Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Canllaw i Denantiaeth Lwyddiannus i Fyfyrwyr

Delwedd yn dangod alweddi

Canllaw i Denantiaeth Lwyddiannus i Fyfyrwyr

Dylech

1.00 Dalu'r taliadau blaendal a rhent y cytunwyd arnynt mewn pryd a rhoi gwybod i'r perchennog am unrhyw anawsterau gwirioneddol.
1.01 Ddarllen y mesuryddion trydan a nwy a'u cofnodi pan fyddwch yn symud i mewn a hefyd gofrestru'r biliau yn eich enwau lle bo'n briodol.
1.02 Gytuno ar unrhyw restr eiddo o fewn 7 niwrnod ar ôl symud i mewn.

Byw yn yr Eiddo

2.00 Byddwch yn ofalus o'r eiddo, ei ddodrefn a'i offer, a thalwch lle rydych yn gyfrifol am unrhyw ddifrod.
2.01 Defnyddiwch yr holl fesurau diogelwch a ddarperir.
2.02 Defnyddiwch y cyfarwyddiadau a roddir ar ddefnyddio'r systemau gwresogi a dwr poeth.
2.03 Gofalwch fod yr eiddo'n cael ei gadw mewn cyflwr glân a thaclus.
2.04 Dylech drin offer darganfod tân a gwarchod rhag tân yn gyfrifol a'u defnyddio'n unig i'w diben priodol. Peidiwch â thynnu batris o synwyryddion mwg na'u niweidio mewn unrhyw ffordd. Mae systemau rhag tân wedi cael eu gosod i'ch amddiffyn chi.
2.05 Rhoddwch wybod i'r perchennog os ydych yn bwriadu gadael yr eiddo'n wag am unrhyw amser gweddol hir.

Cymdogion Da

3.00 Byddwch yn ystyriol o'ch cymdogion a sicrhau na fyddwch yn tarfu arnynt, yn arbennig yn hwyr y nos.
3.01 Rhoddwch ysbwriel domestig mewn bagiau a'i adael i'w gasglu yn y lle iawn ar y diwrnod iawn.

http://www.undeb.bangor.ac.uk/green/Canllaw%20Goroesi%20Gwastraff.pdf
3.02 Os bydd unrhyw anghydfod yn digwydd, cofiwch ymddwyn yn gwrtais tuag at y perchennog, tenantiaid eraill a thrigolion lleol.

Rhoi gwybod am bethau sydd angen eu Trwsio

4.00 Cyn belled ag y bo modd, dylech roi gwybod am bethau sydd angen eu trwsio fel maent yn digwydd.
4.01 Dylid rhoi gwybod am waith trwsio nad yw'n fater brys trwy lythyr at y perchennog ac fe'ch cynghorir i gadw copïau o unrhyw lythyrau fel y gellwch gyfeirio atynt wedyn os bydd angen.
4.02 Os yw'n fater brys - h.y. lle mae angen gwneud gwaith trwsio i osgoi perygl i iechyd, i ddiogelwch, neu ddifrod sylweddol i adeiladau - mae'n rhaid i chi gysylltu â'r perchennog yn syth, oni bai fod y perchennog wedi rhoi rhestr i chi o gontractwyr y gellwch gysylltu'n uniongyrchol â hwy.
4.03 Os na ellwch gysylltu â'r perchennog, dylech geisio cyngor gan Swyddfa Les Undeb y Myfyrwyr. Mae hawl gan berchenogion i fynd i mewn i'w heiddo, gyda sylw cyntaf, i'w harchwilio i ddibenion cynnal a chadw. Dylech ganiatáu mynediad rhesymol iddynt ar gyfer archwiliadau, gwaith trwsio etc.
4.04 Rydych yn gyfrifol am rai eitemau, er enghraifft, bylbiau trydan. Am fanylion pellach gweler y daflen Gwaith Trwsio: Canllaw i Berchenogion a Thenantiaid yn eich Pecyn Gwybodaeth.

Diogelwch Nwy a Gwenwyn Carbon Monocsid

5.00 Gall gwenwyn carbon monocsid ladd. Ni ellir ei weld ac nid oes iddo flas nac arogl. Caiff ei ollwng o declynnau nwy diffygiol sydd naill ai ddim yn llosgi nwy yn iawn neu sydd ag awyriad annigonol.
5.01 Gwiriwch fod gan yr eiddo Dystysgrif Diogelwch Nwy gyfredol.
5.02 Os ydych yn amau bod nam ar unrhyw declyn dylech roi gwybod am hynny'n syth i'r perchennog. Peidiwch â defnyddio'r teclyn nes bod gosodwr offer nwy wedi ei gofrestru â Corgi wedi cael golwg arno.
5.03 Mewn argyfwng, cysylltwch â rhif argyfwng Nwy Prydain sydd i'w gael yn y llyfr ffôn.

Pan fyddwch yn gadael

6.00 Dychwelwch bob set o allweddi yn brydlon.
6.01 Gwnewch drefniadau i drosglwyddo cost gwasanaethau, a darllenwch y mesuryddion am y tro diwethaf.
6.02 Cofiwch adael yr eiddo mewn cyflwr glân a thaclus, y tu mewn a'r tu allan.

Archwiliadau a Rhestrau Eiddo

7.00 Os ydych wedi cytuno ar restr eiddo ar ddechrau'r denantiaeth, bydd angen i chi sicrhau fod popeth yn dal yno neu fe allai'r perchennog godi tâl arnoch am unrhyw beth sydd ar goll.

Blaendal

8.00 Bydd archwilio'r eiddo gyda'r perchennog cyn i chi adael o gymorth i chi gael eich blaendal yn ôl. Dylech gael eich blaendal yn ôl o fewn 4 wythnos o ddiwedd y denantiaeth.

Cofiwch

9.00 Mae'n ddyletswydd arnoch i ofalu'n iawn am yr eiddo a'i ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol, talu'r rhent fel y cytunwyd a chadw at amodau'r cytundeb tenantiaeth. (Oni bai fod yr amodau'n groes i'ch hawliau dan y gyfraith.)

Cysylltwch â gwasanaethau cynghori i gael gwybodaeth gyfreithiol lawnach.
Mae Canolfan Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn medru cynghori a cynorthwyo.