Trwyddedau Teledu, myfyrwyr a'r gyfraith
Pryd y mae angen Trwydded Deledu arnaf?
Does dim ots pa sianel a ddewiswch – sianel ddaearol, cebl neu loeren. A does dim ots pa offer a ddefnyddiwch – set deledu draddodiadol, consol gêmau, gliniadur neu ffôn symudol. Bydd angen trwydded arnoch os byddwch yn gwylio rhaglenni ar yr un pryd ag y cânt eu dangos ar y teledu. Os cewch eich dal yn defnyddio'r teledu heb drwydded, gallech gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1,000.
Mae hyn yn golygu bod arnoch angen Trwydded Deledu os ydych yn gwylio neu'n recordio rhaglenni trwy'r BBC iPlayer ar yr un pryd ag y maent yn cael eu dangos ar y teledu. Os mai dim ond rhaglenni sydd eisoes wedi'u darlledu yr ydych yn eu gwylio neu'n eu lawrlwytho gan ddefnyddio'r iPlayer neu wasanaethau rhyngrwyd eraill, nid oes angen trwydded.
Mewn rhai achosion, bydd gofyn i chi a'r bobl sy'n rhannu fflat gyda chi gael eich trwydded unigol eich hunain ar gyfer y dyfeisiau teledu yn eich ystafelloedd ond, mewn achosion eraill, gall un drwydded fod yn ddigon ar gyfer pawb sy’n rhannu’r fflat, faint bynnag o ddyfeisiau sydd yn yr adeilad. Mae cytundeb tenantiaeth yr eiddo yn aml yn dangos beth yw’r sefyllfa. Er enghraifft:
-
Mae arnoch angen Trwydded Deledu ar wahân os ydych yn byw mewn neuadd breswyl ac yn defnyddio dyfais deledu yn eich ystafell, neu os ydych yn rhannu tŷ gyda myfyrwyr eraill ac yn defnyddio dyfais deledu yn eich ystafell, a bod eich ystafell yn lle sy’n cael ei feddiannu ar wahân (fel rheol, os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar wahân).
-
Os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar wahân ond mai dim ond mewn man cymunedol y defnyddir y teledu, mae un drwydded yn ddigon.
-
Os ydych yn rhannu tŷ gyda myfyrwyr eraill ac yn defnyddio dyfais deledu yn eich ystafell eich hunan, ond y gellir trin y tŷ fel un lle sy’n cael ei rannu gan bawb, mae un Drwydded Deledu'n ddigon (fel rheol, byddai cytundeb tenantiaeth ar y cyd yn dangos mai dim ond un drwydded y byddai ar y trigolion ei hangen).
On'd yw Trwydded Deledu fy rhieni'n ddigon i mi?
Dim ond o dan yr amgylchiadau prin a chyfyngedig a ganlyn y bydd Trwydded Deledu eich rhieni yn cynnwys dyfais a ddefnyddir gennych chi mewn llety myfyriwr:
Os nad ydych yn bodloni'r holl ofynion hyn, bydd angen i chi brynu'ch Trwydded Deledu chi'ch hunan ar gyfer eich llety myfyriwr. I holi'n iawn a gewch chi'ch eithrio rhag gorfod cael trwydded, ffoniwch ni ar 0300 790 6042
Beth os byddaf yn symud allan o'm llety myfyrwyr?
Os ydych chi’n symud allan o neuadd breswyl neu lety arall i fyfyrwyr, cofiwch nad yw’ch Trwydded Deledu yn symud gyda chi ac y bydd angen i chi gysylltu â TV Licensing i roi’ch cyfeiriad newydd. Gallwch ddiweddaru’ch manylion trwy fynd i wefan TV Licensing (www.tvlicensing.co.uk/studentinfo) a dilyn y cyfarwyddiadau. Dim ond rhyw funud neu ddwy y mae hyn yn ei gymryd. Byddan nhw’n gofyn i chi am rif eich Trwydded Deledu a’ch cyfeiriad newydd.
Ar yr un pryd, gallwch ddewis cael eich Trwydded Deledu trwy e-bost yn hytrach na chael trwydded bapur trwy’r post.
Does dim angen fy Nhrwydded Deledu arnaf dros yr haf. A gaf i ad-daliad?
Os nad ydych yn aros yn y brifysgol dros yr haf ac na fydd arnoch angen y Drwydded Deledu eto cyn iddi ddod i ben, mae gennych hawl i gael ad-daliad am unrhyw chwarter sydd heb ei ddefnyddio (tri mis calendr llawn). Ar yr amod eich bod wedi prynu’ch Trwydded Deledu ym mis Hydref ac na fydd arnoch ei hangen ym misoedd Gorffennaf, Awst na Medi, gallech fod yn gymwys i gael ad-daliad.
Byddai angen i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr brynu Trwydded Deledu ar ddechrau'r tymor ym mis Hydref er mwyn sicrhau bod digon o amser ar ôl ar ddiwedd y flwyddyn i gael ad-daliad. Os byddwch yn prynu Trwydded Deledu yn y mis y mae arnoch ei hangen, bydd yn dod i ben 12 mis o'r cyntaf o'r mis hwnnw.
I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael ad-daliad, ewch i wefan TV Licensing (www.tvlicensing.co.uk/studentinfo) neu ffoniwch 0300 790 6042.
Sut fydd posib gwybod os nad oes gen i Drwydded Deledu?
Mae cronfa ddata TV Licensing yn rhestru cyfeiriadau sydd heb Drwydded Deledu, yn cynnwys llety prifysgolion ac mae swyddogion yn galw mewn cyfeiriadau sydd heb drwydded.
Os defnyddiwch offer sy'n derbyn rhaglenni teledu heb Drwydded Deledu ddilys, gallech gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1,000, a chostau'r llys, a bydd angen i chi brynu Trwydded Deledu os oes arnoch angen un o hyd. Cost trwydded ar gyfer teledu lliw yw £145.50.
I gael rhagor o wybodaeth, dylai myfyrwyr gysylltu â TV Licensing ar 0300 790 6042. I gael gwybod am y gwahanol ffyrdd o dalu am eich Trwydded Deledu, yn cynnwys Debyd Uniongyrchol, ewch i wefan TV Licensing (www.tvlicensing.co.uk/studentinfo).