Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Cynghori

Delwedd yn dangos dau fyfyrwir yn ngerddi'r Brifysgol

Croeso i Wefan y Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr

Gwybodaeth

Yr amser aros cyfredol ar gyfer asesiad cychwynnol yw 4 diwrnod.

Gwasanaeth Cwnsela

  • Gall y Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr gynnig cyfle i drafod materion personol a materion sy’n peri gofid, gyda chwnselydd proffesiynol a chymwys, mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol.
  • Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig grwpiau a gweithdai i fyfyrwyr ar adegau gwahanol yn y flwyddyn.
  • Gall y gwasanaeth gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau staff perthnasol er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl a’u hymateb i fyfyrwyr ag anawsterau.

Mae Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr y Brifysgol yn aelod o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain ac mae’n cadw at bolisïau’r corff hwnnw ar gyfrinachedd a diogelu data.

Ein Lleoliad:

Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr

Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr

Prifysgol Bangor

Ail Lawr

Neuadd Rathbone

Ffordd y Coleg

Bangor

LL57 2DF

Gweler y map lleoliad ar-lein ar gyfer Neuadd Rathbone (Rhif 70).

Cysylltwch â’n Gweinyddwr ar 01248 388520 neu e-bost cynghori@bangor.ac.uk am apwyntiadau ar gyfer sesiynau cynnal ac asesiadau.

Ar gyfer pob achos brys, edrychwch ar ein rhestr o gysylltiadau brys neu ewch at eich Meddyg Teulu.

 

Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:

Enw Swydd
Maria Graal Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr
Kate Tindle Pennaeth Gwasanaeth Cynghori