Ni all y Swyddfa Tai Myfyrwyr warantu cyflwyr yr eiddo sydd ar
ein llyfrau, na gwarantu bod y manylion a roddir inni gan y perchnogion
yn hollol gywir, am nad ydym yn archwilio'r adeiladau'n bersonol. Fodd
bynnag, os oes gennych gwynion difrifol, galwch i mewn a dywedwch wrthym
am eich anawsterau, a llenwch ffurflen adrodd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth
hon mewn trafodaethau â'r perchnogion, a rhoi gwybodaeth a chyngor
priodol ichi.
Fodd bynnag, gan y gall cyflwr offer nwy
ddirywio yn ystod y flwyddyn, neu gan y gellir gosod offer nwy newydd
ar ôl i'r dystysgrif gyfredol ar ddiogelwch nwy gael ei chyflwyno,
rydym yn cynghori pob tenant i ddilyn y cyngor ar ddiogelwch nwy a amlinellir
yn y Canllawiau a
Arweinlyfr Myfyrwyr i Lety Preifat ac sydd ar gael o'r Swyddfa Tai Myfyrwyr neu gan y Canolfan Cynghori Undeb y Myfyrwyr.
Gofynnwch bob amser am weld Tystysgrif Diogelwch Nwy y perchennog ar gyfer pob offer nwy. Cysylltwch â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (Health and Safety Executive - HSE) os na fydd eich landlord yn rhoi copi o’r dystysgrif i chi ar ôl i chi ofyn. Am wybodaeth bellach ewch i’r gwefannau canlynol:
HSE – Canllawiau i fyfyrwyr yn defnyddio offer nwy mewn llety wedi’i rentu
Gas Safe Register, y corff swyddogol ar gyfer diogelwch nwy yn y DU, Ynys Manaw a Guernsey – Cyngor i Fyfyrwyr