Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Cod Prifysgol Bangor

Delwedd yn dangos ffeil

Cod Prifysgol Bangor, ar gyfer Tai Cymunedol yn y Sector Preifat ar Rent

Pwrpas Cod y Brifysgol yw galluogi Perchnogion a Thenantiaid i gytuno ar gyfres o addewidion ynglyn â'r modd y dymunant wneud busnes â'i gilydd.

Dewiswyd y meini prawf yn y Cod i adlewyrchu cydbwysedd rhwng dyletswyddau a chyfrifoldebau synnwyr cyffredin rhwng perchnogion a thenantiaid, ar un llaw, ac, ar y llaw arall, safonau penodol y gall perchnogion a thenantiaid eu cyrraedd heb iddynt dreulio rhyw lawer o amser na gwario ar raddfa fawr, a heb ragfarn i'w hawliau cyfreithiol eu hunain.

Mae'r Cod hwn yn arbennig o berthnasol i'r farchnad dai cymunedol i fyfyrwyr.

Bydd cydymffurfio â'r Cod yn sicrhau:

  • Bod perchnogion a thenantiaid, fel ei gilydd, yn cael budd safonau da o reolaeth ac ymarfer yng nghyswllt tai.
  • Llai o gamddealltwriaeth ac o anghydfodau.
  • Bod problemau, lle byddont yn codi, yn cael eu datrys mewn da bryd.

Polisi'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ym Mangor yw cynghori eu myfyrwyr i beidio â rhentu eiddo oni bai fod y perchennog wedi llofnodi'r Cod. Rhywbeth gwirfoddol i berchnogion yw mabwysiadu'r Cod.