd o gymorth o Fangor i Japan

Mae myfyrwyr o Japan sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi medru cyfrannu dros £7,500 tuag at Gymdeithas y Groes Goch Japan.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/04/2011

Mwy......


Pysgota am Lwyddiant

Mae Sw Môr Môn yn un o nifer o fusnesau sy’n manteisio ar GO Wales, menter sy’n darparu lleoliadau a chyfnodau blas ar waith i raddedigion o brifysgol mewn maes sy’n gysylltiedig â’u gradd.  Mae GO Wales yn cynnig cyfleoedd sy’n darparu sgiliau a phrofiad rhagorol i wella CV rhywun â gradd yn yr hinsawdd economaidd anodd yma.

Dyddiad Cyhoeddi: 07/04/2011

Mwy......


Myfyrwraig wedi ennill iPad ar ol ymweld a'r Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig

Pan aeth Joanne Keeler i’r Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig ym mis Chwefror, ychydig a sylweddolai y byddai hi nid yn unig yn cael cyfle i ddysgu am ei hopsiynau ôl-radd, ond y byddai cyn bo hir hefyd yn ymfalchïo mewn iPad newydd sbon! 

 

Dyddiad Cyhoeddi: 07/04/2011

Mwy......


Myfyrwyr yn gwirfoddoli ar brojectau Gwynedd Werdd

Mae prosiect amgylcheddol newydd a sefydlwyd gan Gwynedd Werdd, rhan o Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, wedi profi’n boblogaidd iawn gyda myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon.

Dyddiad Cyhoeddi: 06/04/2011

Mwy......


Myfyrwyr yn modelu ar gyfer y Brifysgol!

Cafodd rhai o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor seibiant o astudio a blas ar fywyd o flaen y camera wrth iddynt fodelu ar gyfer un o gyhoeddiadau allweddol Prifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 05/04/2011

Mwy......


Ennillwyr Ysgoloriaethau Mynediad 2011

O’r Bala i Bury St Edmunds, o Grymych i Gaer – bydd myfyrwyr ar hyd a lled Prydain yn rhannu gwobrau Ysgoloriaethau sydd werth dros £130,000 pan fyddant yn dechrau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Dyddiad Cyhoeddi: 28/03/2011

Mwy......


Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn ennill Gwobr Myfyrwyr Rhyngwladol 2011

 

Mae’r fyfyrwraig Almaeneg Ilka Johanna Illers, sydd yn ei hail flwyddyn o radd Gwyddorau Eigion, wedi ennill gwobr Myfyriwr Rhyngwladol Cymru'r flwyddyn 2011 fel rhan o gystadleuaeth gan y Cyngor Prydeinig.

Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2011

Mwy......


Dewch i brofi diwylliant Japan fel rhan o ymgyrch hel arian y penwythnos yma.

Mae criw o fyfyrwyr Bangor yn cynnal digwyddiad i gefnogi dioddefwyr y daeargryn yn Japan yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 26ain rhwng 2yp a 6yh. Bydd cyfres o weithdai cyffroes gan gynnwys caligraffi, origami, paentio wynebau a hefyd cyfle i drio ‘kimono’ yn ogystal â pherfformiadau byw, marchnad a sioe ffasiwn gyda gwisgai o wledydd ar draws y byd.

Dyddiad Cyhoeddi: 25/03/2011

Mwy......


Dyfarnu ysgoloriaeth i ddawn gerddorol o Gymru

Ar sail ei chyraeddiadau eithriadol a chefnogaeth disglair ei thiwtoriaid academaidd, dyfarnwyd un o ddwy Wobr Goffa D Afan Thomas am Gerddoriaeth Brifysgol Cymru. i Gwawr Ifan o Brifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 05/03/2011

Mwy......


Efallai ei fod yn ‘sbwriel’ – ond mae yn y 5 uchaf

Mae ymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gyrraedd y pump uchaf mewn cystadleuaeth genedlaethol.

 

Dyddiad Cyhoeddi: 24/02/2011

Mwy......


Mwynhau llwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-golegol

Wedi cystadlu brwd a hynod lwyddiannus, daeth cystadleuwyr selog ymysg myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn ail yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ddiweddar. Y tîm cartref, sef Prifysgol Caerdydd, a enillodd, o ychydig.

Dyddiad Cyhoeddi: 24/02/2011

Mwy......


Myfyrwyr Bangor yn dathlu Gŵyl Dewi

Mae Undeb Myfyrwyr Bangor ac UM Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi - Wythnos y Ddraig! Am yr ail flwyddyn bydd yr Undebau’n cynnal digwyddiadau i gynnwys myfyrwyr, staff y Brifysgol a phobl Bangor a’r cylch gan ddechrau ar yr 28ain o Chwefror a pharhau drwy’r wythnos tan ddydd Sul y 6ed o Fawrth.

 

Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011

Mwy......


Myfyrwyr yn mentro yn yr Her £10

Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr ran mewn Her £10 a drefnwyd gan Broject Byddwch yn Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Benthycodd myfyrwyr £10 yn unigol neu mewn timau bach, a cheisio gwneud cymaint o arian ag y gallent mewn pythefnos mewn ffordd fentrus, er mwyn ennill y wobr gyntaf o £200.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011

Mwy......


Llwybr rhan-amser at gymhwyster ôl-radd

Yn yr amseroedd anodd hyn, mae astudio am gymhwyster ôl-radd yn rhan amser, gan ddal ati i weithio, yn ddewis ym Mhrifysgol Bangor.

 

Cynhelir Ffair Cyrsiau Ôl-radd nesaf Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 18 Chwefror 2011 rhwng 12.30 a 2.30. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’n ôl-radd ym Mangor i ddod a manteisio ar y cyfle i gael gwybod mwy am  y nifer fawr o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael ar hyn o bryd. Gellwch gofrestru ymlaen llaw ar-lein ar gyfer yr achlysur drwy wefan y Brifysgol yn: http://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy

Dyddiad Cyhoeddi: 17/02/2011

Mwy......


Hoffter o ddeifio’n arwain at yrfa newydd

Cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor oedd yr allwedd i Mandy Knott gael ei phenodi i swydd bwysig a diddorol - a’i chyntaf mewn gyrfa newydd.

Mae gan Mandy’r dasg bwysig o weithio ar fesur deddfwriaethol a fydd yn sicrhau rheolaeth a chadwraeth pysgodfa cocos a chregyn gleision Bae Morecambe.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/02/2011

Mwy......


Gwobr yn Bar Uno yn ystod Serendipity!

Roedd y digwyddiad Serendipitiy 2 diweddar yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn llwyddiant mawr, a bu i un myfyriwr adael gyda gwobr gwerth chweil!

Dyddiad Cyhoeddi: 08/02/2011

Mwy......


Dewch i fwynhau cymuned amlddiwylliannol y Brifysgol

Bydd cymysgedd eclectig o ddiwylliannau a thraddodiadau i’w weld yn Neuadd Prichard Jones yn y Brifysgol am 6.00 nos Wener 11 Chwefror 2011.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2011

Mwy......


Gall cyfrifiaduron adnabod ein hemosiynau?

Bydd datblygiad cyfrifiadur sy’n medru darllen ein hemosiynau’n arwain at bob math o ddefnyddiau cyfrifiadurol, gan gynnwys gemau cyfrifiadur lle mae’n rhaid i’r chwaraewr meddiannu’u hemosiynau er mwyn chwarae.

Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2011

Mwy......


Ydych chi wedi ystyried astudio’n ôl-radd ym Mangor?

Ni ellwch gael gormod o gymwysterau ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd. Gall cymhwyster ôl-radd fod o gymorth i wneud i chi sefyll allan ymysg ymgeiswyr am swyddi, agor drysau i gyfleoedd newydd,  neu’ch helpu i symud ymlaen o’ch swydd bresennol neu newid cyfeiriad yn eich gyrfa.

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Gyrsiau Ôl-radd ddydd Gwener 18 Chwefror rhwng 12.00 - 2.00.

Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr presennol, ac unrhyw raddedigion sy’n gweithio neu’n byw’n lleol ac sy’n awyddus i astudio ym Mangor, i ymweld â’r Brifysgol a chael gwybod o lygad y ffynnon pa ddewisiadau ar gyfer graddau uwch hyfforddedig ac ymchwil sydd ar gael yn y Brifysgol.

Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2011

Mwy......


Myfyriwr yn helpu i drawsnewid gwefan Sain

Mae un o fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Bangor yn trawsnewid gwefan y cwmni cerddoriaeth, Sain, fel rhan o Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (Knowledge Transfer Partnership) rhwng y Brifysgol a’r cwmni.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/01/2011

Mwy......


CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.

Dyddiad Cyhoeddi: 07/01/2011

Mwy......


Cystadleuaeth Syniadau Busnes yn creu posibiliadau diddorol

Gêm antur awyr agored sy’n hyrwyddo diddordeb mewn hanes yw’r syniad busnes  diddorol sydd wedi bachu dychymyg y beirniaid mewn Cystadleuaeth Fusnes ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/12/2010

Mwy......


Taith i’r Unol Daleithiau i sŵolegwyr Bangor

Mae grŵp o fyfyrwyr o ogledd Cymru wedi dychwelyd o daith ymchwil lle buont yn cerdded trwy gorsydd, yn canŵio trwy fangrofau ac yn nofio dros riffiau cwrel.

 

Fel rhan o’u graddau sŵoleg, treuliodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor wythnos yn y Bytholwerni yn Fflorida yn astudio bywyd gwyllt unigryw'r ardal.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010

Mwy......


Myfyrwyr mentrus yn cynnal Marchnad Nadolig

Cychwynnodd dathliadau’r Nadolig ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar efo Ffair Nadolig Myfyrwyr. Cymerodd dros 80 o fyfyrwyr, yn llawn ysbryd menter, ran yn y digwyddiad, a drefnwyd gan Broject Byddwch Fentrus, a daeth dros 500 o ymwelwyr i’r ffair.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010

Mwy......


Prifysgol Bangor yn dyfarnu Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Chwaraeon

Daeth  y goreuon o blith athletwyr a  chwaraewyr y Brifysgol a’r gymuned leol ynghyd yn ddiweddar i dderbyn gwobrwyon gan Brifysgol Bangor.

Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Ysgoloriaethau  Chwaraeon i  fyfyrwyr sydd wedi dangos eu dawn yn eu maes chwaraeon dewisol.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/12/2010

Mwy......


Ysgoloriaethau Rhagoriaeth yn gwobrwyo gorau Bangor

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.

Dyddiad Cyhoeddi: 30/11/2010

Mwy......


Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd Bangor ar restr fer ar gyfer Gwobr

Mae nhw wedi dod yn gyfarwydd- yr Arweinwyr Cyfoed yn eu crysau T llachar sydd i’w gweld o amgylch y Brifysgol yn ystod yr Wythnos Croeso - ond mae nhw wir yn rhywbeth arbennig. Yn wir, mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.

Dyddiad Cyhoeddi: 19/11/2010

Mwy......


Stori’r dudalen flaen i Nicholas

Mae Nicholas Whitmore, myfyriwr Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn ei drydedd flwyddyn, wedi cael erthygl wedi ei gyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Post, Iau 11 Tachwedd 2010.

Dyddiad Cyhoeddi: 12/11/2010

Mwy......


Dathliadau Diwali

Bu myfyrwyr y Brifysgol sy'n hanu o India yn dathlu gŵyl Hindŵaidd Diwali mewn steil nos Wener ddiwethaf (5ed o Dachwedd) wrth i Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol drefnu parti yn Neuadd Rathbone.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/11/2010

Mwy......


Dechrau gyrfa gyda'r BBC yn gwireddu breuddwyd Jack

Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddiant cynhyrchu'r BBC yn ei ddisgrifio fel y ‘dechrau perffaith i’w yrfa’.

Dyddiad Cyhoeddi: 04/11/2010

Mwy......


System gyfrifiadurol yn disodli’r hen bib ar gopa’r Wyddfa

Cyn i Hafod Eryri, y ganolfan gyffrous newydd i ymwelwyr ar gopa mynydd uchaf Cymru, agor ei drysau, arferai’r Gorsaf-feistr gyhoeddi bod y trên ar fin cychwyn drwy chwythu ei bib. Nid oedd hyn yn cyd-fynd rhywsut â’r datblygiad newydd gyda holl gyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain, ac felly fe wnaeth cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa droi at Brifysgol Bangor am gymorth.                        

Y canlyniad fu gosod system gyhoeddi newydd, gwbl awtomatig, ar gyfer Hafod Eryri. Mae’r system hon yn gweithio’n gyfan gwbl erbyn hyn ac wedi dod yn hanfodol ar gyfer rhedeg yr orsaf ar y copa o ddydd i ddydd.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2010

Mwy......


Dillad y Super Furries yn rhan o gasgliad anferth

Mae gwisgoedd arbennig sy’n perthyn i un o fandiau enwocaf Cymru wedi eu rhoi ar fenthyg i Archif Pop Prifysgol Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/11/2010

Mwy......


Sialens y Gymanwlad i Olivia

Mae Olivia Orchart, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, ar hyn o bryd ym Melbourne, Awstralia, yn cynrychioli Tîm Cymru ym Mhencampwriaethau Cleddyfaeth y Gymanwlad (CFC10).

Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2010

Mwy......


'Myfyrwraig y Flwyddyn' yn cyrraedd y Brifysgol mewn steil!

Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd ei neuadd breswyl mewn steil mewn Fiat Panda newydd sbon - ei gwobr am ennill cystadleuaeth Myfyriwr y Flwyddyn ei sir!

Dyddiad Cyhoeddi: 27/09/2010

Mwy......


Myfyriwr o Fangor yn rhedeg Marathon Môn er cof am ei dad

Mae myfyriwr PhD o’r Ysgol Gwyddorau’r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mangor yn rhedeg marathon Ynys Môn ddydd Sul er cof am ei dad.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/09/2010

Mwy......


Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd Bangor ar restr fer ar gyfer Gwobr

Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, sy’n cefnogi myfyrwyr newydd ac yn sicrhau eu bod yn ymgynefino’n hwylus â bywyd Prifysgol, wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/09/2010

Mwy......


Enillydd Gwobr Goffa Llew Rees 2010.

Mae'r wobr chwaraeon uchaf ym Mhrifysgol Bangor, Gwobr Goffa Llew Rees, sydd yn cael ei ddyrannu i'r chwaraewr mwyaf amlwg ymysg y myfyrwyr wedi'i ddyfarnu eleni Vicky Gottwald. Mae Vicky'n fyfyrwraig ôl-radd ac yn astudio doethuriaeth mewn Gwyddor Chwaraeon.

Mae Vicky wedi derbyn swm o £750 i gyfrannu at wella'i pherfformiad.

Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2010

Mwy......


Dyfodol disglair - Teitl cyfieithydd gorau Prydain i fyfyriwr o Gymru

Barnwyd mai myfyriwr o Brifysgol Bangor oedd y cyfieithydd gorau o blith cannoedd o ymgeiswyr sy’n astudio’r pwnc yn academaidd ledled Prydain.

Dyddiad Cyhoeddi: 24/08/2010

Mwy......


Ysgoloriaeth i astudio yn yr Almaen

Mae myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill ysgoloriaeth i astudio yn yr Almaen. Mae Sadiqa Riazat o Clitheroe yn Lancashire yn un o 17 myfyriwr yn unig i dderbyn Ysgoloriaeth y Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd Almaenaidd (DAAD).

Dyddiad Cyhoeddi: 20/08/2010

Mwy......


I ddarllen straeon newyddion hyn, ewch i dudalen Archif Newyddion y Brifysgol

 

Cliciwch yma am fwy o newyddion myfyrwyr.