Accessibility Toolbar  >

Font size:

  • Increase Font Size
  • Reset Font Size
  • Decrease Font Size [alt+e]
UWB Crest

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Iechyd a lles

Delwedd yn dangos myfyrwyr ar y traeth

Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn bryder sylfaenol i'r Brifysgol; ac rydym yn ceisio creu amgylchedd sy'n addas ar gyfer eich astudiaethau academaidd a'ch iechyd, lles a datblygiad personol.

Yn ystod eich amser yn y Brifysgol cewch gyfle i archwilio ystod o weithgareddau, efallai am y tro gyntaf, ynghyd â chyfleoedd i fwynhau bywyd cymdeithasol sy'n eich gweddu.

Mae Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol yn gweithio gyda'i gilydd i wella'ch lles.

  • mae tiwtoriaid personol ar gael ym mhob ysgol academaidd i'ch helpu gydag unrhyw fater academaidd
  • rydym yn cynnig sesiynnau sgiliau astudio i roi cymorth i chi o fewn yr amgylchedd dysgu
  • mae gennym gynllun arweinwyr cyfoed llwyddiannus sydd wrth law i'ch helpu yn ystod wythnosau cyntaf yn y Brifysgol
  • mae ein Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Chanolfan Cynghori Undeb y Myfyrwyr ar gael i'ch helpu gydag ymholiadau penodol neu bryderon
  • mae ein gwasanaeth cynghori myfyrwyr yn hollol gyfrinachol
  • mae gennym dîm o wardeiniaid yn darparu cefnogaeth o fewn y neuaddau preswyl
  • mae gennym dîm argyfwng sy'n gallu helpu myfyrwyr sy'n byw yn y sector breifat
  • mae ein gwasanaeth jobmart yno i'ch helpu i ddod o hyd i waith rhan amser, ac mae gennym gronfa caledi os ydych chi'n cael anawsterau ariannol
  • mae gennym adnoddau iechyd arbennig i fyfyrwyr yn ein meddygfa leol
  • mae ystod o glybiau a chymdeithasau ar gael i chi ymuno a hwy i brofi pethau newydd - gallwch gychwyn clwb eich hun os ydych chi eisiau ymuno a chlwb sydd eisoes ddim ar gael
  • mae Undeb Athletau Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli amryw o ddiddordebau chwaraeon, gan gynnwys sesiynnau blasu ar gyfer chwaraeon newydd, ac mae Maes Glas yn darparu canolfan ar gyfer llu o weithgareddau chwaraeon ynghyd â chynnig adnoddau iechyd a ffitrwydd
  • mae ein gwasanaethau diogelwch, gan gynnwys swyddog heddlu cymunedol ein hunain, yn sicrhau eich diogelwch personol

Edrychwch allan am yr ystod eang o weithgareddau Lles Myfyrwyr sy'n digwydd trwy'r flwyddyn - bydd y rhain yn cael ei hysbysu ar Fewnrwyd y Brifysgol.