Er mwyn eich helpu i astudio rydym yn darparu dewis eang o adnoddau dysgu sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol.
Ein nod yw darparu cyfleusterauac adnoddau Technoleg Gwybodeth o'r safon uchaf ar eich cyfer.
Rydym yn cynnig
- Dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr
- Naw o ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Ym mhob ystafell wely yn y neuaddau preswyl y mae mynediad i'r rhyngrwyd, sy'n gyflymach na band eang cartref lleol.
- Mae mannau cysylltiedig â’r rhwydwaith di-wifr yn yr holl lyfrgelloedd ac mae amrywiaeth o fannau cyffredin ac astudio yn y mwyafrif o’r adeiladu dysgu.
- Amrywiaeth eang o feddalwedd arbenigol sydd ar gael yn ein holl ystafelloedd cyfrifiadur, a’r mwyafrif helaeth ar gael hefyd i’w defnyddio o’ch cyfrifiadur unrhyw fan lle mae gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd.
- Ystod eang o dechnoleg addysgol yn cynnwys Blackboard (rhith-amgylchedd dysgu masnachol), byrddau trafod, tudalennau cyhoeddiadau a llawer mwy
- Desg gymorth a gwasanaeth cynghori i’ch helpu i ddefnyddio TG – ar gael dros y ffôn, mewn person neu ar ebost
- Argraffu laser du a gwyn o’r holl ystafelloedd cyfrifiaduron ac argraffu lliw mewn amrywiaeth o feintiau, o A4 arferol i faint poster A0
- Gwasanaethau ar-lein i arbed amser i chi (pa fodiwlau ydw i’n eu hastudio? Beth yw fy marciau? etc)
- Uned argraffu a rhwymo ar gyfer argraffu swmpus ac i rwymo’ch project/thesis
- Y gorau posib i fyfyrwyr ag anableddau: gall y Brifysgol eich cynorthwyo i wneud cais am Lwfans Myfyriwr Anabl i'ch helpu i gael gafael ar y dechnoleg gynorthwyol a'r gefnogaeth fydd eu hangen arnoch yn eich astudiaethau. Rydym hefyd yn darparu dwy ystafell Technoleg Gynorthwyol arbenigol i fyfyrwyr anabl neu i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Mae'r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron sy'n rhedeg amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, argraffydd Braille, sganiwr Rainbow, chwyddwr CCTV a dodrefn y gellir newid eu huchder.
- Staff cyfrwng Cymraeg ar gael drwy’r adeg
- Porwr gwe Cymraeg
- Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg (wedi’i ddatblygu ym Mangor)
Cefnogi Dysgu
Rydym yn cynnig:
- Gwasanaethau Technegol Addysgol i gefnogi staff a myfyrwyr i ddefnyddio technoleg yn eu haddysg a’u dysgu
- Gwasanaethau cynhyrchu’r we ac amlgyfrwng sy’n gyfrifol am y Ganolfan Cefnogi Astudio. Maent yn helpu myfyrwyr gydag anghenion arbennig i ddefnyddio cyfleusterau amlgyfrwng
- Gwasanaethau Clyweled sy’n gyfrifol am Ganolfan y Cyfryngau a gwasanaethau Cefnogi’r Dosbarth. Mae’r gwasanaethau yma yn cefnogi’r tair ystafell fideo-gynadledda sy’n ein galluogi i gydweithio gydag academyddion dros y byd
- Canolfan y Cyfryngau sy’n darparu stiwdio deledu a radio a chyfarpar proffesiynol y Brifysgol ynghyd âg adnoddau ôl-gynhyrchu
- Yr Uned Reprograffeg (Argraffdy Menai) sy’n cynnig gwasanaethau argraffu digidol mewn lliw, rhwymo a lamineiddio’ch traethawd hir. Mae’r argraffdy hefyd yn cynnig gwasanaeth cynghori ar gynllunio graffeg a chyflwyniad print.