Swyddfa Tai Myfyrwyr: Awgrymiadau a Chynghorion
Arbedwch arian!
- Peidiwch â gadael eich gwres ymlaen drwy’r dydd pan fydd yna neb gartref - defnyddiwch yr amserydd.
- Diffoddwch y goleuadau pan fyddwch allan o’r ystafell a cheisiwch ddefnyddio bylbiau Arbed Ynni.
- Caewch y llenni gyda’r nos.
- Peidiwch â gadael offer yn y modd gorffwys (standby).
- Llenwch eich tegell i’r lefel sy’n ofynnol yn unig.
- Defnyddiwch raglen ‘hanner llwyth’ ar eich peiriant golchi pan fo’n briodol (bydd tymheredd 40° fel rheol yn dderbyniol i olchi’r rhan fwyaf o ddillad, ond gwnewch yn siwr eich bod yn darllen a dilyn y labeli gofal, a chadwch eich dillad gwyn ar wahân i’ch dillad lliw bob amser!).
- Gwnewch yn siwr eich bod yn anfon eich Tystysgrif Presenoldeb (a gewch gan y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr) i’r Cyngor lleol i brofi eich bod wedi’ch eithrio rhag Treth Cyngor (myfyrwyr llawn-amser yn unig).
- Trefnwch gael trwydded deledu – peidiwch â risgio cael dirwy!
- Ceisiwch fynd i siopa gyda’ch cydletywyr a phrynwch mewn swmp; gall hyn arbed arian i chi.
- Manteisiwch ar ddisgownts i fyfyrwyr yn siopau’r Stryd Fawr – dangoswch eich cerdyn myfyriwr.
Osgowch leithder!
- Defnyddiwch ffan echdynnu (extractor fan) yn y gegin a’r ystafell ymolchi os darperir un.
- Peidiwch â sychu dillad dan do.
- Agorwch ffenestri wrth gael cawod.
Cadwch eich ty’n lân!
- Glanhewch yr ystafell ymolchi a’r gegin, a hwfro’n rheolaidd.
- Holwch pryd y cesglir eich sbwriel a chewch roi’r biniau allan – defnyddiwch y cyfleuster ailgylchu os oes un yn eich ardal.
- Mae rhai tai’n canfod bod rota’n ddefnyddiol i sicrhau y gwneir tasgau o amgylch y ty’n deg.
Cadwch eich ty’n ddiogel!
- Gwnewch yn siwr fod pob ffenestr a drws (yn cynnwys eich ystafell wely) wedi eu cloi pan fydd yr eiddo’n wag, a chadwch eiddo gwerthfawr allan o’r golwg.
- Diffoddwch offer pan fyddwch allan o’r adeilad.
- Gwnewch yn siwr bod eich larymau mwg yn gweithio a phrofwch hwy’n rheolaidd drwy wthio’r botwm. Newidiwch y batris yn rheolaidd a pheidiwch byth â thynnu’r batris allan.
- Peidiwch â rhoi unrhyw beth metalig (e.e. ffoil, sosbenni, hambyrddau pobi etc) yn y ficrodon.
- Peidiwch â choginio bwyd pan fyddwch newydd ddod i mewn o noson allan – gallech chi fod wedi blino ac yn llai ymwybodol o’r hyn a wnewch.
- Peidiwch ag ysmygu yn y gwely.
- Mae llawer o gytundebau tenantiaeth yn gwahardd tenantiaid rhag defnyddio canhwyllau oherwydd y risg difrifol o dân maent yn eu cyflwyno. Cofiwch y gall defnyddio canhwyllau fod yn beryglus.
- Peidiwch byth â defnyddio offer y gwyddoch iddo fod yn beryglus, neu sy’n edrych felly, e.e. gyda gwifrau wedi rhaflo, plygiau wedi eu difrodi neu ffiwsys wedi chwythu. Peidiwch byth â newid ffiws sy’n chwythu bob munud efo ffiws uwch.
- Os clywch arogl nwy, ffoniwch National Grid am ddim ar 0800 111 999.
- Cadwch flanced dân a diffoddwr tân yn y gegin. Peidiwch byth â thywallt dwr ar dân olew.
- Os na ellwch ddiffodd tân yn ddiogel, yna ewch allan o’r adeilad a ffoniwch 999.
Sut i Osgoi / Datrys Problemau!
- Gwnewch gopi wrth gefn o’ch gwaith ar ddisg ychwanegol neu drwy ddefnyddio copïau caled!
- Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda’ch ty, neu unrhyw fater arall, dewch draw i’r Ganolfan Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr neu Ganolfan Gynghori Undeb y Myfyrwyr am gyngor a gwybodaeth.