Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Carbon monocsid – byddwch yn wyliadwrus!

Cyngor i fyfyrwyr

Mae carbon monocsid yn nwy gwenwynig dros ben, ac ni ellir ei weld, ei flasu na’i arogli. Gall unrhyw gyfarpar sy’n llosgi nwy, coed, olew neu lo ei gynhyrchu os nad ydynt wedi eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n gywir.

Mae anadlu carbon monocsid yn rhwystro eich corff rhag cael ocsigen. Gall hyd yn oed ychydig bach ohono dros gyfnod hir o amser wneud niwed parhaol i’ch iechyd, yn cynnwys niwed parhaol i’r ymennydd. Gall achosion mwy difrifol arwain at farwolaeth.

I amddiffyn eich hun:

  1. P’un ai ydych yn byw gyda’ch rhieni neu mewn tŷ ar rent, sicrhewch fod larwm carbon monocsid clywadwy yn y tŷ. Os nad oes un yn y tŷ, gall eich landlord roi un i chi neu gallwch brynu un eich hun o siop DIY, archfarchnad neu gyflenwyr pŵer am gyn lleied â £15. Ni argymhellir mesuryddion ‘black spot’ gan eu bod yn aml yn annibynadwy ac ni fyddent yn eich rhybuddio pan fyddwch yn cysgu.
  2. Gofynnwch i’ch landlord am dystysgrif diogelwch nwy cyfredol ar gyfer y tŷ – dylai eich landlord sicrhau bod pob cyfarpar sy’n llosgi tanwydd yn cael eu profi a’u cynnal a’u cadw pob blwyddyn gan beiriannydd cymwys wedi ei gofrestru gyda’r sefydliad priodol:  Gas Safe Register (nwy), HETAS (tanwydd solet) neu OFTEC (olew).
  3. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r symptomau ac yn gwybod beth i’w wneud os ydych yn credu eich bod wedi eich gwenwyno.

Gall symptomau cynnar o wenwyn carbon monocsid gynnwys teimlo’n gyfoglyd, penysgafnder, blinder, cur yn y pen, colli cydbwysedd a bod yn anghofus. Mae’r symptomau hyn o wenwyn carbon monocsid yn debyg iawn i symptomau’r ffliw (a phen mawr!) ond gallai rhai o’r canlynol fod yn arwydd o wenwyn carbon monocsid:

  • pobl eraill yn eich tŷ, fflat neu adeilad prifysgol gyda symptomau tebyg;
  • y symptomau’n diflannu pan fyddwch yn mynd o’r tŷ neu’n mynd i ffwrdd ar wyliau, ac yn dychwelyd pan fyddwch yn dod yn ôl;
  • y symptomau’n fwy amlwg yn y gaeaf – e.e. cael cur yn eich pen yn aml yn y gaeaf pan ddefnyddir y gwres canolog yn amlach.

Gall arwyddion eraill o berygl gynnwys:

  • huddygl neu staenio ar y cyfarpar neu o’i amgylch.
  • dŵr ar hyd waliau a ffenestri’r ystafell lle mae’r cyfarpar wedi ei osod.
  • fflamau nwy bychan lliw melyn/oren.

Os ydych wedi gweld arwyddion o ollyngiad carbon monocsid neu os oes gennych symptomau o wenwyn carbon monocsid:

  • Agorwch y drysau neu’r ffenestri i gael awyr iach.
  • Galwch y rhif perthnasol i gael cyngor ar frys: Gwasanaeth nwy ar frys (24 awr) 0800 111 999; tanwydd solet (HETAS) 0845 634 5626; olew (OFTEC) 0845 658 5080.
  • Ewch i weld eich meddyg teulu neu ewch i’r adran ddamweiniau agosaf, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 neu os yw'n achos brys, galwch 999 am ambiwlans.
  • Trefnwch fod pob cyfarpar yn cael ei brofi a’i gynnal a’i gadw. Peidiwch â’u defnyddio tan i chi gael gwybod eu bod yn ddiogel.

Am wybodaeth a chyngor ynglŷn â bod yn ddiogel ewch i:

www.co-bealarmed.co.uk

Llywodraeth Cynulliad Cymru - Mae’r daflen hon yn egluro’r symptomau a sut i frwydro yn erbyn gwenwyniad carbon monocsid.

Allwch chi mo’i arogli, allwch chi mo’i weld ond gall eich lladd!