UWB Crest

Bywyd myfyrwyr ym Mangor

Gwobr yn rhoi Lowri ar ben ffordd i astudio gradd Feistr

Mae Lowri Wyn Francis o Langefni, sy’n graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd BSc mewn Daearyddiaeth, wedi ennill gwobr ariannol gan yr NFU Mutual i’w chynorthwyo yn ei hastudiaethau pellach.

Mae Lowri ymhlith chwech o fyfyrwyr ledled Prydain i dderbyn gwobr yr NFU Mutual Charitable Trust Centenary Award, sydd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr fynd ymlaen i astudiaethau ôl-radd sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth.

Ar ôl seibiant byr dros yr haf, bydd Lowri’n dychwelyd i Brifysgol Bangor i astudio MSc/MA Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy fis Medi.

Meddai Lowri, “Dewisais astudio ym Mangor gan mai dyma un o’r prifysgolion gorau ar gyfer Daearyddiaeth. Mi wnes i fwynhau'r cwrs gradd yn fawr iawn. Roedd yn cyffwrdd â llawer o adrannau gwahanol, gan gynnwys defnydd tir, cynllunio, ac un o fy hoff bynciau, datblygu cynaliadwy. Cefais hefyd fynd ar ddau drip tramor, oedd yn wych gan fy mod wedi dysgu am bolisïau gwledydd tramor at faterion sy’n effeithio nifer o wledydd.”

Yn ogystal â’i gwaith coleg roedd Lowri’n aelod o dîm pêl fasged merched y brifysgol, ac yn ysgrifenyddes i’r clwb yn ystod ei hail a thrydedd flwyddyn. Bu hefyd yn gweithio’n rhan amser trwy gydol ei chyfnod yn y brifysgol, a bu’n llwyddiannus yn cydbwyso gwaith ac astudio gan iddi dderbyn gradd 2:1 am ei chwrs, yn cynnwys gradd dosbarth cyntaf am ei thraethawd hir.  

Meddai Lowri, “Rwy’n falch iawn o fod yn graddio, mae’n deimlad o ryddhad ar ôl tair blynedd o waith caled. Roedd darlithwyr y cwrs yn gefnogol iawn a hoffwn ddiolch iddynt am eu cymorth.”

“Rwy’n edrych ymlaen nawr at gychwyn ar fy ngradd Feistr fis Medi.  Gyda'r fwrsariaeth, mae'r NFU Mutual yn talu am 75% o gostau'r cwrs ôl radd, fydd o gymorth mawr i mi.”