Gwylio - Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor
Sut beth ydi bywyd ym Mangor? Gadewch inni ddangos i chi!
Beth bynnag ydych chi yn astudio, mae'r amser a'r ymroddiad a ‘da chi’n cael gan eich darlithwyr yn anhygoel - dwi'n teimlo fel enw yn hytrach na rhif!
Mae’r rhan fwyaf o ‘nghwrs i yn cael ei ddysgu trwy ddarlithoedd a seminarau, mewn darlithfeydd modern fel hwn.
Dwi’n treulio lot o amser yn gweithio mewn labordai. Mae’r cyfleusterau’n anhygoel. Mae’n helpu fi i gael profiad ymarferol o bynciau bywyd go-iawn.
Dwi'n gwneud llawer o astudio annibynnol - dyma Shankland, y Llyfrgell Gymraeg, mae’n hyfryd yma.
Dwi wedi dewis i astudio rhan o fy ngradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn wych i ragolygon fy ngyrfa os byddaf yn dewis i aros yng Nghymru.
Mae digon o amser hefyd i fwynhau hefyd. Mae UMCB yn rhan o Undeb y Myfyrwyr sy'n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg a dysgwyr.
Boed hynny’n chwaraeon - dwi'n chwarae pêl droed fel rhan o Chwaraeon y Cymric!
Ymuno ag un o’r cymdeithasau niferus - fel Aelwyd JMJ, lle cawn gyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel yr Eisteddfod Rhyng-gol a’r Genedlaethol.
Neu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned trwy brojectau gwirfoddol fel yr un yma!
Dwi'n byw yn JMJ, sef y neuadd i myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol a mae’r cymuned yn anhygoel yma.
Dwi’n byw adra, ond dwi’n dal yn rhan o Brofiad Bangor!
Boed yn mwynhau panad cyflym rhwng darlithoedd,
neu yn astudio yn un o’r mannau dysgu cymdeithasol.
Mae’r Cymric yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, ac mae digwyddiadau Campws Byw bob wsos.
Dwi’n cael profiad ymarferol ar leoliad gwaith gwych gyda’r Coleg Cymraeg yn trefnu digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r iaith Cymraeg.
Ac fe gymerais i flwyddyn yn astudio dramor yn wlad Belg ag yn yr Eidal a chael golwg newydd ar fywyd.
Mae’r coedwigoedd yma yn anhygoel. Dwi wrth fy modd yn beicio mynydd yn fy amser sbâr.
Os ydych chi’n gweld hi’n anodd - mae’r gwasanaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr ar gael felly fydd rhywun yma yn barod i siarad efo chi. A mae o ar gael yn ddwyieithog.
Os ydych chi’n dymuno gweithio ochr yn ochr â’ch astudiaethau yma ym Mangor, mae yna lawer o gyfleoedd ar gael.
Dwi’n llysgennad myfyrwyr, sy’n golygu fy mod i’n cael fy nhalu i weithio mewn digwyddiadau fel y diwrnodau agored a hyd yn oed creu cynnwys digidol i’r Brifysgol.
Mae’r bywyd gyda’r nos yn wych - mae’r ddinas yn fach, ac mi fyddwch bob amser yn taro i mewn i ffrindiau mewn tafarndai a chlybiau ac mae’n teimlo’n ddiogel bob tro.
Dwi wrth fy modd yn mwynhau ffilm, cerddoriaeth, y celfyddydau a diwylliant mewn cymuned bywiog Cymraeg.
Beth fydd eich profiad chi fel, yma, ym Mangor?